Siarad Cymraeg?

Oeddech chi’n gwybod bod cofrestru’r Gymraeg fel iaith eich dewis ar eich cyfrif gyda ni? Mae hi’n rhwydd - llenwch ein ffurflen syml a chewch unrhyw ohebiaeth bersonol gennym ni yn Gymraeg!

Nam ar brif bibell ddŵr yn Sir y Fflint

Wedi’i ddiweddaru: 22:00 10 August 2025

Rydym wedi ail-lenwi'r rhwydwaith ac adfer cyflenwadau i'r ardaloedd hynny yr effeithiwyd arnynt gan y brif bibell ddŵr a dorrodd (Y Fflint, Treffynnon, Ffynnongroyw, Maes Glas, Llanerch y Môr, Mostyn, Oakenholt, Talacre, Chwitffordd a Mancot).

Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o broblemau lliwio dros dro sy'n effeithio ar gyflenwadau dŵr i gartrefi yng Nghei Connah. Mae hyn wedi'i achosi gan fod angen i ni symud y dŵr o amgylch y rhwydwaith i gynnal cyflenwadau a bydd yn dros dro.

Rydym yn cysylltu â'r cwsmeriaid hynny ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth a'r cartrefi hynny (testun i ffôn symudol / llinellau tir) a allai gael eu heffeithio.

Efallai bod rhai cartrefi yn dal i brofi dŵr wedi ei liwio ond dim ond dros dro fydd hyn. Rydym yn fflysio'r system a gall cwsmeriaid hefyd redeg eu tapiau am gyfnod byr i'w helpu i glirio.

Gall cwsmeriaid gasglu cyflenwadau dŵr o’n gorsaf poteli dŵr ym Mhafiliwn Jade Jones ym Flint (CH6 5ER) sy’n parhau yn agored.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma. Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu diweddariadau ar Yn Eich Ardal  ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Pam ein bod mor falch o fod yn gwmni 'Marc Trethi Teg'


28 Gorffennaf 2021

Gan Mike Davies, Prif Swyddog Cyllid Dŵr Cymru

Fel y mae llawer ohonoch chi'n gwybod, yma yn Dŵr Cymru, rydyn ni'n hoffi gwneud pethau mewn ffordd sydd ychydig yn wahanol.

Yn gynharach eleni, fe ddathlon ni ugain mlynedd fel yr unig gwmni cyfleustod nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr. Mae ein model gweithredu unigryw'n golygu nad oes unrhyw gyfranddeiliaid gennym ac rydyn ni'n buddsoddi unrhyw arian sydd dros ben yn ein gwasanaethau ac er budd ein cwsmeriaid.

Ein nod bob tro yw gosod ein cwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn. Cymaint felly nes bod gennym weledigaeth fel cwmni i 'ennill ffydd ein cwsmeriaid bob dydd'. Efallai nad yw'n syndod i chi felly fod ymddiriedaeth yn bwysig dros ben i ni. Ac rydyn ni ymysg y cwmnïau y mae pobl yn ymddiried y mwyaf ynddynt ar draws y sector dŵr, fel y datgelodd adroddiad y Cyngor Defnyddwyr Dwr (CCW) y mis diwethaf.

Fel cwmni moesegol a chymdeithasol gyfrifol, mae tryloywder ym mhopeth a wnawn yn bwysig i ni ac mae'n helpu i feithrin hyder ein cwsmeriaid ynom eto fyth. Dyna pam ein bod ni'n ymfalchïo ein bod ni'n ymuno ag ychydig dros 60 o sefydliadau eraill sydd wedi ennill cydnabyddiaeth am reoli eu materion treth mewn ffordd gyfrifol a thryloyw.

Trwy gyfuniad o fuddsoddiad uniongyrchol a'n cadwyn gyflenwi ehangach, rydyn ni eisoes yn cefnogi gwerth dros £1 biliwn o weithgarwch economaidd. Rydyn ni'n buddsoddi tua £1 miliwn y diwrnod yn ein gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff, sy'n golygu ein bod ni wedi buddsodd cyfanswm o £1.9 biliwn dros y pum mlynedd diwethaf (2015-2020). Dros gwrs y pum mlynedd nesaf (2020-2025), byddwn ni'n buddsoddi £1.8 biliwn pellach.

Rydyn ni'n gwybod fod ein cwsmeriaid am i ni fod yn gyfrifol ac yn dryloyw. Ein gobaith yw y bydd ennill yr achrediad yma’n helpu ein cwsmeriaid i weld ein bod ni'n falch o wneud y peth iawn a gweithredu fel busnes cymdeithasol gyfrifol, o ail-fuddsoddi ein helw er budd ein cwsmeriaid i dalu'r trethi cywir.

Os oes diddordeb gennych glywed rhagor am y Marc Trethi Teg, mae rhagor o fanylion yma.