Cwestiynau Cyffredin am gwsmeriad busnes
Cwestiynau Cyffredin
Bydd angen i chi fodloni’r meini prawf isod i fod yn gymwys i gyflwyno cais am Daliad Ewyllys Da:
- Rydych chi’n gwsmer busnes y mae’r byrst yn y brif bibell yng Ngweithfeydd Trin Bretton wedi effeithio’n uniongyrchol arno
- Rhaid i chi fod yn fusnes sydd wedi’i leoli’n barhaol yn lleoliad y cais e.e. ddim yn fusnes symudol/ymweliad gan gynnwys gwasanaethau tacsi
- Rhaid i chi fod wedi cofrestru fel busnes a/neu yn talu taliadau busnes am eich Dŵr a Charthffosiaeth
- Byddech wedi bod yn gymwys i dderbyn y £75 am bob 12 awr roeddech chi heb gyflenwad.
- Rhaid i’ch busnes fod wedi cofrestru gyda CThEF.
Pennir cymhwyster am gyfraniadau ewyllys da ac unrhyw gyfraniad a wneir ar ddisgresiwn Dŵr Cymru.
Os nad ydych chi wedi cael llythyr ond yn credu eich bod chi’n gymwys i gael taliad Ewyllys Da, ewch i www.dwrcymru.com/ewyllysda a dilyn y canllawiau.
Ewch i www.dwrcymru.com/ewyllysda a dilynwch y canllawiau i lenwi’r cais am Daliad Ewyllys Da.
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 17 Tachwedd 2025. Bydd y cynllun yn agored am 90 diwrnod.
Bydd eich Cyfeirnod Cwsmer gan Ddŵr Cymru yng nghornel uchaf eich bil ar y dde. Nodwch y rhif yn ei gyfanrwydd pan fo angen er mwyn i ni gysylltu’ch cais â’ch cyfrif.
Nodwch ddyddiad ac amser bras a byddwn ni’n dilysu hyn yn erbyn ein data.
Mae Dŵr Cymru wedi cytuno i wneud cyfraniadau ewyllys da o hyd at £2500 fesul cwsmer busnes tuag at gostau penodol/colledion elw gros neu ordal yswiriant.
Nid yw’r costau a ystyrir yn cynnwys ffioedd proffesiynol (gan gynnwys ffioedd cyfrifydd neu asiant tiroedd ymhlith eraill) ac mae hynny’n cynnwys y ffioedd a dynnwyd wrth baratoi’r cais. Ni chaiff cynnydd yn eich premiwm yswiriant ei ystyried chwaith.
Am fod yna nifer o ffactorau sy’n gallu effeithio ar bremiwm yswiriant, ni fydd Dŵr Cymru’n ystyried gwneud cyfraniad at y costau hyn.
Ar gyfer Colli Elw Gros, o leiaf, rhowch y wybodaeth ganlynol os gwelwch yn dda:
- Gwerthiannau dyddiol net o TAW (os yw’r busnes wedi cofrestru ar gyfer TAW) am y cyfnod rhwng dydd Llun 30 Mehefin 2025 a heddiw (dyddiad cyflwyno’r cais).
- Copi o’r set ddiwethaf o gyfrifon diwedd blwyddyn, gan gynnwys cyfrif elw a cholled manwl.
- Ar ôl i’ch cais ddod i law, gallwn ofyn am wybodaeth bellach i helpu i benderfynu pa lefel o gyfraniad ewyllys da fydd yn daladwy.
Ar gyfer Costau Gweithredu Ychwanegol, darparwch dystiolaeth o'r holl anfonebau/derbynebau.
Ar gyfer Gormodedd Yswiriant, rhowch dystiolaeth gan eich cwmni yswiriant bod hawliad yswiriant wedi'i dalu ar gyfer y cyfnod hwn a thystiolaeth o'r tâl dros ben sy'n berthnasol.
Gallwch nodi’r manylion â llaw trwy lenwi’r meysydd perthnasol.
Efallai bod yna faes sydd heb ei lenwi. Os ydych chi wedi llenwi maes yn gywir, bydd tic gwyrdd yn ymddangos wrth ei ymyl. Os ydych chi wedi llenwi maes yn anghywir, bydd croes goch yn ymddangos wrth ei ymyl. Sicrhewch nad oes croes goch ar eich ffurflen cyn symud ymlaen.
Bydd gofyn i chi uwchlwytho’r dystiolaeth berthnasol yn rhan o’r broses ymgeisio. Bydd y canllawiau a’r ffurflen yn eich cynghori pa wybodaeth y dylech ei huwchlwytho. Dewiswch ‘ie’ am bob dogfen rydych am ei huwchlwytho. Wedyn fe welwch chi fotwm ‘Dewis ffeil’ a fydd yn caniatáu i chi bori i ddod o hyd i’r ddogfen gywir i’w huwchlwytho. Dewiswch y ddogfen berthnasol, ac ar ôl ei huwchlwytho, fe welwch enw’r ddogfen fel y mae’n ymddangos isod. Ar ôl uwchlwytho’r dogfennau angenrheidiol, ticiwch ‘na’ i’r opsiynau pellach ar gyfer ffeiliau i’w huwchlwytho.
Bydd y cais yn caniatáu i chi uwchlwytho hyd at 4 dogfen a rhaid i bob dogfen fod yn llai na 15MB o ran maint. Os oes angen i chi uwchlwytho mwy na 4 dogfen, neu os ydych chi’n cael trafferth uwchlwytho’r dogfennau, gallwch lenwi gweddill y cais, wedyn e-bostio’r dogfennau i goodwillpayments@dwrcymru.com , gan nodi eich cyfeirnod cwsmer gan Ddŵr Cymru fel testun y neges. Bydd hyn yn caniatáu i ni gysylltu eich dogfennau â’ch cais.
Byddwn ni’n ymdrechu i asesu eich cais a gwneud penderfyniad arno cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl iddo ddod i law.
Os yw eich cais yn ymwneud â Cholledion Elw Gros (dros £1250), bydd ein partneriaid trydydd parti yn ymdrechu i asesu eich cais cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl i’ch cais ddod i law. Gallai’r amserlenni hyn fod yn hirach yn dibynnu ar werth a chymhlethrwydd eich cais, a chyflymdra’ch ymatebion chi i geisiadau. Os felly, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi.
Gall Dŵr Cymru benodi trydydd parti i gynorthwyo neu i asesu unrhyw geisiadau. Penodir y trydydd parti heb eich hysbysu ymlaen llaw. Dŵr Cymru fydd yn talu’r costau hyn. Gallai’r partner trydydd parti gysylltu â chi’n uniongyrchol i drafod eich cais.
Cwmni Crawford yw partner trydydd parti Dŵr Cymru a allai gael ei benodi i asesu eich cais. Fodd bynnag, rydyn ni’n cadw’r hawl i benodi partneriaid trydydd parti eraill os oes angen.
Dylai’r taliad gymryd hyd at 5 niwrnod gwaith ar ôl i ni roi gwybod i chi am ganlyniad eich cais am Daliad Ewyllys Da.
Caiff y dull o dalu ei gadarnhau ar yr ohebiaeth am ganlyniad eich cais.
Y taliad awtomatig am yw ein rhwymedigaeth reoliadol ar ôl colli cyflenwadau.
Mae taliadau ewyllys da ar gyfer cwsmeriaid busnes yn cael eu hasesu a'u gwneud drwy'r broses Cais Ewyllys Da. Cynigir y taliadau hyn fel arwydd o ewyllys da y tu hwnt i’n rhwymedigaethau rheoleiddio.
Gofynnwn i chi ganiatáu 20 diwrnod i ni brosesu eich cais. Os ydyn ni’n credu y bydd y cais yn cymryd mwy nag 20 diwrnod gwaith, byddwn ni’n cysylltu i roi gwybod i chi.
Os ydych chi’n anghytuno â chanlyniad eich cais, dylech e-bostio goodwillpayments@dwrcymru.com gan nodi’n fanwl pam eich bod chi’n anghytuno. Nodwch eich cyfeirnod cwsmer gan Ddŵr Cymru fel testun y neges.