Y gwirionedd am weips
Mae cwta un weip yn ddigon i ddechrau bloc yn eich pibell garthffosiaeth a allai achosi llifogydd erchyll yn eich cartref a fydd yn drafferthus ac yn ddrud.
Trwy wneud y peth iawn, gallwch chi stopio'r bloc.
Oriel y Dihirod
Cymerodd y talp anferth yma o weips yn Rhydaman oriau i'w glirio, a llenwodd bedwar sach sbwriel.
Weips oedd wedi eu labelu fel rhai oedd yn addas i'w fflysio achosodd y bloc yma ym Mhontyberem.
Daeth y talp anferth yma o weips o garthffos yng Nglan yr Afon, Caerdydd. Llenwodd ddeg sach sbwriel a chymerodd oriau i'r criwiau ei glirio.
Darganfyddiad annisgwyl: Ffeindiwyd y bêl rygbi yma'n blocio carthffos yn Abergwaun.
Darganfyddiad annisgwyl: Ffeindiwyd y gadwyn anferth yma'n blocio carthffos ym Mhort Talbot.
Dyma beth sy'n digwydd wrth arllwys braster, olew a saim i'r sinc.
Tomen fraster! Fe ffeindion ni'r domen fraster anferth yma o dan Heol Eglwys Fair yng Nghaerdydd.
Stopio'r bloc
yn yr ystafell ymolchi
- Taflwch unrhyw weips, nwyddau mislif, ffyn gwlân cotwm a chewynnau i'r bin.
- Holwch a yw'ch cyngor lleol yn cynnig gwasanaeth casglu cewynnau.
- Rhowch gynnig ar gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio i leihau eich gwastraff a'ch bil siopa.
Stopio'r bloc
yn y gegin
- Sychwch eich sosbenni a llestri seimllyd eraill â darn o bapur cegin cyn eu golchi, a thaflwch y papur cegin i'r bin.
- Oerwch olew coginio ar ôl ei ddefnyddio a'i arllwys i gynhwysydd i'w waredu neu ei ailgylchu os yw'ch cyngor lleol yn caniatáu hynny.
Stopio'r bloc
yn y gweithle
- Yn ogystal ag effeithio arnoch chi, mae problemau draenio yn eich busnes yn gallu effeithio ar eich cwsmeriaid hefyd.
- Gall ein tîm gyflawni arolwg pwrpasol rhad ac am ddim ar eich cegin er mwyn sicrhau eich bod chi'n cydymffurfio â rheoliadau'r diwydiant.
Sut mae blocio carthffosydd yn effeithio ar yr amgylchedd lleol...
Blociodd weips garthffos ger ysgol uwchradd yng Nghwmbrân gan achosi'r llygredd amgylcheddol yma.
Bu angen i'n tîm gwastraff glirio'r llygredd carthion yma mewn ardal breswyl yn Hwlffordd. Talp o weips yn y bibell garthffosiaeth oedd y tu ôl i’r broblem.
Cafodd y talp yma o weips ei glirio o garthffos yn Nhremadog. Yn anffodus, roedd hi eisoes wedi llygru'r afon.
Pobl yn fflysio weips ym Maesteg achosodd y llygredd yma yn yr amgylchedd lleol.
Rhowch wybod i ni
Os gwelwch chi lygredd, rhowch wybod i ni ar unwaith ar 0800 085 3968 neu trwy'r ddolen isod.
Er mwyn eich amgylchedd lleol, peidiwch â fflysio dim ond pi-pi, pŵ a phapur.
Rhowch wybod i ni