Gwasanaethau Blaenoriaeth


Ar adegau, mae angen rhywfaint o gymorth ychwanegol ar rai cwsmeriaid. Os gallwn ni eich helpu, ymunwch â’n cofrestr gwasanaethau blaenoriaeth fel y gallwn wneud yn siŵr eich bod yn cael y gwasanaeth gorau posibl.

Efallai eich bod yn rhiant â babi bach, yn dioddef o salwch sydd angen dŵr, bod gennych anawsterau â’r golwg neu’r clyw neu eich bod yn oedrannus neu’n anabl. Mae ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth yn golygu y gallwn ni helpu gyda:

  • Cyflenwad dŵr arall os nad oes cyflenwad dŵr arferol gennych
  • Ffyrdd eraill o gael gwybodaeth
  • Tawelwch meddwl yn erbyn galwyr ffug

Ymunwch i gael Gwasanaethau Blaenoriaeth

Gallwch ymuno â’r gofrestr trwy gwblhau ein ffurflen ar-lein neu drwy lawrlwytho’r ffurflen gais a’i dychwelyd i ni:

Fel arall, cewch ofyn am gopi neu gwblhau’r ffurflen dros y ffôn drwy ein ffonio ni ar 0800 052 0145 rhwng 8am ac 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9:00am i 1:00pm ddydd Sadwrn. Neu, cewch ofyn am un trwy gyfnewidiad testun ar rif ffôn neu neges destun 18001 a’r rhif yr ydych chi’n dymuno ei ffonio.

Ffyrdd y gallwn ni helpu

Pan fyddwch chi ar ein cofrestr gwasanaethau blaenoriaeth, gallwn gynnig cymorth ychwanegol trwy ddarparu dŵr, rheoli eich biliau a’ch cyfrif, a’ch cadw’n ddiogel yn eich cartref:

Cymorth gyda dŵr

Cyswllt blaenoriaeth ar gyfer tarfu ar y cyflenwad

Os ydych chi angen dŵr oherwydd cyflwr meddygol, fel dialysis cartref, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn wneud yn siŵr, os bydd tarfu ar eich cyflenwad dŵr am unrhyw reswm, ein bod yn cysylltu â chi fel blaenoriaeth. Efallai y bydd eich ysbyty eisoes wedi ein hysbysu, ond rhowch wybod i ni beth bynnag.

Cyflenwad dŵr arall

Ein nod yw trefnu cyflenwad dŵr arall cyn gynted ag y gallwn ac yn aml byddwn yn dosbarthu dŵr yfed mewn poteli i'n cwsmeriaid sy'n ddibynnol ar ddŵr yn feddygol ac sy’n methu â chyrraedd cyflenwad dŵr arall.

Cymorth gyda’ch biliau a’ch cyfrif

Biliau hygyrch

Gallwn gynnig cymorth gyda’ch biliau a’ch taflenni yn y ffyrdd canlynol:

  • Print bras
  • Cefndir lliw ar gyfer dyslecsia
  • Braille
  • CD/MP3
  • Darllen eich bil i chi dros y ffôn
  • Anfon eich bil at ffrind neu berthynas

Os ydych chi’n gaeth i’r tŷ, gallwn anfon cynrychiolydd o’r cwmni i’ch cartref i drafod y bil a thaliadau gyda chi.

Cyswllt hygyrch â Dŵr Cymru

  • Os ydych chi’n defnyddio ffôn testun gallwch fanteisio ar ein Gwasanaeth Cyfnewid Testun (trwy wasanaeth Next Generation Text) ar 18001 0800 052 0145. Mae hwn yn wasanaeth am ddim sy’n caniatáu i chi siarad neu deipio ac yna caiff ei droi’n destun.
  • Os byddwch yn cysylltu â ni dros y ffôn, ni fyddwn yn eich rhuthro a byddwn yn cymryd ein hamser wrth esbonio pethau i chi.
  • Os oes gennych chi fynediad at y we, gallwch siarad â ni trwy Sgwrs Fyw, Facebook neu Twitter.
  • Cofrestrwch ar gyfer Fy Nghyfrif  lle gallwch weld eich biliau, eich balans cyfredol a’r taliadau yr ydych chi wedi eu gwneud
  • Defnyddiwch y gosodiadau Hygyrchedd ym mhrif ddewislen ein gwefan i newid y testun, yr iaith, a’r lliw.

Enwebai

Os oes gennych chi anawsterau cyfathrebu neu’n ei chael hi’n anodd deall eich bil neu wybodaeth arall, gallwch enwebu perthynas, ffrind neu ofalwr i siarad â ni neu i dderbyn gohebiaeth ar eich rhan.

Os ydych am i ni gysylltu â pherthynas, ffrind neu ofalwr am eich cyflenwad dŵr a charthffosiaeth a/neu'ch bil, mae angen eich caniatâd arnom. Bydd hyn yn diogelu eich buddiannau a'ch preifatrwydd. Yr unigolyn hwn fydd ein pwynt cyswllt cyntaf, a bydd yn gallu cysylltu â ni a threfnu taliadau ar eich rhan.

Os byddai'n well gennych gael perthynas/ffrind i gynrychioli eich anghenion ar sail barhaol, efallai yr hoffech ystyried Atwrneiaeth. I gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yma.

Cadw’n ddiogel

Cynllun Cyfrinair

Rydym ni’n awyddus i chi deimlo’n ddiogel yn eich cartref a gallwch ddewis cyfrinair i ni ei ddefnyddio pan fyddwn ni angen ymweld, neu gysylltu â chi. Byddwn bob amser yn cadarnhau eich cyfrinair gyntaf. Bydd hyn yn helpu i’ch amddiffyn rhag galwyr ffug sy’n honni eu bod yn gweithio i ni. Ceisiwch ddewis cyfrinair sy’n hawdd i chi ei gofio ond gofalwch nad oes neb arall yn ei wybod.

Os hoffech ddarganfod mwy am alwyr ffug a’r hyn i’w wneud os byddwch chi’n eu hamau, gallwch ymweld â’n tudalen Galwyr Ffug.

Gwasanaethau â Blaenoriaeth

PDF, 267.1kB

Gallwch lawrlwytho’r Llyfryn Gwasanaethau Blaenoriaeth am ragor o wybodaeth.