Oriau agor dros y Nadolig

Information

Noder mai oriau agor ein canolfan gyswllt ar gyfer bilio a'n sgwrs we yw:

Dydd Llun 22 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mawrth 23 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mercher 24 Rhagfyr: 08:00 - 14:00
Dydd Iau 25 Rhagfyr - Dydd Gwener 26 Rhagfyr: Ar gau
Dydd Sadwrn 27 Rhagfyr: 09:00 - 13:00
Dydd Llun 29 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mawrth 30 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mercher 31 Rhagfyr: 08:00 - 14:00
Dydd Iau 1 Ionawr: Ar gau
Dydd Gwener 2 Ionawr: 08:00 - 18:00
Dydd Sadwrn 3 Ionawr: 09:00 - 13:00

Mae ein canolfan gyswllt ar gyfer Gweithrediadau ar agor 24/7 drwy gydol cyfnod y Nadolig ar gyfer unrhyw argyfwng.

Dydd Llun: Materion Ariannol

Dydd Llun: Materion Ariannol


12 Ionawr 2024

Mae meddwl am arian yn gallu achosi straen difrifol. Wrth i ni ffeindio’n ffordd trwy’r argyfwng costau byw, mae hi’n gallu bod yn anodd gwybod ble i ddechrau pan fo arian yn dynn.

Yn Dŵr Cymru, rydyn ni yma i chi.

Mae gennym nifer o opsiynau i helpu cwsmeriaid i arbed arian ar eu biliau dŵr, yn ogystal â llawer o gymorth i bobl sydd wedi syrthio ar ei hôl hi gyda’u taliadau. Fe gynorthwyon ni dros 146,000 o gwsmeriaid y llynedd, ond rydyn ni’n gwybod fod yna ragor o bobl a allai elwa hefyd.

Os yw’r esgid yn gwasgu, plîs peidiwch â diodde’n dawel. Cysylltwch â ni i siarad ag un o’n cynghorwyr cyfeillgar heddiw. Rydyn ni’n awyddus i helpu ein cwsmeriaid a dod o hyd i atebion i unrhyw un sy’n cael trafferth fforddio talu eu bil dŵr.

Mam sengl i bump o Lanilltud Faerdref yw Bethan Davies. Cafodd gymorth gyda’i bil dŵr gan Ddŵr Cymru’n ddiweddar. Dywedodd: “Roeddwn i’n mynychu apwyntiad yn y Ganolfan Waith pan ddywedodd cynghorydd fod rhywun o Ddŵr Cymru yno i helpu cwsmeriaid gyda’u biliau. Am fy mod i’n gwybod fy mod i mewn dyled gyda fy mil dŵr, roeddwn i’n poeni am siarad â rhywun o Ddŵr Cymru ar y cychwyn. Nawr, rwy’n difaru peidio â gwneud hynny’n gynt.

“Esboniodd Jody, [Ymgynghorydd Ymgyrchoedd Hyrwyddo Dŵr Cymru] yr opsiynau a allai fod ar gael i mi ar ôl edrych ar fy incwm, a dywedodd ‘gallwn ni dy helpu di’. Helpodd hi fi i dorri £500 oddi ar fy mil, trwy fy ngosod ar y tariff HelpU, a helpodd fi i wneud fy nhaliadau’n fwy hydrin fel y gallwn glirio fy nyled. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i fy nheulu, a’r unig beth rwy’n difaru nawr yw’r ffaith na wnes i siarad â Dŵr Cymru’n gynt; doedd yna ddim beirniadaeth, a’r cyfan roedden nhw am ei wneud oedd helpu. Gallwn i fod wedi osgoi llwyth o straen.

Ymhlith yr opsiynau am gymorth ariannol sydd ar gael gan Ddŵr Cymru mae:

  • Y tariff HelpU, sy’n helpu aelwydydd incwm isel sy’n derbyn budd-daliadau ar sail prawf moddion, trwy osod cap ar swm eu biliau dŵr.
  • Cymuned, mewn partneriaeth â Chyngor Ar Bopeth, Cymru Gynnes ac elusen ddyledion StepChange, sy’n helpu aelwydydd sy’n gweithio sy’n cael trafferth fforddio’r hanfodion, fel eu biliau dŵr.
  • Cynllun cymorth dyledion y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid, sy’n helpu’r bobl hynny sy’n wynebu caledi ariannol difrifol i ymdopi â’u taliadau.

I gael rhagor o fanylion am y cymorth ariannol sydd ar gael gan Ddŵr Cymru, ewch i www.dwrcymru.com/costaubyw.