Plymio mewn Digwyddiadau Dros Dro
Os ydych yn rheoli neu'n gosod system blymwaith mewn digwyddiad dros dro, mae rhai pethau pwysig y mae angen i chi eu gwybod mewn perthynas â'r Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999 (y ‘Rheoliadau’).
Mae'r Rheoliadau hyn yn ofyniad cyfreithiol ac yn gymwys i bob eiddo a chysylltiad a gyflenwir gan Dŵr Cymru. Maent ar waith i gadw'r cyflenwad dŵr yn ddiogel ac i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Mae Dŵr Cymru yn gweithio'n agos gyda'r Awdurdodau Lleol yn ein maes gwasanaeth i sicrhau bod y digwyddiadau dros dro hyn yn parhau i fod yn ddiogel i'r cyhoedd eu mwynhau. Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am y Rheoliadau i'ch helpu chi i hysbysu, archwilio a rheoli digwyddiadau dros dro, gan gynnwys yr eitemau canlynol:
- Beth sydd angen i chi hysbysu yn ei gylch
- Sut i hysbysu Dŵr Cymru
- Archwiliadau o ddigwyddiadau dros dro
- Defnyddio Contractwyr Cymeradwy WaterSafe
- Adnoddau ychwanegol a manylion cyswllt
Pa ddigwyddiadau dros dro y mae angen i chi hysbysu yn eu cylch?
Rhaid i chi hysbysu Dŵr Cymru os ydych yn bwriadu addasu neu ymestyn y plymwaith sy'n bodoli ar y safle a fydd yn cael ei ddefnyddio i gyflenwi eich digwyddiad dros dro. Er enghraifft, os ydych yn llogi saifbibell, yn cysylltu â hydrant neu'n gosod pibellau newydd ar gyfer y digwyddiad dros dro, rhaid i chi roi'r hysbysiad hwn i ni.
Rhaid cyflwyno'r hysbysiad hwn o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn bod disgwyl i'r digwyddiad ddechrau, ond dylid ei gyflwyno ymhell ymlaen llaw, fel yn ystod yr ymgynghoriad neu'r cyfnod cynllunio ar gyfer y digwyddiad.
Nid oes angen i chi hysbysu Dŵr Cymru os nad yw'r digwyddiad dros dro yn cynnwys addasu neu ymestyn y cyflenwad dŵr neu'r system blymwaith ar y safle. Cysylltwch â'r adran Rheoliadau Dŵr os nad ydych yn siŵr o hyn. Gellir dod o hyd i'r manylion cyswllt ar gyfer y tîm ar waelod y dudalen hon.
Hysbysu Dŵr Cymru ynghylch eich digwyddiad dros dro
Mae'r hysbysiad hwn yn gyfreithiol ofynnol o dan y Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999. Mae gennym 10 diwrnod gwaith o dderbyn yr hysbysiad hwn i roi cydsyniad i chi neu i ofyn i chi am ragor o wybodaeth. Er mwyn cyflwyno'r hysbysiad hwn, ewch i'n tudalen hysbysiadau sy'n cynnwys gwybodaeth am y broses, yn ogystal â'r ffurflen y mae angen i chi ei chyflwyno i ni.
Mae'r hysbysiad hwn ar wahân i unrhyw ohebiaeth a all fod gennych gyda'r Awdurdod Lleol, ac mae'n galluogi Dŵr Cymru i'ch cefnogi chi wrth gynllunio a rheoli'r digwyddiad dros dro. Mae angen y wybodaeth ganlynol arnom fel rhan o'r hysbysiad hwn:
- Ffurflen hysbysiadau wedi'i chwblhau (i'w chanfod yma) a ddylai gynnwys dyddiad dechrau'r digwyddiad, ei barhad a beth yw'r digwyddiad (e.e. gŵyl fwyd, gŵyl gerddoriaeth ac ati).
- Cynllun neu fap o'r safle sy'n dangos cynllun y seilwaith dŵr ar y safle.
- Rhestr o'r ffitiadau dŵr, dyfeisiau neu bwyntiau defnydd.
- Manylion cyswllt y rhai sy'n gosod y system blymwaith ar y safle a/neu sy'n rheoli'r digwyddiad.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i weithio gyda'r Awdurdod Lleol er mwyn i ni allu cefnogi eich digwyddiad. Bydd y wybodaeth hon hefyd yn ein helpu ni i archwilio eich digwyddiad dros dro.
Sut y byddwch chi’n gwybod bod Dwr Cymru yn rhoid caniatâd i’r digwyddiad dros dro?
Os byddwn yn hapus â'r cynigion a gyflwynwyd gennych fel rhan o'r hysbysiad hwn, byddwn yn darparu gohebiaeth ysgrifenedig i chi er mwyn cadarnhau hyn. Bydd hyn drwy e-bost oni ofynnir fel arall. Bydd y cydsyniad hwn yn cynnwys amodau sy'n benodol i'ch digwyddiad a bydd hefyd yn cynnwys rhywfaint o ganllawiau ysgrifenedig i'ch cefnogi chi i gydymffurfio â'r Rheoliadau. Rhaid i'r amodau cydsynio hyn ac unrhyw ganllawiau dilynol gael eu rhannu â phawb sy'n gyfrifol am osod a rheoli'r system ddŵr.
Os na allwn roi'r cydsyniad hwn, bydd hyn oherwydd bod angen i ni gael rhagor o wybodaeth gennych cyn i ni wneud hynny. Bydd y cais hwn naill ai drwy e-bost neu ffôn a byddwn yn esbonio pa wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen arnom a pham.
Archwilio eich digwyddiad dros dro
Yn dilyn yr hysbysiad o'r digwyddiad, byddwn yn trefnu i archwilio'r system blymwaith a'r seilwaith dŵr ar y safle. Bydd yr archwiliad yn cael ei gynnal gan un o'n Swyddogion Rheoliadau Dŵr a'i fwriad fydd gwirio bod y gosodiad yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Dŵr – sydd yn eu lle i amddiffyn iechyd y cyhoedd.
Bydd angen cynnal yr archwiliad pan fydd y plymwaith bron â chael ei osod neu wedi'i osod yn llawn, a rhaid iddo ddigwydd cyn bod y digwyddiad yn agored ac yn fyw. Bydd angen i ni archwilio'r holl bibellau a ffitiadau sy'n hygyrch i'r cyhoedd – megis toiledau, cawodydd, ardaloedd gwersylla a phwyntiau dŵr yfed - yn ogystal ag unrhyw gyflenwadau dŵr i stondinau arlwyo, gwerthwyr, tanciau storio ac unrhyw le arall y gall dŵr gael ei ddefnyddio.
Mae gennym daflen wybodaeth ddefnyddiol y mae modd ei lawrlwytho o'n tudalen cyngor a chanllawiau. Gweler y rhestr o enghreifftiau isod i roi syniad i chi o'r math o bethau (lle y bo'n gymwys) y bydd angen i ni eu harchwilio wrth ymweld â'ch digwyddiad dros dro:
- Falf atal dwbl wrth y pwynt cysylltu i'r safle cyfan
- Inswleiddio o bibellau uwchlaw'r ddaear (lle y bo'n ofynnol). Bydd hyn yn dibynnu ar barhad y digwyddiad ac yn ôl disgresiwn y swyddog wrth archwilio'r gosodiad.
- Dylid diogelu unrhyw gyflenwadau dŵr sy'n cael eu gosod gerllaw lle storio tanwydd/cynhyrchwyr ynni rhag halogiad. Rhaid glynu MDPE wrth ffensys, uwchlaw'r ddaear, eu hinswleiddio a'u gorchuddio â dwythellau plastig. Os na allwch wneud hyn a bod angen i'r pibellau rhedeg ar hyd y ddaear, rhaid i'r holl bibellau a ffitiadau fod yn bibellau rhwystr.
- Gosod dyfeisiau diogelu ôl-lif wrth bwyntiau defnydd (e.e. falfiau atal dwbl ar saifbibellau/tapiau)
- Cafnau gwartheg, bwydwyr anifeiliaid neu gyfarpar amaethyddol arall i sicrhau bod ganddynt y diogelwch ôl-lif cywir
- Ni all unrhyw bibellau na ffitiadau fod dan ddŵr na dod i gysylltiad ag unrhyw ddŵr budr neu ffynonellau halogiad.
- Rhaid sicrhau'r pibellau drwy'r safle a'u diogelu rhag difrod, fandaliaeth neu unrhyw ddefnydd anawdurdodedig.
- Diogelu pibellau os ydynt yn rhedeg drwy nant neu dros/ar bont. Rhaid inswleiddio pibellau, eu gorchuddio â dwythellau a'u glynu naill ai uwchlaw'r ddaear neu wrth ochr strwythur diogel.
Beth fydd yn digwydd os caiff materion eu canfod yn yr archwiliad?
Os byddwn yn canfod unrhyw faterion wrth archwilio, byddwn yn esbonio'r hyn sydd angen i chi ei wneud er mwyn gwneud i'r system gydymffurfio a phryd y mae angen gwneud hyn erbyn. Bydd y Swyddog Rheoliadau Dŵr hefyd yn esbonio pam y mae hyn yn ofynnol a'r goblygiadau ansawdd dŵr posibl i iechyd y cyhoedd os na fydd y mater(ion) yn cael eu cywiro.
Os nad eir i'r afael â materion mewn modd amserol neu os bydd risg i iechyd y cyhoedd, gallwn gymryd camau gorfodi yn erbyn y gosodwyr neu drefnwyr y digwyddiad. Byddwn hefyd yn cysylltu â'r Awdurdod Lleol ynghylch unrhyw gamau gorfodi, a all gynnwys datgysylltu neu ynysu'r cyflenwad dŵr ar y safle ac atal caniatâd cynllunio'r digwyddiad.
Defnyddio Contractwyr Cymeradwy WaterSafe
Rydym yn argymell defnyddio Contractwyr Cymeradwy WaterSafe i osod y system blymwaith a'r seilwaith dŵr yn eich digwyddiad dros dro. Mae gan aelodau WaterSafe gymhwyster cydnabyddedig ar y Rheoliadau Dŵr a byddant yn darparu ardystiad i chi wrth gwblhau'r gosodiad. Rydym yn gweithio'n agos gydag aelodau WaterSafe drwy archwilio'u gwaith yn aml a byddant hefyd yn darparu copi i ni o'r ardystiad y byddant yn ei gyhoeddi i chi.
Gallwch ddod o hyd i'ch aelod lleol o WaterSafe drwy chwilio ar y bar chwilio isod neu clicwch yma. Mae gennym hefyd dudalen ymroddedig sy'n esbonio aelodau WaterSafe yn fanylach a gellir dod o hyd iddi yma.
Watersafe – Plymwyr Lleol wed’u Cymeradwyo
Dewch o hyd i'ch plymwr, agosaf sydd wedi'i gymeradwyo gan Watersafe, nodwch eich cod post neu defnyddiwch eich lleoliad.
Adnoddau defnyddiol ar y Rheoliadau
Cyngor a chanllawiau
Gallwch ddod o hyd i daflenni gwybodaeth defnyddiol ar ein tudalen cyngor a chanllawiau y gellir dod o hyd iddi yma.
WaterRegsUK
Mae WaterRegsUK – bwrdd cynghori sy'n annibynnol ar y Rheoliadau Dŵr – hefyd wedi cynhyrchu llyfryn canllaw defnyddiol, a hynny'n benodol i ddigwyddiadau dros dro. Gellir dod o hyd i hwn drwy fynd i'w gwefan ac agor y dogfennau digwyddiadau dros dro penodol.
A oes gennych gwestiynau o hyd neu a oes angen rhagor o gyngor arnoch?
Gallwch gallwch gysylltu â'r adran Rheoliadau Dŵr yn uniongyrchol drwy ffonio 01792 841 572 rhwng 8AM a 4PM o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8AM a 3:30PM ddydd Gwener. Gallwch hefyd anfon e-bost unrhyw bryd yn WaterRegulations@dwrcymru.com.