Byrst mewn Pibell Ddŵr - Brychdwn

Wedi’i ddiweddaru: 07:45 15 August 2025

Hoffai Dŵr Cymru ymddiheuro eto i'n cwsmeriaid yn Sir y Fflint am yr aflonyddwch a achoswyd gan y brif bibell ddŵr sydd wedi byrtsio ym Mrychdyn. Rydym yn disgwyl i'r aflonyddwch barhau tan nos Wener o leiaf.

Mae'r nam yn effeithio ar gyflenwadau dŵr i gwsmeriaid yn y cymunedau canlynol: Y Fflint, Treffynnon, Ffynnongroyw, Maes Glas, Llanerch y Môr, Mostyn, Oakenholt, Talacre, Chwitffordd, Queensferry, Shotton, Cei Connah, Garden City, Penarlâg, Mancot a Sandycroft.

Byddwn yn gweithio dros nos ac yn aros ar lawr gwlad yn cefnogi cwsmeriaid nes bod y cyflenwadau wedi'u hadfer yn llawn. Mae hyn yn cynnwys dosbarthu dŵr potel i'n cwsmeriaid agored i niwed, cefnogi cartrefi gofal ac ysbytai, a rheoli ein tair gorsaf potel ddŵr.

Gall cwsmeriaid y mae eu cyflenwadau dŵr wedi'u heffeithio gasglu cyflenwad dŵr amgen yn:

  • Pafiliwn Jade Jones, Y Fflint CH6 5ER
  • Maes Parcio Parcio a Theithio, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, CH5 2NY
  • Maes Parcio ym Maes Parcio Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NF

Mae'r trefniadau iawndal wedi'u cadarnhau gyda chwsmeriaid domestig yr effeithir arnynt yn derbyn £30 am bob 12 awr y maent wedi bod heb gyflenwad dŵr.

Bydd cwsmeriaid busnes yn derbyn £75 am bob 12 awr y maent wedi bod heb gyflenwad. Byddant hefyd yn gallu hawlio am unrhyw golled incwm – mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan a bydd y broses ymgeisio ar agor cyn gynted ag y byddwn yn adfer yr holl gyflenwadau a bod y digwyddiad wedi dod i ben.

Byddwch yn dawel eich meddwl bod ein timau'n gweithio'n galed i ddatrys y digwyddiad sylweddol hwn cyn gynted ac yn ddiogel â phosibl.

Rydym wedi cyhoeddi llythyr agored at ein cwsmeriaid yma.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

I gael y newyddion diweddaraf, ewch i Yn Eich Ardal neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Hunanardystio eich pibellau cyflenwi dŵr


Gall Contractwyr Cymeradwy WaterSafe hunanardystio eich gosodiad pibellau cyflenwi dŵr. Mae gennym rywfaint o wybodaeth ddefnyddiol i gwsmeriaid a gosodwyr.

Os oes angen i chi osod pibell gyflenwi dŵr newydd, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio un o Gontractwyr Cymeradwy WaterSafe. Yn yr un modd, os ydych yn gyfrifol am osod, newid neu drwsio pibellau cyflenwi dŵr, dylech ddod yn aelod o WaterSafe. Gall Contractwyr Cymeradwy hunanardystio eu gosodiadau pibellau cyflenwi dŵr, gan arbed amser a thrafferth i'n cwsmeriaid pan ddaw hi i'r gwaith hwn. Mae'r dudalen hon yn cwmpasu'r pynciau canlynol:

  • Beth yw hunanardystio?
  • Sut ydw i'n hunanardystio fy mhibell cyflenwi dŵr?
  • Beth yw Contractwr Cymeradwy WaterSafe?
  • Pam dylwn i hunanardystio fy mhibell cyflenwi dŵr?
  • Sut galla i ymuno â WaterSafe?
  • Adnoddau ychwanegol a manylion cyswllt

Beth yw hunanardystio?

Rhaid i'r holl bibellau cyflenwi dŵr newydd a osodwyd gydymffurfio â'r Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999 (y ‘Rheoliadau’). Fel rhan o unrhyw gysylltiad newydd, bydd angen i Dŵr Cymru fynd i'ch datblygiad i archwilio eich gosodiad dŵr preifat i wneud yn siŵr ei fod yn bodloni gofynion y Rheoliadau. Fodd bynnag, os caiff y gosodiad ei ardystio gan Gontractwr Cymeradwy WaterSafe, nid oes angen i Dŵr Cymru ymweld â safle i archwilio eich pibellau preifat. Caiff hyn ei adnabod fel ‘hunanardystio’.

Efallai y bydd dal angen i ni ymweld â'ch datblygiad i wirio ein seilwaith ni ac i arolygu'r cysylltiad ar gyfer ein contractwyr. Ni fydd hyn yn eich atal rhag bwrw ymlaen â'ch gwaith ar ôl ‘hunanardystio’ y gosodiad pibellau cyflenwi..

Os ydych yn adnewyddu eich pibell cyflenwi dŵr preifat ond nad ydych yn cael cysylltiad newydd gan Dŵr Cymru, rydym yn dal i argymell eich bod yn defnyddio Contractwyr Cymeradwy. Caiff buddiannau eu defnyddio eu hesbonio isod.

Sut ydw i'n hunanardystio fy mhibell cyflenwi dŵr?

Dim ond Contractwr Cymeradwy sy'n gyfreithiol gymwys, ac sy'n aelod o WaterSafe all gynnal hunanardystiad. Bydd yn cyhoeddi tystysgrif sy'n datgan bod y gwaith a osodwyd yn cydymffurfio â'r Rheoliadau, sydd yn ei le er mwyn diogelu eich cyflenwad dŵr a'r rhwydwaith dŵr yfed cyhoeddus.

Rhaid i Gontractwyr Cymeradwy beidio â chyhoeddi tystysgrif am waith sydd naill ai heb ei osod neu sy'n destun goruchwyliaeth agos. Rhaid rhannu'r dystysgrif hon â Dŵr Cymru hefyd, fel bod gennym gofnod o'r gwaith. Byddwn yn cadarnhau i chi ein bod wedi cael unrhyw dystysgrif a byddwn hefyd yn esbonio pa gamau nesaf sy'n ofynnol (os o gwbl).

Gallwch chwilio am aelod o WaterSafe ar y dudalen hon gan ddefnyddio'r bar chwilio isod.

Beth yw Contractwr Cymeradwy?

Contractwr Cymeradwy yw rhywun sy'n aelod o gynllun cydnabyddedig, fel WaterSafe. Caiff aelodau o WaterSafe eu fetio o ran eu cymwysterau ac yswiriant cyn cael eu caniatáu ar y cynllun. Cânt eu harchwilio'n gyfnodol hefyd i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth ddiweddaraf am reoliadau ac arferion gorau diweddaraf y diwydiant. Mae ‘sectorau’ gwahanol o dan WaterSafe lle mae aelodau yn arbenigo mewn gwahanol fathau o waith, yn dibynnu ar eu sgiliau, eu cymwysterau a'u profiad. Gallwch chwilio am aelod o WaterSafe drwy ddefnyddio'r bar chwilio isod neu drwy fynd i https://www.watersafe.org.uk/.

Pam dylwn i ddefnyddio Contractwr Cymeradwy i hunanardystio fy mhibell cyflenwi dŵr?

Nid yn unig y mae defnyddio Contractwr Cymeradwy yn rhoi sicrwydd y bydd y gwaith yn unol â'r safon ofynnol ond bydd hefyd yn arbed amser a thrafferth pan ddaw hi i unrhyw waith pellach y mae angen ei wneud ar y safle, fel cysylltiad newydd. Unwaith y bydd y Contractwr Cymeradwy yn hunanardystio bod y gwaith yn cyrraedd y safonau gofynnol, gellir ôl-lenwi'r bibell gyflenwi a'r ffos, a fydd yn eich caniatáu i fwrw ymlaen â'r gwaith galluogi ar gyfer y cysylltiad newydd. Mae'r gallu i hunanardystio ac ôl-lenwi'r ffos hefyd yn gwella iechyd a diogelwch eich datblygiad drwy leihau nifer y ffosydd agored ar y safle.

Sut galla i ymuno â WaterSafe?

Cofrestr genedlaethol o Gontractwyr Cymeradwy yw WaterSafe sy'n dwyn ynghyd sawl cynllun gwahanol o dan un enw, hawdd ei ddefnyddio. Er mwyn ymuno â WaterSafe, rhaid i chi fod yn aelod o un o'r cynlluniau canlynol. Bydd gwneud hynny hefyd yn rhoi aelodaeth i WaterSafe i chi. Gallwch chi ymuno ag un o'r canlynol:

  • Cynllun Plymeriaid Cymeradwy'r Diwydiant Dŵr (WIAPS)
  • Sefydliad Siartredig y Peirianwyr Plymwaith a Gwresogi (CIPHE)
  • Cymdeithas y Contractwyr Plymwaith a Gwresogi (APHC)

Bydd gan bob un o'r cynlluniau Contractwr Cymeradwy gwahanol hyn ofynion ymuno gwahanol, felly da chi, edrychwch ar eich cynllun dethol i weld pwy fydd yn eich helpu chi drwy'r broses gwneud cais.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i ymuno â WaterSafe drwy fynd i'w gwefan yma.

Adnoddau defnyddiol a chwestiynau pellach

Rydym wedi cynhyrchu llyfryn canllaw defnyddiol i'r datblygwyr a'r gosodwyr hynny sy'n gosod pibellau cyflenwi dŵr. Gallwch ddod o hyd i hwn ar ein tudalen cyngor a chanllawiau y gellir dod o hyd iddi yma. Ewch i waelod y dudalen lle gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol arall ar gyfer eich system gosodiadau a phlymwaith.

Os oes dal gennych gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o gyngor, gallwch gysylltu â'r adran Rheoliadau Dŵr yn uniongyrchol drwy ffonio 01792 841 572 rhwng 8AM a 4PM o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8AM a 3:30PM ddydd Gwener. Gallwch hefyd anfon e-bost unrhyw bryd at WaterRegulations@dwrcymru.com.

Neu, os bydd angen i chi drafod eich cais am gysylltiad newydd, rhaid i chi gysylltu â'r Gwasanaethau Datblygwyr ar 0800 917 2652 rhwng 8:30AM a 5PM neu drwy anfon e-bost at New.Connections@dwrcymru.com. Gwnewch yn siŵr bod gennych unrhyw rifau cyfeirnod am y cais wrth law cyn ffonio.