Oriau agor dros y Nadolig

Information

Noder mai oriau agor ein canolfan gyswllt ar gyfer bilio a'n sgwrs we yw:

Dydd Llun 29 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mawrth 30 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mercher 31 Rhagfyr: 08:00 - 14:00
Dydd Iau 1 Ionawr: Ar gau
Dydd Gwener 2 Ionawr: 08:00 - 18:00
Dydd Sadwrn 3 Ionawr: 09:00 - 13:00

Mae ein canolfan gyswllt ar gyfer Gweithrediadau ar agor 24/7 drwy gydol cyfnod y Nadolig ar gyfer unrhyw argyfwng.

Biosolidau


Gwrtaith cost-effeithiol a chynaliadwy, sy’n darparu ffynhonnell gwerthfawr o faetholion a deunydd organig.

Beth yw biosolidau?

Cynnyrch terfynol prosesau trin dŵr gwastraff yw biosolidau. Gellir defnyddio biosolidau fel cynnyrch cynaliadwy i gyfoethogi’r pridd, ac maent yn cynnig pob math o fanteision dros wrteithiau cemegol. Maent yn ffynhonnell werthfawr o ddeunyddiau organig, maetholion i blanhigion ac elfennau hybrin.

Mae Dŵr Cymru Welsh Wateyn darparu gwasanaeth cyflawn, gan gynnwys gwasanaeth samplo pridd i asesu addasrwydd y tir, a chymorth ac arweiniad parhaus er mwyn sicrhau bod y maetholion yn cael eu defnyddio’n effeithlon. Mae biosolidau’n addas i’w taenu’n flynyddol ar systemau caeau âr a glaswellt.

Rydyn ni’n chwilio am safleoedd y gall cerbydau nwyddau trwm eu cyrraedd dros y gaeaf, ac sydd o fewn 60 milltir i’n Gweithfeydd AAD – sydd ym Mhort Talbot, Caerdydd a Wrecsam.

Biosolidau

PDF, 808.7kB

Am ragor o fanylion, cysylltwch ag un o’n Gwyddonwyr Amaethyddol:

Y de-orllewin: 07392 282831
Y de-ddwyrain a Sir Henffordd: 07387 258999
Y gogledd: 07785 385269
neu ebost: biosolidsenquiries@dwrcymru.com