Cyflenwad Dwr Preifat


Rydym yn glanhau ac yn cyflenwi dŵr yfed o ansawdd uchel i dros 3 miliwn o gwsmeriaid ledled Cymru, ond mae cwsmeriaid yn gallu cael eu dŵr yfed o ffynonellau eraill mewn rhai achosion.

Gall cwsmeriaid gael dŵr yfed nad yw wedi’i gyflenwi gennym ni mewn llawer o ffyrdd, er enghraifft drwy gyflenwad dŵr preifat fel ffynnon neu dwll turio, a hynny’n aml mewn ardaloedd anghysbell neu yng nghefn gwlad. Fodd bynnag, os yw’r cyflenwad preifat wedi ei gysylltu â’n cyflenwad dŵr yfed ni mewn rhyw ffordd, bydd angen i ni sicrhau bod y system yn cydymffurfio â’r rheoliadau.

Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI) yw'r rheoleiddiwr ar gyfer cyflenwadau dŵr cyhoeddus, ond yr Awdurdod Lleol yw'r rheoleiddiwr ar gyfer cyflenwadau dŵr preifat ac mae'n gyfrifol am orfodi'r Rheoliadau Cyflenwi Dŵr Preifat. Fel rhan o'r cyfrifoldeb hwn, byddant yn cwblhau asesiadau risg ac yn trefnu samplu cyflenwadau preifat (pan fo angen), ac rydym yn cydweithio â'r awdurdod lleol pan fo angen.

I gael gwybodaeth fwy manwl am yr Arolygiaeth Dŵr Yfed a chyflenwadau dŵr preifat, gweler y ddolen ganlynol http://dwi.defra.gov.uk/private-water-supply/index.htm