Gwybodaeth am Daliadau Iawndal mewn perthynas â’r byrst yn y brif bibell ddŵr - Broughton, Sir y Fflint


Cwsmeriaid domestig

  • Byddwn ni’n talu £30 i bob aelwyd cymwys am bob 12 awr o doriadau yn eu cyflenwadau.
  • Byddwn ni’n talu’r swm yn awtomatig i gyfrifon banc cwsmeriaid neu’n anfon siec at gwsmeriaid heb gyfrif os nad ydynt mewn dyled i ni.
  • Bydd taliadau cwsmeriaid â dyledion yn mynd i’w cyfrif Dŵr Cymru.
  • Telir iawndal i ddeiliad cyfrifon/cwsmeriaid sy’n talu’r biliau. Bydd angen i unrhyw ddeiliaid cyfrifon nad ydynt yn byw yn yr eiddo drosglwyddo’r taliad iawndal i’r preswylwyr.
  • Caiff y taliadau eu gwneud cyn pen yr 20 diwrnod gwaith nesaf.

Cwestiynau Cyffredin am gwsmeriad domestig ar-lein yma.

Cwsmeriad busnes

Mae’n ddrwg gennym am y toriad yn eich cyflenwad dŵr yn Sir y Fflint.

Bydd pob cwsmer busnes yn derbyn £75 o iawndal am bob 12 awr y buont heb gyflenwad.

Yn ogystal, mae Dŵr Cymru wedi cytuno i wneud cyfraniadau ewyllys da i gwsmeriaid busnes tuag at gostau penodol/colledion elw gros hyd at £2500.

Mae’r canllawiau hyn yn amlinellu’r gofynion cymhwyster, y meini prawf a’r broses ar gyfer ymgeisio am gyfraniad ewyllys da tuag at gostau/colledion elw gros, a dylid eu darllen yn eu cyfanrwydd cyn cyflwyno cais am Daliad Ewyllys Da.

Mae dyletswydd ar y busnesau o dan sylw i gymryd pob cam rhesymol i gadw eu costau/colledion elw gros mor isel â phosibl.

Os, ar ôl darllen y nodiadau arweiniad yma yn eu cyfanrwydd, ydych chi’n credu eich bod chi’n bodloni’r meini prawf am daliad ewyllys da ar ben y taliad sy’n cael ei wneud yn awtomatig, llenwch y cais pan fydd hwnnw ar gael, gan ddarparu’r wybodaeth a amlinellir yn y canllawiau hyn ac ar weffurflenni’r Cais Ewyllys Da.

Cwestiynau Cyffredin am gwsmeriad busnes ar-lein yma.

Meini prawf cymhwyster

Rhaid bodloni’r meini prawf canlynol er mwyn i’ch busnes fod yn gymwys i wneud cais am gyfraniad ewyllys da.

  • Rydych chi’n gwsmer busnes y mae’r toriad mewn cyflenwadau dŵr yn Sir y Fflint wedi effeithio’n uniongyrchol arno.
  • Rhaid i chi fod yn fusnes sydd wedi ei leoli’n barhaol yn lleoliad y cais e.e. nid yn fusnes symudol/ymweld, gan gynnwys gwasanaethau tacsi.
  • Rhaid i chi fod wedi cofrestru fel busnes a/neu yn talu taliadau busnes am eich Dŵr a Charthffosiaeth
  • Rhaid i’ch busnes fod wedi cofrestru gyda CThEF.

Mae cymhwyster am gyfraniad ewyllys da, ac unrhyw gyfraniadau a wneir ar ddisgresiwn Dŵr Cymru. 

Proses y Ceisiadau Ewyllys Da

Rydyn ni’n gwybod y bydd gan lawer o gwsmeriaid busnes yswiriant toriad mewn busnes. Os felly, dylid cyflwyno unrhyw hawliadau am gostau/colledion elw gros a dynnir trwy eich yswiriant. Lle bo yswiriant gan gwsmeriaid, a’u bod wedi defnyddio eu hyswiriant eu hunain, mae Dŵr Cymru’n fodlon ystyried cyfrannu at unrhyw ordal ar y polisi os darperir tystiolaeth ddigonol. Mae yna weffurflen benodol i gyflwyno cais am y cyfraniad ewyllys da yma, ac mae rhagor o fanylion isod. Rhaid i unrhyw gostau/colledion elw gros gael eu hategu gan y dystiolaeth a geisir yn y canllawiau hyn ac ar y weffurlen Cais Ewyllys Da. Sicrhewch fod gennych chi’r dystiolaeth berthnasol wrth law cyn dechrau’r weffurflen. Pan ddaw eich cais i law, gallwn ofyn i chi gyflwyno tystiolaeth ychwanegol i gydategu eich cais, neu ofyn am wybodaeth ychwanegol i ategu ein hasesiad.

Ddim yn Gymwys

Dylid nodi nad yw’r costau/colledion elw gros a ystyrir yn cynnwys ffioedd proffesiynol, gan gynnwys unrhyw ffioedd sy’n gysylltiedig â llenwi’r cais, ac unrhyw gynnydd mewn premiymau yswiriant. Ni chaiff unrhyw daliadau eu gwneud mewn perthynas â’r ddau gategori yma.

Mae’r isod yn amlinellu’r gwahanol weffurflenni Cais Ewyllys Da y gallwch eu llenwi. Dim ond un gweffurflen y Cwsmer Busnes y cewch ei llenwi.

Colledion Elw Gros yn Unig

Bydd llenwi’r weffurflen hon yn caniatáu i chi dalu taliadau ewyllys da tuag at y Colledion Elw Gros y mae eich busnes wedi eu tynnu mewn perthynas â’r byrst yn y brif bibell ddŵr rhwng dydd Mercher 13 Awst 2025 a dydd Sul, 17 Awst 2025.

Bydd gofyn i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

  • Gwerthiannau dyddiol net o TAW (os yw’r busnes wedi cofrestru ar gyfer TAW) am y cyfnod rhwng dydd Llun 30 Mehefin 2025 a heddiw (dyddiad cyflwyno’r cais).
  • Copi o’r set ddiwethaf o gyfrifon diwedd blwyddyn, gan gynnwys cyfrif elw a cholled manwl.

Ar ôl i’ch cais ddod i law, gallwn ofyn am wybodaeth bellach i’n helpu ni i benderfynu pa lefel o gyfraniad ewyllys da fydd yn daladwy.

Costau Ychwanegol i Barhau i Weithredu yn Unig

Bydd llenwi’r weffurflen hon yn caniatáu i ni ystyried taliadau ewyllys da tuag at gostau gweithredu ychwanegol oherwydd y “byrst yn y brif bibell ddŵr”. Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o anfonebau/derbynebion perthnasol.

Colledion Elw Gros a Chostau Ychwanegol i Barhau i Weithredu

Bydd llenwi’r weffurflen hon yn caniatáu i ni ystyried gwneud taliadau ewyllys da tuag at gostau Colledion Elw Gros a’r costau gweithredu ychwanegol y mae eich busnes wedi eu tynnu yn sgil y byrst ym mhrif bibell ddŵr Dŵr Cymru rhwng dydd Mercher, 13 Awst 2025 a dydd Sul, 17 Awst 2025. Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o’r canlynol:

  • Gwerthiannau dyddiol net o TAW (os yw’r busnes wedi cofrestru ar gyfer TAW) am y cyfnod rhwng dydd Llun 30 Mehefin 2025 a heddiw (dyddiad cyflwyno’r cais).
  • Copi o’r set ddiwethaf o gyfrifon diwedd blwyddyn, gan gynnwys cyfrif elw a cholled manwl.

Ar ôl i’ch cais ddod i law, gallwn ofyn am wybodaeth bellach i’n helpu ni i benderfynu pa lefel o gyfraniad ewyllys da fydd yn daladwy.

Nodyn: Ni chaniateir cyflwyno cais am ‘Golledion Elw Gros’ a ‘Chostau Ychwanegol i Barhau i Weithredu’ ill dau ar yr un dyddiad (gallwch naill ai wneud cais am ‘Golledion Elw Gros’ neu am ‘Gostau Ychwanegol i Barhau i Weithredu’ am unrhyw ddiwrnod penodol). Rhagwelir taw dim ond lle bo cwsmer wedi aros yn agored gan dynnu costau ychwanegol ond wedi gorfod cau wedyn y bydd yna geisiadau am ‘Golledion Elw Gros’ a ‘Chostau Ychwanegol i Barhau i Weithredu’.

Cyfraniad at eich gordal yswiriant

Bydd llenwi’r weffurflen hon yn caniatáu i ni ystyried taliadau ewyllys da tuag at y gordal yswiriant a dynnwyd ar ôl setlo hawliad yswiriant eich busnes mewn perthynas â’r “byrst yn y brif bibell ddŵr”.

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o’r gordal, a rhaid bod yr hawliad mewn perthynas â’r ‘byrst yn y brif bibell ddŵr’ wedi cael ei dalu’n llwyddiannus.

Datganiad

Rhaid i rywun sydd ag awdurdod i lofnodi ar ran eich busnes e.e. perchennog y busnes os ydych chi’n unig fasnachwr; partner mewn partneriaeth gofrestredig neu heb ei gofrestru; neu swyddog mewn cwmni cyfyngedig baratoi a llofnodi’r datganiad.

Pan ddaw eich cais a’r dogfennau ategol i law, cewch neges i gydnabod hynny trwy e-bost.

Ein nod yw asesu a gwneud penderfyniad ar eich cais cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl iddo ddod i law.

Gallai’r amserlenni fod yn hirach yn dibynnu ar werth eich cais a pha mor gymhleth yw e, yn ogystal â pha mor gyflym y byddwch chi’n ymateb i geisiadau. Os felly, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi.

Gall Dŵr Cymru benodi trydydd parti i’w gynorthwyo neu i asesu unrhyw geisiadau. Caiff trydydd partïon eu penodi heb roi gwybod i chi ymlaen llaw. Dŵr Cymru fydd yn talu’r costau hyn.