Y Rhaglen Mesuryddion
Mae ein rhaglen uchelgeisiol i uwchraddio a gosod mesuryddion dŵr ledled Cymru a rhannau o Loegr yn dechrau yng nghanol 2025 a bydd yn helpu ein cwsmeriaid i arbed dŵr yn eu cartrefi.
Rydyn ni’n Uwchraddio Mesuryddion Dŵr ar draws Cymru a rhannau o Loegr
Yn rhan o’n hymrwymiad i wella gwasanaethau dŵr ac amddiffyn yr adnodd hollbwysig yma, rydyn ni wedi lansio rhaglen uchelgeisiol i uwchraddio a gosod mesuryddion dŵr ar draws Cymru a rhannau o Loegr. Dechreuodd y fenter hon yn Ebrill 2025 a’i fwriad yw helpu cwsmeriaid i feithrin gwell dealltwriaeth o’u defnydd o ddŵr, a’n galluogi ni i ganfod a lleihau gollyngiadau’n fwy effeithiol.
Nid oes angen i chi wneud dim - Ni fydd eich bil yn newid
Nid oes angen i chi wneud dim, ac ni fydd y gwaith yn effeithio ar sut rydyn ni’n eich bilio chi.
Rydyn ni am sicrhau ein holl gwsmeriaid na fydd sut rydyn ni’n eu bilio’n newid dim:
- Os nad ydych chi’n cael eich bilio ar sail mesurydd dŵr ar hyn o bryd, ni fydd hynny’n newid.
- Os ydych chi eisoes yn cael eich bilio a sail mesurydd dŵr, yna bydd hynny’n parhau.
Bydd eich trefniadau talu’n aros yr un fath, ac nid oes angen i chi wneud dim.
Os ydych chi’n cael eich bilio ar sail tariff HelpU neu WaterSure Cymru, ni fydd hynny’n newid.
Pam ydyn ni’n gosod mesuryddion?
Dŵr yw un o’n hadnoddau mwyaf gwerthfawr. Gyda galw cynyddol am ddŵr yn sgil twf yn y boblogaeth ac effeithiau newid hinsawdd, mae hi’n bwysicach nac erioed ei reoli’n ddoeth. Trwy osod ac uwchraddio mesuryddion, gallwn ni:
- Fonitro a lleihau gollyngiadau’n fwy effeithiol ar draws ein rhwydwaith.
- Sicrhau cyflenwad mwy dibynadwy o ddŵr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
- Cynorthwyo cwsmeriaid i ddefnyddio dŵr yn fwy effeithlon gartref.
Sut gallai mesurydd eich helpu chi?
Hyd yn oed os nad yw’r dull o’ch bilio’n newid, daw nifer o fuddion o gael mesurydd dŵr:
- Mae arbed dŵr yn arbed arian - Traciwch eich defnydd ac, os dewiswch chi newid i filiau ar sail mesurydd, gallai’ch bil dŵr fod yn is.
- Ffeindio gollyngiadau’n gynnar – Mae mesuryddion yn helpu i ganfod gollyngiadau’n gyflym, fel bod modd eu trwsio cyn iddyn nhw droi’n broblemau costus.
- Amddiffyn yr amgylchedd – Mae defnyddio dŵr yn fwy effeithlon yn helpu i leihau allyriannau carbon ac yn helpu i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy.
Beth i’w ddisgwyl yn ystod y gwaith gosod
Byddwn ni’n gosod neu’n uwchraddio’ch mesurydd dŵr ar ein pibellwaith y tu allan i’ch cartref. Mae hyn yn broses gyflym a didrafferth, ac ni ddylai darfu fawr ddim arnoch chi.
Eiddo Dŵr Cymru yw’r mesurydd, y pibellwaith cysylltiedig a’r stoptap, a byddwn ni’n cynnal y rhain. Mae gennym ni’r hawl i osod mesuryddion at ddibenion monitro gollyngiadau, a’u cyrchu pan fo angen.
Ymhle fyddwn ni’n gweithio?
Bydd y rhaglen yn dechrau ym Mhontypridd, Merthyr Tudful a Chaerffili, gyda chynlluniau i ehangu i ardaloedd eraill yn 2026. Pan fyddwn ni’n barod i weithio yn eich ardal, byddwn ni’n ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi.
Cwestiynau cyffredin
Na, byddwn ni’n cysylltu â chi cyn gweithio ar eich stryd a byddwn yn curo ar y drws ar y diwrnod i roi gwybod i chi pan fydd y gwaith yn digwydd.
Os ydych chi'n gwsmer heb fesurydd ar hyn o bryd, byddwn yn gosod mesurydd, a gallwch ddewis newid i daliadau mesuredig os hoffech. I fod yn glir, os nad ydych chi'n cael bil mesuredig ar hyn o bryd, ni fydd hyn yn newid.
Os ydych chi eisoes ar fesurydd, rydyn ni'n uwchraddio mesuryddion hŷn i rai newydd pan gyrhaeddwn eich ardal chi. Ni fydd y ffordd yr ydych chi'n cael eich bilio yn newid.
Nid fel arfer, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol i drefnu apwyntiad os oes angen. Os ydych chi'n gwsmer Gwasanaethau Blaenoriaeth ac rydym yn gwybod bod angen dŵr arnoch am resymau penodol byddwn yn cysylltu â chi i drefnu amser sy'n gyfleus i chi.
Fel arfer, mae’n bosibl gwneud y gwaith yn gyflym, gan weithio ar y stryd y tu allan i'ch cartref. Pan fyddwn ni’n gweithio, byddwn yn curo ar y drws i roi gwybod i chi am y gwaith gan y bydd eich cyflenwad yn diffodd am ychydig funudau wrth i ni gwblhau hyn. Ar rai achlysuron, gall gymryd ychydig yn hirach na'r disgwyl, ac os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i darfu arnoch chi cyn lleied â phosibl.
Cwestiynau cyffredin am y rhaglen mesuryddion
Am fwy o wybodaeth am y rhaglen mesuryddion, cliciwch yma.
Cwestiynau cyffredinCyfrifiannell amcangyfrif mesurydd
Allech chi arbed arian gyda mesurydd dŵr?
Atebwch ychydig o gwestiynau i weld beth fyddai eich bil pe byddech ar fesurydd!
Faint o bobl sy'n byw yn eich eiddo?
Mae hyn yn cynnwys oedolion a phlant
Sut ydych chi'n defnyddio eich dŵr?
Ydych chi'n defnyddio cawod pŵer, peiriant golchi dillad neu beiriant golchi llestri, taenellwr gardd, neu bibell ddŵr?
Dewiswch ydy neu nac ydy
Eich amcangyfrif misol
Ar sail yr wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi, byddem ni’n disgwyl i'ch bil fod tua £{MonthlyCharge} y mis* pe baech yn newid i fesurydd.
Amcangyfrif yn unig yw hwn, gall eich bil fod yn uwch neu'n is na hyn yn dibynnu ar faint o ddŵr yr ydych yn ei ddefnyddio. Byddai eich bil wedi’i seilio ar faint o ddŵr yr ydych yn ei ddefnyddio bob 6 mis.
Os oes gennych ddiddordeb, darllenwch isod am fwy o wybodaeth.
*Mae’r amcangyfrif misol yn seiliedig ar gwsmer sy’n derbyn gwasanaeth dŵr a charthffosiaeth.
Gallai eich bil bod o gwmpas
£{{monthlyCharge}}
y mis
neu £{AnnualCharge} y blwyddyn.