Gosodwyr Pibellau Cyflenwi Dŵr Cymeradwy WaterSafe


Mae Dŵr Cymru’n lansio menter newydd ar gyfer archwilio ffosydd wrth osod cyflenwadau dŵr.

Bydd y fenter yn cyflymu’r broses trwy ganiatáu i osodwyr ardystiedig WaterSafe (y gofrestr genedlaethol o gontractwyr cymeradwy) hunan-ardystio cysylltiadau dŵr newydd.

Bydd hyn yn golygu llai o aros i Ddŵr Cymru ddod allan, llai o amser gyda ffosydd agored, a llai o amser yn aros i’r gwaith gael ei gwblhau.

Trwy gyflogi gweithwyr proffesiynol cymwys, y gallwch ymddiried ynddynt, ac sydd â’r yswiriant cywir, bydd y fenter yn rhoi llai o straen ar bawb o dan sylw, ac effeithlonrwydd fydd y ffactor allweddol. Bydd yn helpu hefyd i gynnal safonau uchel o ran Iechyd a Diogelwch ar y safle.

Rydyn ni’n hyrwyddo manteision gosodwyr pibellau cyflenwi dŵr WaterSafe i’n cwsmeriaid, a gallwn helpu datblygwyr i gofrestru trwy ein cynllun contractwyr cymeradwy lleol, WIAPS. Rydyn ni am gynorthwyo Datblygwyr a’u contractwyr i ddod yn gymeradwy.

Ond bydd angen o hyd i’r rhai sy’n dewis peidio â defnyddio contractwyr cymeradwy gael archwiliad llawn o’r ffos cyn y gellir gwneud y cysylltiad o hyd.

Mae WaterSafe wedi cynhyrchu ffilm fer sy’n esbonio pam y dylech chi ddefnyddio contractwyr cymeradwy i osod eich pibellau cyflenwi dŵr, a gallwch wylio hon isod:

Plymwyr Cymeradwy WaterSafe

Rydyn ni’n hyrwyddo defnyddio plymwyr WaterSafe i’n holl gwsmeriaid, gan gynnwys datblygwyr. Gallwn gynorthwyo plymwyr cymwys i ymuno â WaterSafe trwy ddarparu hyfforddiant am ddim yn y Rheoliadau Dŵr. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma.

I glywed rhagor am WIAPS a WaterSafe, gan gynnwys sut i ymuno, cliciwch yma.

Dylid nodi nad yw aelodau WaterSafe a WIAPS yn uniongyrchol gysylltiedig â Dŵr Cymru. Rydyn ni’n cefnogi’r cynlluniau yma ac yn hyrwyddo’r defnydd o osodwyr hyfedr a chymwys i’n cwsmeriaid.

Cwestiynau Cyffredin