Oriau agor dros y Nadolig

Information

Noder mai oriau agor ein canolfan gyswllt ar gyfer bilio a'n sgwrs we yw:

Dydd Llun 29 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mawrth 30 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mercher 31 Rhagfyr: 08:00 - 14:00
Dydd Iau 1 Ionawr: Ar gau
Dydd Gwener 2 Ionawr: 08:00 - 18:00
Dydd Sadwrn 3 Ionawr: 09:00 - 13:00

Mae ein canolfan gyswllt ar gyfer Gweithrediadau ar agor 24/7 drwy gydol cyfnod y Nadolig ar gyfer unrhyw argyfwng.

Cynllun Cymorth Dyled WaterDirect


Os yw eich cwsmer mewn trafferthion ariannol ac mewn dyled gyda ni, gall gynllun dyledion WaterDirect helpu trwy dalu’r taliadau dŵr a'r ddyled trwy fudd-daliadau’r cwsmer. Mae hyn yn golygu y bydd yr ôl-ddyledion yn lleihau'n araf, gan ei helpu i ennill rheolaeth dros y sefyllfa.

Sut mae’n gweithio?

Rydym yn gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i gynnig i'ch cwsmer y dewis o dalu’r taliadau dŵr drwy ei fudd-daliadau.

Mae hyn yn golygu:

  • Ni fyddwch yn methu eich taliadau
  • Ni fydd angen i ni gymryd camau i adfer yr arian
  • Mae’n hwylus, am fod y taliadau’n cael eu codi o’ch budd-daliadau yn awtomatig

Byddwn hefyd yn rhoi gostyngiad o £25 oddi ar taliadau’r flwyddyn gyfredol.

Dyma esiampl

Enghraifft yn unig yw hyn a gall rhandaliadau cwsmeriaid fod yn wahanol i’r isod.

Math o Dâl Swm
Taliadau’r flwyddyn gyfredol £300
Disgownt -£25
Dyledion £250
Cyfanswm  £525

Byddem yn rhannu'r cyfanswm dros 52 wythnos, felly gan gynnwys y gostyngiad byddai hyn yn £8.99 yr wythnos ac yna byddech yn ddiddyled ar ddiwedd y cynllun.

A yw eich cwsmer yn gymwys?

Efallai y bydd yn gymwys os:

  1. Mae’r cyfrif dŵr ar gyfer eiddo domestig lle mae’n byw ar hyn o bryd.
  2. Mae’r ôl-ddyledion yn fwy na £50.
  3. Mae’n derbyn un o'r budd-daliadau canlynol:
    • Cymhorthdal Incwm
    • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
    • Credyd Pensiwn
    • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
    • Credyd Cynhwysol

Gwnewch gais ar-lein

i’n cynllun dyledion WaterDirect

Drwy lenwi'r ffurflen hon, mae'r cwsmer yn cytuno i ni gyflwyno cais i'r Adran Gwaith a Phensiynau ar ei ran.

Bydd yn cael gwybod o fewn 6 i 8 wythnos o gyflwyno'r cais i gadarnhau a fu’n llwyddiannus. Bydd y rhandaliadau'n cael eu cadarnhau os ydych / ydyw yn llwyddiannus.

I gysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau yn uniongyrchol, edrychwch ar y ffyrdd o gysylltu â nhw..

Cais ar-lein