Colledion Elw Gros yn Unig


Bydd llenwi’r weffurflen hon yn caniatáu i ni ystyried taliadau ewyllys da tuag at y Colledion i Elw Gros a dynnodd eich busnes yn sgil y toriad yn eich cyflenwad dŵr yn Sir y Fflint rhwng dydd Mercher, 13 Awst 2025 a dydd Sul, 17 Awst 2025.

Llenwch y weffurflen hon yn ei chyfanrwydd gan ddarparu’r wybodaeth a bennir isod os ydych chi’n gwneud cais am daliad ewyllys da tuag at golledion elw gros. Byddwn ni’n defnyddio lled eich elw gros er mwyn pennu lefel yr ewyllys da a fydd yn daladwy.

Wrth gwblhau'r cais, rhowch y wybodaeth ganlynol os gwelwch yn dda:

  • Gwerthiannau dyddiol net o TAW (os yw’r busnes wedi cofrestru ar gyfer TAW) am y cyfnod rhwng dydd Llun 30 Mehefin 2025 a heddiw (dyddiad cyflwyno’r cais).
  • Copi o'r set olaf o gyfrifon diwedd blwyddyn gan gynnwys elw a cholled manwl.

Ar ôl i’ch cais ddod i law, gallwn ofyn am wybodaeth bellach i helpu i benderfynu pa lefel o gyfraniad ewyllys da fydd yn daladwy.

Cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin a allai eich cynorthwyo i lenwi eich cais.