Byrst mewn Pibell Ddŵr - Llanrumney/Llaneirwg, CF3

Wedi’i ddiweddaru: 08:00 04 September 2025

Mae'r brif bibell ddŵr a dorrodd bellach wedi'i thrwsio, ac mae cyflenwadau dŵr bellach wedi'u hadfer oherwydd gweithrediadau ail-barthu a defnyddio tanceri dŵr.

Rydym yn y broses o ail-lenwi'r rhwydwaith ond mae angen gwneud hyn yn ofalus ac yn araf er mwyn osgoi unrhyw doriadau pellach. Efallai y bydd rhai cwsmeriaid yn dal i brofi cyflenwad ysbeidiol, pwysedd isel neu ddŵr wedi'i afliwio wrth i bethau ddychwelyd i normal. Bydd y gorsafoedd dŵr potel yn aros ar agor y bore yma.

Mae gorsafoedd dŵr potel ar gael yma:

  • Canolfan Hamdden y Dwyrain, Rhodfa Llanrhymni CF3 4DN
  • Archfarcnad Tesco, Llaneirwg, CF3 0EF

Hoffem ymddiheuro am yr anghyfleustra y mae hyn wedi'i achosi i gwsmeriaid.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Ffŵl Ebrill! 13 peth a ffeindiwyd yng ngharthffosydd Dŵr Cymru


1 Ebrill 2022

Nid ar chwarae bach mae gofalu am rwydwaith 36,000km o garthffosydd – digon i ymestyn yr holl ffordd i Awstralia a nôl.

Mae hi'n dasg dechnegol a logistaidd 24/7 i Ddŵr Cymru, yr unig gwmni cyfleustod nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr sy'n sicrhau bod pobl Cymru a rhannau o Sir Henffordd yn gallu dibynnu ar wasanaeth o'r radd flaenaf i gludo eu dŵr brwnt i ffwrdd ag un fflysh heb orfod poeni dim.

Ond mae mwy i'r gwaith na hynny...

  • Mae Dŵr Cymru'n amcangyfrif ei fod yn taclo tua 20,000 o dagfeydd y flwyddyn, ar gost o ryw £5 miliwn y flwyddyn i'r cwmni – arian a allai gael ei wario ar ei wasanaethau neu ar leihau biliau cwsmeriaid fel arall.
  • Pobl yn golchi pethau amhriodol fel braster, olew a saim (FOG) i lawr y sinc, ac yn fflysio pethau fel weips a nwyddau mislif, ynghyd ag eitemau a gwrthrychau eraill, a hyd yn oed anifeiliaid na fyddech chi byth yn dychmygu eu ffeindio yn eich carthffosydd sydd i gyfrif am ryw ddau draean o'r tagfeydd ar rwydwaith carthffosydd Dŵr Cymru.

Edrychwch ar y rhestr hon, allwch chi ddweud pa eitem sydd erioed wedi cael ei ffeindio yn un o garthffosydd Dŵr Cymru?

1. Roedd hi'n dipyn o syndod i Mŵŵŵŵŵr Cymru ddod o hyd i fuwch yn y rhwydwaith tua deng mlynedd yn ôl
2. Rhywbeth i gnoi cil arno: ffeindiodd y tîm set lawn o ddannedd gosod yn llechu yn nyfnderoedd mewnfa ar Ynys Môn
3. Ffeindiwyd digon o weips i lenwi pedwar sach sbwriel yn Rhydaman
Wet Wipes

4. Sôn am drysor! Fe ffeindion nhw fodrwy briodas ym Môn, a chafodd ei dychwelyd at ei pherchennog diolch i’r drefn (ar ôl ei glanhau'n ofalus wrth gwrs!)
5. Nid dril yw hwn: ffeindiwyd gordd yn y garthffos yn Abertawe
6. Ffeindiwyd teulu o ddyfrgwn chwareus ym Maerun, Llaneirwg, Casnewydd
Otter family
7. Gwnaeth y neidr ŷd pedwar troedfedd o hyd yma hanessss pan ffeindiodd timau Dŵr Cymru hi mewn carthffos yng Nghaernarfon. Mae'n bosibl i'r neidr fawr yma gael ei fflysio i'r tŷ bach, a daeth RSPCA Cymru allan i achub y creadur prydferth yma a enwyd yn 'Ghengis Corn' gan gydweithwyr
Corn snake
8. Roedd hi fel ffair pan ffeindiodd tîm Dŵr Cymru gneuen goco mewn carthffos yn Abertawe
9. Bwced siâp petryal a achosodd dagfeydd am ddyddiau a llond trol o lanast...
10. Ahem… tegan oedolyn yn Noc Penfro
11. Dyma dystiolaeth gadarn i chi – ffeindiwyd brics adeiladu'n achosi bloc mawr
12. 'Dyn' gwreiddiau coed yng Nghlydach, Abertawe
Tree Roots

13. Yn anffodus, aeth un ci heb ei swper am i'r timau ffeindio'r asgwrn yma yn y garthffos yn Abertawe.
Dog bone

Credu'ch bod chi'n gwybod pa un yw'r ffaith ffug? Yn anffodus, nid jôc yw hyn. Ffeindiwyd yr holl bethau hyn yng ngharthffosydd Dŵr Cymru. Er nad oedd pob un wedi cael eu fflysio, dyna sut roedd llawer ohonynt wedi cyrraedd yno, gan achosi llwyth o waith diangen i'r timau dŵr gwastraff.

Wrth fflysio, cofiwch fod yna weithwyr hanfodol ar ben arall y bibell ac na ddylech fflysio dim ond y tri P: pi-pi, pŵ a phapur tŷ bach.