Byrst mewn Pibell Ddŵr - Brychdwn

Wedi’i ddiweddaru: 22:00 14 August 2025

Hoffai Dŵr Cymru ymddiheuro eto i'n cwsmeriaid yn Sir y Fflint am yr aflonyddwch a achoswyd gan y brif bibell ddŵr sydd wedi byrtsio ym Mrychdyn. Rydym yn disgwyl i'r aflonyddwch barhau tan nos Wener o leiaf.

Mae'r nam yn effeithio ar gyflenwadau dŵr i gwsmeriaid yn y cymunedau canlynol: Y Fflint, Treffynnon, Ffynnongroyw, Maes Glas, Llanerch y Môr, Mostyn, Oakenholt, Talacre, Chwitffordd, Queensferry, Shotton, Cei Connah, Garden City, Penarlâg, Mancot a Sandycroft.

Byddwn yn gweithio dros nos ac yn aros ar lawr gwlad yn cefnogi cwsmeriaid nes bod y cyflenwadau wedi'u hadfer yn llawn. Mae hyn yn cynnwys dosbarthu dŵr potel i'n cwsmeriaid agored i niwed, cefnogi cartrefi gofal ac ysbytai, a rheoli ein tair gorsaf potel ddŵr.

Gall cwsmeriaid y mae eu cyflenwadau dŵr wedi'u heffeithio gasglu cyflenwad dŵr amgen yn:

  • Pafiliwn Jade Jones, Y Fflint CH6 5ER
  • Maes Parcio Parcio a Theithio, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, CH5 2NY
  • Maes Parcio ym Maes Parcio Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NF

Mae'r trefniadau iawndal wedi'u cadarnhau gyda chwsmeriaid domestig yr effeithir arnynt yn derbyn £30 am bob 12 awr y maent wedi bod heb gyflenwad dŵr.

Bydd cwsmeriaid busnes yn derbyn £75 am bob 12 awr y maent wedi bod heb gyflenwad. Byddant hefyd yn gallu hawlio am unrhyw golled incwm – mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan a bydd y broses ymgeisio ar agor cyn gynted ag y byddwn yn adfer yr holl gyflenwadau a bod y digwyddiad wedi dod i ben.

Byddwch yn dawel eich meddwl bod ein timau'n gweithio'n galed i ddatrys y digwyddiad sylweddol hwn cyn gynted ac yn ddiogel â phosibl.

Rydym wedi cyhoeddi llythyr agored at ein cwsmeriaid yma.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

I gael y newyddion diweddaraf, ewch i Yn Eich Ardal neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gorchymyn holi


Ar ôl i ni gael dyfarniad hoffem wybod mwy am eich amgylchiadau ariannol cyn penderfynu beth i'w wneud nesaf.

Cysylltwch â’n tîm dyledion

Siaradwch â chynghorydd

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch talu eich bil dŵr, siaradwch â’n cynghorwyr cyfeillgar.

0303 313 0022

8am i 6pm Llun i Gwener. Mae hwn yn rhif ffôn di-dâl.

Beth ddylwn i ei wneud ar ôl i orchymyn gael ei gyflwyno?

Byddem yn argymell yn gryf eich bod yn ei ddarllen yn fanwl a cheisio cyngor cyfreithiol annibynnol os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw beth.

Dylech nodi amser a dyddiad y gwrandawiad a sicrhau eich bod yn bresennol. Os byddwch yn methu â bod yn bresennol ar ôl i chi gael y gorchymyn, caiff y Llys wneud gorchymyn pellach i’ch traddodi i garchar felly mae'n hanfodol eich bod yn ymdrin â'r mater.

Gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i wneud cynnig o daliad. Fel arall, gallwch gyfeirio eich cynnig i'r Llys drwy'r gwrandawiad. Gellir hawlio eich treuliau teithio rhesymol ymlaen llaw ar gyfer dod i'r gwrandawiad.

Pam y cyflwynwyd dogfennau'r llys ar gyfer y gorchymyn holi i mi?

Mae'n rhaid i ni drefnu i'r dogfennau gael eu cyflwyno i chi fel y gall y Llys fod yn fodlon eich bod yn ymwybodol o'r gorchymyn.