Oriau agor dros y Nadolig

Information

Noder mai oriau agor ein canolfan gyswllt ar gyfer bilio a'n sgwrs we yw:

Dydd Llun 29 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mawrth 30 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mercher 31 Rhagfyr: 08:00 - 14:00
Dydd Iau 1 Ionawr: Ar gau
Dydd Gwener 2 Ionawr: 08:00 - 18:00
Dydd Sadwrn 3 Ionawr: 09:00 - 13:00

Mae ein canolfan gyswllt ar gyfer Gweithrediadau ar agor 24/7 drwy gydol cyfnod y Nadolig ar gyfer unrhyw argyfwng.

Ychwanegu neu ddileu enw o gyfrif


Rydym ni’n gwybod bod llawer o amgylchiadau gwahanol wrth sôn am ychwanegu enw at gyfrif neu ddileu enw.

Cwsmeriaid Newydd

Os ydych yn symud i mewn gyda rhywun nad oes ganddyn nhw gyfrif gyda ni, gallwch agor cyfrif newydd yn enw’r ddau ohonoch.

Cwsmeriaid Presennol

Os ydych yn symud i mewn gyda rhywun â chyfrif gyda ni eisoes ac yn dymuno ychwanegu’ch enw, bydd angen i ni gau’r cyfrif presennol ac agor un newydd yn enw’r ddau ohonoch.

Os hoffech i'ch enw gael ei dynnu oddi ar gyfrif ar y cyd, (o ganlyniad i ysgariad neu wahaniad er enghraifft), bydd angen i ni gau'r cyfrif presennol ac agor un newydd yn enw'r person a fydd yn parhau i fyw yno.

Os oes angen i chi ddileu enw o gyfrif oherwydd profedigaeth, gallwch roi gwybod i ni yma.

1. Cysylltwch

Gyrrwch neges i ni drwy Gyfryngau Cymdeithasol

Gallwn helpu gydag ymholiadau o ddydd i ddydd trwy Neges Uniongyrchol ar Facebook a Twitter.

Unrhyw gwestiynau eraill?

Os nad ydych chi’n gallu gadael i ni wybod ar-lein, yna siaradwch â gweithredwr gwasanaeth cwsmeriaid

0800 052 6058

8:00am - 6:00pm Llun-Gwener
9:00am - 1:00pm Sadwrn

Ein hamseroedd ffonio prysuraf

Fel arfer mae ein hamseroedd aros hiraf rhwng 11am ac 1pm, ond rydym ar agor tan 6pm ar ddyddiau'r wythnos os hoffech gysylltu â ni ar adeg dawelach.