Cyfraniad at eich tâl yswiriant atodol
Bydd llenwi’r weffurflen hon yn caniatáu i ni ystyried taliadau ewyllys da tuag at y gordal yswiriant a dynnwyd yn sgil setlo hawliad yswiriant eich busnes oherwydd y toriad yn eich cyflenwad dŵr yn Sir y Fflint rhwng dydd Mercher 13 Awst 2025 a dydd Sul 17 Awst 2025.
Llenwch y weffurflen hon yn ei chyfanrwydd os ydych chi wedi gwneud hawliad yswiriant llwyddiannus trwy eich polisi yswiriant Amhariad ar Fusnes / Colli Elw / Sgil-golledion a’ch bod am gael ad-daliad am dâl atodol eich polisi.
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o’r tâl atodol a thystiolaeth i ddangos bod hawliad sy’n ymwneud â’r toriad hwn yn eich cyflenwad dŵr wedi cael ei dalu’n llwyddiannus gan y cwmni yswiriant.
Cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin a allai eich cynorthwyo i lenwi eich cais.