Rhwystrau mewn Carthffosydd


Mae ein tîm o arolygwyr carthion yn gweithio i helpu i gadw ein rhwydwaith carthffosydd yn glir. Ond ceir rhwystrau weithiau a gallant atal neu leihau llif carthion trwy bibellau carthffosydd.

Mae rhwystr yn y garthffos yn gallu atal, neu lesteirio llif carthffosiaeth trwy’r pibellau. Pan fo hyn yn digwydd, mae’r garthffosiaeth yn gallu cronni yn y rhwydwaith o bibellau danddaear a gorlifo trwy dyllau yn y ffyrdd, mewn gerddi neu ar dir preifat. Mae rhwystrau fel hyn yn gallu llygru afonydd, neu beri i’ch tŷ bach orlifo gan achosi difrod mawr yn eich cartref.

Sut byddaf i’n gwybod bod rhwystr mewn carthffos?

Os sylwch chi fod drewdod anghyffredin yng nghyffiniau gorchuddion y garthffos, neu fod y dŵr yn draenio’n araf iawn o’ch tŷ bach, mae’n bosibl bod rhwystr yn y garthffos. Ymhlith yr arwyddion eraill mae dŵr yn gollwng o’r siambrau neu’r tyllau archwilio yn eich gardd neu o’r gylïau wrth ymyl eich cartref.

0800 085 3968

Beth y gallwch chi ei wneud

Os gallwch chi, codwch orchuddion ysgafn unrhyw Siambrau Archwilio, ond dim ond y rhai sydd ar eich eiddo chi. Edrychwch i weld a yw’r pibellau danddaear yn glir ai peidio, ac a yw’r ddŵr yn llifo’n rhydd. Mae gorchuddion y Siambrau Archwilio yn agos at y tŷ fel rheol, ar y dreif neu yn yr ardd.

Os yw’r pibellau danddaear yn glir, yna mae’r broblem siŵr o fod yn eich pibell carthffosiaeth breifat (a elwir yn ddraen) a’ch cyfrifoldeb chi fydd clirio’r rhwystr. Cewch alw plymwr neu gontractwr preifat i wneud hyn (chwiliwch yn y llyfr ffôn o dan ‘drain’).

Bwrwch olwg ar unrhyw bolisïau yswiriant sydd gennych ar gyfer eich cartref neu’ch adeiladau yn gyntaf, am ei bod hi’n bosibl fod gennych yswiriant am gost clirio rhwystrau.

Os yw’r broblem yn effeithio ar fwy nag un eiddo, os oes dŵr yn gorlifo y tu hwnt i ffin eich eiddo (e.e. yn y ffordd), neu os ydych chi’n gwybod bod y pibellau carthffosiaeth ar eich eiddo’n cymryd carthffosiaeth o fwy nag un cartref, yna mae’n bosibl bod y broblem ar y rhwydwaith o garthffosydd cyhoeddus. Os felly, ni sy’n gyfrifol a dylech roi galwad i ni ar 0800 085 3968.

Beth fyddwn ni’n ei wneud

Byddwn ni’n anelu at gael criw jetio allan atoch cyn pen 4 awr ar ôl i ni gael gwybod bod problem. Fodd bynnag, mewn cyfnodau prysur, (e.e. mewn glaw trwm) mae’n bosibl y bydd yna oedi, a byddwn ni’n eich rhybuddio am hyn pan fyddwch chi’n ffonio.

Os bydd pethau’n newid ar ôl i ni siarad â chi, neu os ydyn ni’n mynd i fod yn hwyr, byddwn ni’n ceisio rhoi gwybod i chi bob tro.

Pan fydd y criw jetio’n cyrraedd, byddwn ni’n ymchwilio i’r mater ac yn ceisio canfod beth sy’n achosi’r rhwystr. Os yw’r rhwystr yn ein rhwydwaith o garthffosydd, byddwn ni’n ei glirio i chi yn rhad ac am ddim.

Os byddwn ni’n dod o hyd i rwystr yn y bibell garthffosiaeth breifat, gallwn gynnig gwasanaeth i glirio’r rhwystr tra’n bod ni yno. Ond byddai angen codi tâl am y gwasanaeth ychwanegol yma. Dylid nodi, os ydym ni wedi gadael safle lle mae rhwystr mewn pibell breifat, ni fyddwn ni’n dychwelyd eto i glirio’r un rhwystr yn ddiweddarach.

Fel arall, croeso i chi alw plymwr neu gontractwr preifat i glirio’r rhwystr i chi (chwiliwch yn y llyfr ffôn o dan ‘drain’).

Rydw i wedi gollwng rhywbeth i lawr y draen

Bob blwyddyn, rydyn ni’n tynnu sgriwdreifers, coesau cadair, rhodenni clirio draeniau ac eitemau eraill di-ri y mae pobl wedi eu defnyddio i geisio clirio rhwystrau allan o ddraeniau. Os byddwch chi’n ceisio clirio draen eich hun, ond yn gollwng rhywbeth i’r garthffos, cofiwch roi gwybod i ni.

Mae hi’n debygol iawn y bydd y pethau hyn yn rhwystro llif pibell y garthffos a gall achosi llifogydd yn eich cartref chi, neu yng nghartref cymydog.

Os byddwch chi’n rhoi gwybod i ni eich bod chi wedi gollwng rhywbeth i’r garthffos, fe fyddwn ni’n dod allan i’w glirio o’r garthffos yn rhad ac am ddim.

Dylid nodi ei bod yn amhosibl i ni ddod o hyd i eitemau bychain, fel modrwyon neu dlysau eraill, sydd wedi cael eu fflysio i lawr y tŷ bach ar ddamwain.