Oriau agor dros y Nadolig

Information

Noder mai oriau agor ein canolfan gyswllt ar gyfer bilio a'n sgwrs we yw:

Dydd Llun 22 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mawrth 23 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mercher 24 Rhagfyr: 08:00 - 14:00
Dydd Iau 25 Rhagfyr - Dydd Gwener 26 Rhagfyr: Ar gau
Dydd Sadwrn 27 Rhagfyr: 09:00 - 13:00
Dydd Llun 29 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mawrth 30 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mercher 31 Rhagfyr: 08:00 - 14:00
Dydd Iau 1 Ionawr: Ar gau
Dydd Gwener 2 Ionawr: 08:00 - 18:00
Dydd Sadwrn 3 Ionawr: 09:00 - 13:00

Mae ein canolfan gyswllt ar gyfer Gweithrediadau ar agor 24/7 drwy gydol cyfnod y Nadolig ar gyfer unrhyw argyfwng.

Plastic Free July 2021
Environment

Gorffennaf Diblastig 2021


20 Gorffennaf 2021

Gorffennaf Diblastig yw hi'r mis yma, sef mudiad byd-eang sy'n helpu miliynau o bobl i fod yn rhan o'r ateb i lygredd plastig trwy ddewis gwrthod prynu neu ddefnyddio plastigion untro.

Mae Tony Harrington, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd gyda Dŵr Cymru, yn rhannu ei safbwyntiau am blastigion untro, eu heffaith ar ein hamgylchedd a beth y gallwn ni i gyd ei wneud i wneud gwahaniaeth.

“Mae effaith llygredd plastig ar ein hamgylchedd wedi cael ei hamlygu yn y cyfryngau ac o fewn y llywodraeth dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hi'n briodol bod y mater wedi denu sylw mawr ar draws y byd. Boed yn facro-blastigion fel hen offer pysgota a bagiau plastig, neu'n ficro-blastigion fel y rhai sy'n dod oddi ar ddillad yn y golch, mae llygredd plastig yn broblem y mae angen i ni fynd i'r afael â hi ar frys.

“Gallwn ni i gyd chwarae ein rhan yn y rhyfel yn erbyn plastig trwy wrthod prynu neu ddefnyddio plastigion untro, a dewis defnyddio cynnyrch y gellir eu hailddefnyddio neu ddewisiadau nad ydynt yn blastig. Fodd bynnag, er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn ac er mwyn i weithgynhyrchwyr dalu sylw, mae angen deddfwriaeth fel y ddeddfwriaeth a gyhoeddwyd gan yr Undeb Ewropeaidd y mis yma.

“Daeth Cyfarwyddeb Plastigion Untro (SUP) yr UE i rym ar 3 Gorffennaf, sy'n golygu bod o leiaf rhai o'r eitemau cyffredin sy'n cael eu gwneud o blastigion untro bellach wedi eu gwahardd, neu mae gofyn iddynt gynnwys labelu ychwanegol sy'n dangos bod plastigion ynddynt. Mae hyn yn cynnwys ffyn gwlân cotwm, cytleri, platiau, gwellt a ffyn troi, balŵns a ffyn balŵns, blychau bwyd, cwpanau diod, dalwyr diodydd, stwmps sigaréts, bagiau plastig, pacedi a deunydd lapio, weips ac eitemau mislif.

“Er nad yw'r Gyfarwyddeb mewn grym yng Nghymru a Lloegr (eto), mae hi'n addawol iawn gweld bod yr UE wedi cynnwys sylw ar ffyn gwlân cotwm, weips ac eitemau mislif. Mae'r eitemau hyn yn aml yn cael eu fflysio i dai bach ac maen nhw'n cyfrannu at yr 20,000 o dagfeydd mewn carthffosydd y mae ein tîm gwastraff yn delio â nhw bob blwyddyn. Nid yw'r plastig sydd ynddyn nhw'n dadelfennu yn y system ac mae'n peri i'r carthffosydd flocio, sy'n gallu arwain at lygredd amgylcheddol.

“Petai pawb sy'n defnyddio weips yn newid o'r rhai sy'n cynnwys plastig i'r rhai sy'n seiliedig ar seliwlos ag achrediad y logo Iawn i Fflysio, byddai'n gwneud gwahaniaeth anferth i iechyd ein carthffosydd a'n hamgylcheddau lleol. Felly rydyn ni'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n cymryd hyn i ystyriaeth wrth adolygu ei Ymgynghoriad ei hun ar Blastigion Untro. Rydyn ni'n disgwyl y canlyniad yn ddiweddarach eleni.”