COVID-19 (Coronafeirws) – Neges i'n Cwsmeriaid

09:00 04 January 2021

Ry'n ni'n gwybod ei bod hi'n gyfnod anodd a heriol i'n cwsmeriaid. Ry'n ni'n gwybod hefyd bod y gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff a ddarparwn yn allweddol wrth amddiffyn iechyd y cyhoedd a diogelu ein cymunedau.

Fel ry'n ni wedi bod yn ei wneud trwy gydol y pandemig, fe wnawn ni bopeth y gallwn ni i amddiffyn ein cydweithwyr, a hynny wrth gynnal ein gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid. Fe welwch chi ni'n gweithio mewn strydoedd a chymunedau o hyd yn ystod y cyfnod hwn, ond dim ond gwaith hanfodol a fydd yn helpu i amddiffyn iechyd y cyhoedd trwy gynnal ein gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff allweddol a gaiff ei gyflawni yn ystod y cyfnod hwn. Ni fyddwn ni'n gwneud unrhyw waith sy’n gofyn ein bod ni'n mynd i mewn i eiddo cwsmeriaid oni bai bod argyfwng.

Bydd ein Canolfan Gysylltu am Filiau yn parhau i weithredu rhwng 8am a 6pm (dydd Llun i ddydd Gwener) ac mae'r ganolfan ar gael i gynorthwyo ein cwsmeriaid mwyaf bregus sy’n wynebu caledi oherwydd effeithiau’r coronafeirws.

Os yw'r coronafeirws wedi effeithio ar eich sefyllfa chi, a'ch bod chi'n poeni am eich bil dŵr, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Cofiwch, gallwch ddiweddaru eich cyfrif, rhoi gwybod i ni eich bod chi'n symud, a threfnu debyd uniongyrchol trwy ein gwasanaethau ar lein.

Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau trwy'r wefan hon a thrwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol - Facebook & Twitter.

Fe wnawn ni bopeth y gallwn ni i barhau i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol, a hoffem ddiolch i chi am eich cefnogaeth.

Diweddaru fy Manylion


Cadwch eich gwybodaeth yn gyfredol i sicrhau bod eich cyfrif yn ddiogel a bod y data yr ydym ni’n eu cadw yn gywir. Mae’n gyflym a rhwydd gwneud hynny ar-lein gyda’n ffurflenni.