Gallwn gadarnhau bod y gwaith atgyweirio'r prif bibell ddŵr ym Mrychdyn wedi'i gwblhau y prynhawn yma.
Mae'r gwaith o ail-lenwi’r rhwydwaith ddŵr hefyd wedi dechrau. Bydd hyn yn cymryd amser gan fod angen osgoi achosi unrhyw nam arall ar y rhwydwaith eang hwn sy'n fwy na 500km o hyd.
Bydd yr anghyfleustra yn parhau dros y 48 awr nesaf wrth i'r rhwydwaith ail-lenwi'n raddol. Dylai’r cyflenwad fod wedi ei adfer ar gyfer y rhan fwyaf o gwsmeriaid yfory, ond ni fydd y cyflenwadau wedi eu hadfer yn llwyr i bawb tan ddydd Sul.
Mae'n ddrwg gennym am hyn. Roedd y gwaith o atgyweirio yn heriol gan fod y brif bibell ddŵr 5m o dan y ddaear a ceblau tanddaearol o’i gwmpas.
Rydym yn parhau i gefnogi ein cwsmeriaid mwyaf bregus, ac hefyd yn darparu dŵr i 2 ysbyty a 20 cartref gofal.
Gall cwsmeriaid gael cyflenwad o boteli dŵr yn ein canolfannau:
- Pafiliwn Jade Jones, Y Fflint CH6 5ER
- Maes Parcio a Theithio, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, CH5 2NY
- Maes Parcio Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NF
Rydym yn gofyn i gwsmeriaid i gymryd y dŵr sydd angen arnyn nhw yn unig.
Os oes gennych unrhyw aelodau teulu, ffrindiau neu gymdogion hŷn neu fregus, rydym yn eich annog i wirio arnynt i sicrhau eu bod â dŵr potel.
Rydym wedi cyhoeddi’r manylion ynglŷn a’r iawndal yma.
Rydym wedi cyhoeddi llythyr agored at ein cwsmeriaid yma.
I gael y newyddion diweddaraf, ewch i Yn Eich Ardal neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.