Jody Perkins

Cynghorydd Cymunedol Bregusrwydd Cwsmeriaid

Cynghorydd Hyrwyddiadau Cwsmeriaid Agored i Niwed


Eich enw llawn a theitl eich swydd:

Jody Perkins - Cynghorydd Cymunedol Bregusrwydd Cwsmeriaid

Dywedwch ychydig wrthym amdanoch chi:

Rwy'n byw gartref gyda fy ngŵr, pedwar mab a'n ci. Rwy'n hoffi mynd ar wyliau gartref ac i ffwrdd, ymweld â thirnodau hanesyddol a mannau o ddiddordeb, coginio ryseitiau o ardal Môr y Canoldir, a mwynhau amser gyda’r teulu.

Rwy’n angerddol dros helpu a chynorthwyo pobl eraill ac wedi bod ers pan oeddwn i’n blentyn. Mae hyn wedi fy arwain i wirfoddoli mewn clwb ieuenctid lleol ar gyfer oedolion ifanc ag anableddau. Rwyf hefyd wedi dod yn 'gyfaill' i Age Cymru yn ddiweddar. Rwy'n mwynhau fy ngwaith gwirfoddol yn fawr a hoffwn wneud llawer mwy yn y dyfodol.

Ar wahân i'r uchod i gyd, fy lle hapus yw rhwydweithio, rhannu erthyglau cymorth a chefnogi a phori'r rhyngrwyd am syniadau ac ysbrydoliaeth.

Beth yw diwrnod arferol yn y gwaith i chi?

Rwy'n newydd i deulu'r Tîm Hyrwyddiadau; mae wir wedi bod yn uchelgais ers amser i mi fod yma.

Drwy gydol fy ngyrfa yn Dŵr Cymru, rwyf wedi arbenigo mewn helpu a chynorthwyo ein cwsmeriaid mwyaf agored i niwed. Nid dim ond gwaith yw hyn i mi; dyma fy angerdd a dyna sy’n fy nghymell. Bydd y swydd Cynghorydd Hyrwyddiadau yn caniatáu i mi ddefnyddio fy sgiliau a fy ngwybodaeth arbenigol i helpu ein cwsmeriaid a'r sefydliadau y maen nhw’n gweithio gyda nhw. Fy addewid yw cael effaith fawr yn ein cymunedau gan ennyn ymddiriedaeth yr holl gwsmeriaid, partneriaid a chydweithwyr. Rwy'n edrych ymlaen at hyrwyddo'r holl waith da a wnawn yma, yn ein Hadran Cwsmeriaid Sy'n Agored i Niwed.

Beth yn eich barn chi sy'n eich gwneud chi'n dda yn eich swydd?

Mae bod yn empathig, yn ofalgar, yn ystyriol ac yn anfeirniadol, yn allweddol i fy llwyddiant yn y swydd. Mae sgiliau gwrando hefyd yn allweddol i mi. Os byddwch yn gofyn y cwestiynau cywir, yn gwrando'n weithredol, ac yn gadael i'ch cwsmeriaid siarad, byddwch yn derbyn digon o wybodaeth i gyrraedd y canlyniad gorau, y tro cyntaf, bob tro.

Dywedwch wrthym am yr hyn yr ydych yn fwyaf balch ohono yn eich gwaith

Un stori sydd wir yn sefyll allan i mi, oedd cael cymorth ar gyfer cwsmer a oedd wedi cael strôc dros 30 mlynedd yn ôl. Yn anffodus, roedd ein cwsmer wedi mynd yn gaeth i'r tŷ ers iddo gael strôc, ac ni allai wneud cais am gymorth a chefnogaeth oherwydd ei fod wedi'i ynysu ac yn methu â chyfathrebu.

Roedd hen ffrind iddo wedi cysylltu â'r tîm, gan fynegi pryderon. Trefnais ar unwaith i gydweithiwr asiant maes ymweld â'r cwsmer a'i ffrind ar yr un pryd. Roedd ffrind y cwsmer yn garedig wedi teithio ar draws Cymru i'w gartref. Ar ôl i fy nghydweithiwr gyrraedd, fe wnaeth e’ fy ffonio i, ac fe wnes gofrestru'r cwsmer ar gyfer y cymorth a'r gefnogaeth yr oedd eu hangen yn ddybryd. Yna, gwnaethom sefydlu Debyd Uniongyrchol i sicrhau ei fod yn gallu talu yn hawdd a rhoddais wybodaeth hanfodol i gyfeirio’r cwsmer i gael cymorth pellach.

Cefais deimlad gwych o gyflawniad, o wybod ein bod, gyda'n gilydd, wedi cael effaith mor gadarnhaol ar fywyd y cwsmer hwn. Canlyniad mor wych i sefyllfa drist iawn.