Byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd

Updated: 11:00 17 January 2025

Gallwn gadarnhau bod dwy orsaf dŵr potel swyddogol wedi agor ym Mharc Eirias (LL29 7SP) a Zip World Conwy (LL32 8QE). Byddwn hefyd yn agor trydedd orsaf ddŵr ac yn anelu at ddosbarthu paledi o ddŵr potel i rai lleoliadau cymunedol allweddol i gefnogi ein cwsmeriaid.

Rydym yn parhau i gefnogi ysbytai gyda thanceri ac yn danfon dŵr potel i gartrefi gofal ac at y cwsmeriaid bregus hynny sy’n ddibynnol iawn ar ddŵr sydd ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth.

I gydnabod yr anghyfleustra a brofir gan gwsmeriaid oherwydd y diffyg cyflenwad, bydd pob cartref cymwys yn cael £30 mewn iawndal am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau. Bydd hwn yn cael ei dalu'n awtomatig i gwsmeriaid yn eu cyfrifon banc. Bydd sieciau'n cael eu dosbarthu dros yr wythnosau nesaf i gwsmeriaid nad ydynt wedi cofrestru cyfrif banc gyda ni. Bydd cwsmeriaid busnes yn cael iawndal o £75 am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau ond bydd busnesau hefyd yn gallu cyflwyno hawliadau ar wahân am golli incwm ychwanegol. Bydd manylion yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan erbyn hanner dydd heddiw ar gyfer cwsmeriaid busnes y mae’r digwyddiad hwn yn effeithio arnynt. 

Rydym yn gwerthfawrogi bod hyn achosi rhwystredigaeth wirioneddol i'n cwsmeriaid ac mae'n wir ddrwg gennym. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bawb hyd nes y bydd y sefyllfa wedi'i datrys yn llawn. Hoffem hefyd ddiolch i’n holl gydweithwyr a chontractwyr sy’n gweithio’n ddiflino ar y gwaith atgyweirio ac yn cefnogi ein cwsmeriaid mewn amgylchiadau anodd iawn.

Gall cwsmeriaid gael y wybodaeth ddiweddaraf ar yn eich ardal neu ein dilyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd

Byddwn yn diweddaru cwsmeriaid heddiw ac rydym yn ymddiheuro i unrhyw sydd wedi colli eu cyflenwad dŵr. Hoffem sicrhau ein cwsmeriaid ein bod yn gweithio'n galed i drwsio’r biben a datrys y broblem.

Gyrfaoedd

Ymunwch â’n cymuned talent

Mae ein samplwyr dŵr, peirianwyr rhwydwaith, gwyddonwyr, gweithredwyr carthffosydd a’n cynghorwyr gwasanaeth cwsmeriaid i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i ennill ffydd ein cwsmeriaid bob dydd.

Ewch i’n gyrfaoedd