Cronfa Cymorth Dyled Cymorth i Gwsmeriaid ar gyfer Partneriaid REACH


Bwriad y Gronfa Cymorth Dyled Cymorth i Gwsmeriaid yw helpu pobl sy’n wynebu anawsterau ariannol difrifol. Darllenwch ymlaen i weld a ydych chi’n gymwys, ac os felly, sut i fynd ati i wneud cais.

Beth yw’r Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid?

Sefydlwyd y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid i helpu cwsmeriaid i glirio’u dyledion gyda ni. Os bydd eich cais yn llwyddiannus:

  • Byddwn ni’n trefnu cynllun talu fesul mis, pythefnos neu wythnos i’ch helpu chi i gynllunio ar gyfer taliadau’r flwyddyn gyfredol.
  • Ymhen 6 mis, os byddwch chi wedi llwyddo i wneud eich taliadau i gyd, byddwn ni’n dileu 50% o’ch dyled.
  • Os byddwch chi’n llwyddo i dalu am 6 mis pellach, byddwn ni’n dileu gweddill y ddyled.

Enghraifft o randaliadau

Enghraifft yn unig yw hon – efallai y bydd gan gwsmeriaid randaliadau gwahanol i’r isod. 

Ar sail dyled o £550, a bil o £400 ar gyfer y flwyddyn gyfredol:

  • Byddai eich rhandaliadau wythnosol yn £7.69 (bil o £400 ÷ 52 wythnos)
  • Rydym yn talu 50% cyntaf (£275) eich dyled ar ôl 26 wythnos.
  • Rydym yn talu ail 50% (£275) eich dyled ar ôl 52 wythnos.

Os byddwch yn gwneud eich taliadau’n brydlon dros y flwyddyn, byddech chi wedi talu eich bil a byddwn ni wedi clirio’r ddyled.

Dyma gyfle untro. Os byddwch yn mynd i ôl-ddyledion eto, ni fyddai cynllun Cymorth Dyled y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid yn cael ei gynnig.

Ydych chi’n gymwys?

Efallai y byddwch chi’n gymwys:

  • Os yw eich cyfrif dŵr ar gyfer yr eiddo domestig lle’r ydych chi’n byw ar hyn o bryd.
  • Os yw eich dyled yn fwy na £150.

Os nad ydych chi am i ni wirio eich sgôr credyd, cewch drefnu apwyntiad i lenwi ffurflen gais gyda’ch swyddfa Moneyline Cymru neu Cyngor ar Bopeth.

Pan ddaw eich ffurflen gais ar lein neu’ch ffurflen gais trwy Moneyline Cymru neu Gyngor ar Bopeth i law, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi a yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio cyn pen 5 diwrnod gwaith.

Gwneud cais ar-lein

Gallwch wneud cais ar-lein gyda ffurflen cynllun Cymorth Dyled ein Cronfa Cymorth i Gwsmeriaid.

Gwybod mwy

StepChange

Os ydych chi’n pryderu am ddyled, gall StepChange fod o gymorth.

Elusen dyledion StepChange yw elusen cyngor dyled mwyaf blaenllaw'r DU. Mae ganddyn nhw dros 20 mlynedd o brofiad o helpu pobl i gael gwared ar eu dyledion drwy ddarparu atebion ymarferol.
stepchange.org