Storm Darragh

Wedi’i ddiweddaru: 11:30 11 December 2024

Mae ein gwasanaethau yn parhau i gael eu heffeithio gan faterion cyflenwad pŵer a allai arwain at ymyrraeth i gyflenwadau dŵr neu bwysau isel i rai cwsmeriaid, yn bennaf mewn ardaloedd gwledig. Mae ein timau'n gweithio'n galed i gynnal cyflenwadau ac yn gweithio'n agos gyda'r holl asiantaethau eraill - gan gynnwys y cwmnïau ynni - i adfer yr holl gyflenwadau yn ddiogel ac mor gyflym â phosibl.

Ewch i Yn Eich Ardal am ragor o wybodaeth.

Codi’r Hysbysiad Berwi Dŵr Rhag Ofn


Mae ein gwaith brys yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Tyn-y-waun (Treherbert), sy’n cyflenwi eich dŵr yfed, wedi cael ei gwblhau. Mae’r Hysbysiad Berwi Dŵr rhagofalus wedi cael ei godi yn sgil hynny.

Mae Asiantaethau Iechyd Lleol wedi cytuno nad oes angen y mesurau diweddar mwyachfelly gall cwsmeriaid yfed eu dŵr tap fel arfer unwaith eto.

Mae hyn yn golygu:

  • Nid oes angen berwi dŵr cyn ei ddefnyddio.
  • Gellir ailgysylltu peiriannau gwerthu diodydd a gwneud iâ
  • Rydyn ni’n eich cynghori i newid unrhyw hidlyddion o gwmpas eich cartref; mae hyn yn cynnwys jygiau hidlo a hidlyddion ar systemau dŵr. Gosodwch hidlydd newydd ar bob un.

Diolch i chi am eich amynedd. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra

Neu rydym yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Croeso i chi roi galwad i ni ar 0800 052 0130 ac mae’r llinellau ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Cwestiynau Cyffredin