Cais am fesurydd dŵr

Information

Rydym yn derbyn nifer uchel o geisiadau ac mae’n cymryd mwy o amser nag yr hoffem i drefnu apwyntiadau. Mae eich cais wedi ei gofnodi ac nid oes angen cysylltu â ni.

Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl wrth i ni brosesu eich cais.

Os ydych chi am gyflwyno cais am fesurydd, gallwch wneud hynny ar lein.

Cwrdd â’r Prentisiaid: Ben Thomas


3 Mawrth 2025

Beth yw dy rôl bresennol yn Dŵr Cymru?

Technegydd Rhwydwaith dan Hyfforddiant ydw i.

Beth oedd dy brif ddiddordebau yn yr ysgol? Oedd unrhyw gynlluniau gyrfaol gyda ti? Oeddet ti wedi ystyried prentisiaeth?

Roeddwn i wir yn mwynhau Maths, Peirianneg a Chwaraeon yn yr ysgol. Yn wreiddiol, roeddwn i am fynd i fyd busnes a chyllid, ond wedi newidiodd hynny i fod yn farbwr. Doeddwn i erioed wedi ystyried prentisiaeth oherwydd roeddwn i dan yr argraff y byddai cymryd prentisiaeth yn golygu toriad cyflog mawr.

Sut cefaist ti wybod am gynllun prentisiaethau Dŵr Cymru? Beth wnaeth i ti ymgeisio?

Fe glywais i am y brentisiaeth trwy ffrind a ddechreuodd blwyddyn cyn fi, ac am fod gennym ni’r un diddordebau roedd e’n gwybod y byddwn i’n mwyhau’r gwaith.

Sut brofiad oedd y broses ymgeisio a chyflwyno i ti? Sut oeddet ti’n teimlo pan ddysgaist ti dy fod ti wedi cael dy dderbyn yn brentis?

Roedd y broses o ymgeisio a chyflwyno’n ddidrafferth, bron a bod yn ddi-dor. Roeddwn i wrth fy modd pan glywais i fy mod i wedi cael y swydd, ac roeddwn i’n teimlo’n wirioneddol ddiolchgar am gael gwybod yr un diwrnod fel na fyddwn i’n poeni.

Dwed wrthym ni am dy siwrnai gyda Dŵr Cymru. Beth yw dy uchafbwynt hyd yn hyn?

Rydw i wedi bod gyda’r cwmni ers 4 mis nawr, ac rwy’n ffitio’n dda iawn i’r tîm. Mae hi wedi bod yn bleser hyd yn hyn, ac rwy’n dysgu ac yn gwella’n barhaus. Fel uchafbwynt, byddai rhaid i mi ddweud ein cinio Nadolig gyda’r Siôn Corn Dirgel.

Sut mae’r cymorth i ddatblygu dy yrfa wedi bod?

O ran datblygiad, cefais fy nghofrestru ar gwrs HNC yn syth ar ôl dechrau, sy’n gwneud i mi deimlo bod y cwmni’n buddsoddi ynof i, a bydd dilyn y cwrs yma’n fy nghynorthwyo i ennill gwybodaeth berthnasol i symud ymlaen i’r cam nesaf yn fy ngyrfa.

Oes unrhyw gynlluniau gen ti o ran y cyfeiriad yr hoffet ti weld dy yrfa’n mynd iddi?

Am y tro, rydw i jyst am gwblhau fy mhrentisiaeth a dysgu fy rôl yn drylwyr. Ond fel person uchelgeisiol, hoffwn i barhau i ddatblygu a dringo’r ysgol.