Mae ein timau'n gweithio'n galed i atgyweirio'r brif bibell ddŵr wedi byrstio sy'n effeithio ar gyflenwadau i gwsmeriaid yn ardaloedd Llanrhymni/Llaneirwg yng Nghaerdydd. Rydym yn disgwyl i'r gwaith barhau drwy'r nos.
Mae gorsafoedd dŵr potel ar gael yma:
- Canolfan Hamdden y Dwyrain, Rhodfa Llanrhymni CF3 4DN
- Archfarcnad Tesco, Llaneirwg, CF3 0EF
Byddwn hefyd yn cefnogi ein cwsmeriaid agored i niwed ar y Gofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth yn uniongyrchol. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i adfer cyflenwadau cyn gynted â phosibl ac ymddiheurwn am yr anghyfleustra a achoswyd gennym.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.