Storm Darragh

Wedi’i ddiweddaru: 11:30 11 December 2024

Mae ein gwasanaethau yn parhau i gael eu heffeithio gan faterion cyflenwad pŵer a allai arwain at ymyrraeth i gyflenwadau dŵr neu bwysau isel i rai cwsmeriaid, yn bennaf mewn ardaloedd gwledig. Mae ein timau'n gweithio'n galed i gynnal cyflenwadau ac yn gweithio'n agos gyda'r holl asiantaethau eraill - gan gynnwys y cwmnïau ynni - i adfer yr holl gyflenwadau yn ddiogel ac mor gyflym â phosibl.

Ewch i Yn Eich Ardal am ragor o wybodaeth.

Ymdrin â gollyngiadau dŵr


Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddod o hyd i ollyngiad a’i reoli.

Pam mae gollyngiadau’n digwydd?

Weithiau mae gollyngiadau'n digwydd a gall hyn fod oherwydd oedran y bibell, gwendid yn y bibell, ffitiadau neu uniadau yn gollwng a symudiad yn y ddaear.

Rydym yn gofalu am dros 27,500km o’r Prif Gyflenwad Dŵr ledled Cymru a Rhannau o Loegr – digon o bibellau i ymestyn o Gaerdydd i Sydney a hanner ffordd yn ôl eto! Nid yw hyn yn cynnwys y pibellau cyswllt, na'r pibellau cyflenwi sy'n cyflenwi eich cartrefi.

Os oes problem ar ein rhwydwaith, dyma beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni

Ein nod yw ymchwilio i ollyngiadau a’u trwsio cyn gynted â phosibl.

Rydym yn gwybod ei bod yn rhwystredig pan fyddwch wedi rhoi gwybod am ollyngiad ac nad yw’n cael ei drwsio ar unwaith, ond yn gyffredinol mae rhesymau da iawn dros yr oedi.

Nid yw bob amser yn rhwydd, a bydd sawl ffactor yn dylanwadu ar sut a phryd y gallwn ni ei drwsio.

Mae'r camau canlynol yn amlinellu beth fydd yn digwydd pan fyddwch wedi cysylltu â ni a pha mor hir y mae'n ei gymryd fel arfer i ni fynd i’r afael â'r rhan fwyaf o ollyngiadau; ond byddwch yn ymwybodol mai canllaw yn unig yw ein llinell amser ac y gallai gael ei newid oherwydd gwaith brys neu amodau amgylcheddol.

Pa mor hir y gallai ei gymryd i ddatrys y broblem

Profi os oes gennych ollyngiad dŵr gartref

Dysgwch am ollyngiadau yn y cartref drwy roi cynnig ar y profion gollyngiadau hyn. Rydym eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i annog ein cwsmeriaid i ganfod ac atgyweirio gollyngiadau cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn ein helpu ni i leihau gollyngiadau ac yn eich helpu chi i arbed symiau mawr o arian o bosibl.

Efallai y bydd gennych ollyngiad os byddwch yn sylwi:

  • Ardaloedd o lystyfiant toreithiog.
  • Gostyngiad mawr mewn pwysedd dŵr.
  • Sŵn hisian ger eich falf gau fewnol.
  • Darnau llaith ar y ddaear.
  • Newid anesboniadwy ar eich bil.

Dilynwch ychydig o gamau syml i ganfod a oes dŵr yn gollwng o fewn ffiniau eich eiddo yma.

Cyfrifoldeb am ollyngiad dŵr

Os yw eich pibell wedi byrstio, peidiwch â chynhyrfu.

  • Ceisiwch ddod o hyd i ble mae'r gollyngiad - yna atal y cyflenwad drwy droi'r stoptap i’r dde.
  • Agorwch bob tap i leihau llifogydd.
  • Amsugnwch neu rhwystrwch y dŵr sy'n dianc gyda thyweli trwchus.
  • Diffoddwch eich trydan: os yw'r dŵr yn agos at unrhyw beth trydanol - gan gynnwys goleuadau, socedi neu declynnau - peidiwch â'u cyffwrdd. Gall gwifrau trydan sy'n cael eu difrodi gan ddŵr fod yn beryglus iawn ac mae'n debyg y bydd angen i chi ffonio gweithiwr proffesiynol i atgyweirio’r difrod.
  • Ffoniwch blymwr cofrestredig - os oes angen cymorth arnoch i atgyweirio pibell sydd wedi byrstio, cysylltwch â phlymwr sydd wedi’i gymeradwyo gan Watersafe..