Colledion Elw Gros a Chostau Ychwanegol er mwyn Parhau i Weithredu


Bydd llenwi’r weffurflen hon yn caniatáu i ni ystyried taliadau ewyllys da tuag at y Colledion Elw Gros a’r costau gweithredu ychwanegol a dynnodd eich busnes yn sgil y toriad yn eich cyflenwad dŵr yn Sir y Fflint rhwng dydd Mercher 13 Awst a dydd Sul, 17 Awst.

Llenwch yr weffurflen hon yn ei chyfanrwydd gan ddarparu’r wybodaeth isod os ydych am wneud cais am daliad ewyllys da tuag at golledion elw. Byddwn ni’n defnyddio lled eich elw gros er mwyn pennu lefel yr ewyllys da a fydd yn daladwy.

Wrth gwblhau'r cais, rhowch y wybodaeth ganlynol os gwelwch yn dda:

  • Gwerthiannau dyddiol net o TAW (os yw’r busnes wedi cofrestru ar gyfer TAW) am y cyfnod rhwng dydd Llun 30 Mehefin 2025 a heddiw (dyddiad cyflwyno’r cais).
  • Copi o'r set olaf o gyfrifon diwedd blwyddyn gan gynnwys elw a cholled manwl.
  • Pob anfoneb/derbynneb perthnasol

Ar ôl i’ch cais ddod i law, gallwn ofyn am wybodaeth bellach i helpu i benderfynu pa lefel o gyfraniad ewyllys da fydd yn daladwy.

Nodyn: Ni chaniateir ceisiadau am ‘Golledion Elw Gros; a ‘Chostau Ychwanegol er mwyn Parhau i Weithredu’ sy’n cwmpasu’r un dyddiadau (gallwch naill ai wneud cais am ‘Golledion Elw Gros’ neu ‘Gostau Ychwanegol er mwyn Parhau i Weithredu’ am unrhyw ddiwrnod penodol). Rhagwelir y bydd ceisiadau am ‘Golledion Elw Net’ a ‘Chostau Ychwanegol er mwyn Parhau i Weithredu’ yn digwydd dim ond lle’r arhosodd cwsmer yn agored gan dynnu costau ychwanegol ond lle bu angen cau wedyn.

Cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin a allai eich cynorthwyo i lenwi eich cais.