Byrst mewn Pibell Ddŵr - Brychdwn

Wedi’i ddiweddaru: 22:00 15 August 2025

Gallwn gadarnhau bod y gwaith atgyweirio'r prif bibell ddŵr ym Mrychdyn wedi'i gwblhau y prynhawn yma.

Mae'r gwaith o ail-lenwi’r rhwydwaith ddŵr hefyd wedi dechrau. Bydd hyn yn cymryd amser gan fod angen osgoi achosi unrhyw nam arall ar y rhwydwaith eang hwn sy'n fwy na 500km o hyd.

Bydd yr anghyfleustra yn parhau dros y 48 awr nesaf wrth i'r rhwydwaith ail-lenwi'n raddol. Dylai’r cyflenwad fod wedi ei adfer ar gyfer y rhan fwyaf o gwsmeriaid yfory, ond ni fydd y cyflenwadau wedi eu hadfer yn llwyr i bawb tan ddydd Sul.

Mae'n ddrwg gennym am hyn. Roedd y gwaith o atgyweirio yn heriol gan fod y brif bibell ddŵr 5m o dan y ddaear a ceblau tanddaearol o’i gwmpas.

Rydym yn parhau i gefnogi ein cwsmeriaid mwyaf bregus, ac hefyd yn darparu dŵr i 2 ysbyty a 20 cartref gofal.

Gall cwsmeriaid gael cyflenwad o boteli dŵr yn ein canolfannau:

  • Pafiliwn Jade Jones, Y Fflint CH6 5ER
  • Maes Parcio a Theithio, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, CH5 2NY
  • Maes Parcio Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NF

Rydym yn gofyn i gwsmeriaid i gymryd y dŵr sydd angen arnyn nhw yn unig.

Os oes gennych unrhyw aelodau teulu, ffrindiau neu gymdogion hŷn neu fregus, rydym yn eich annog i wirio arnynt i sicrhau eu bod â dŵr potel.

Rydym wedi cyhoeddi’r manylion ynglŷn a’r iawndal yma.

Rydym wedi cyhoeddi llythyr agored at ein cwsmeriaid yma.

I gael y newyddion diweddaraf, ewch i Yn Eich Ardal neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ionawr 2023


Mae ein Tîm Cymunedol Cwsmeriaid Agored i Niwed wedi bod yma ac acw yn codi ymwybyddiaeth o’n cynlluniau a’n gwasanaethau cymorth, mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau ledled Cymru yn ystod y mis.

Mae bod yn y gymuned yn caniatáu i ni gefnogi’r bobl hynny sydd o bosibl wedi eu hallgau yn ddigidol, neu’r rhai hynny sydd ag anableddau neu gyflyrau meddygol sy’n eu hatal rhag defnyddio ein cymorth drwy ein sianeli cyfathrebu traddodiadol.

Bydd rhai o’n cwsmeriaid yn rhoi gwybod i ni pa mor anodd yw cyfathrebu ar y ffôn iddynt oherwydd gorbryder neu eu bod yn poeni. Mae bod yn y gymuned yn ein helpu i gyrraedd y cwsmeriaid hynny i roi’r gefnogaeth y mae mor daer ei angen arnynt.