Troi’r sylw ar Charlotte Harris, Rheolwr y Prosiect Effeithlonrwydd Dŵr
3 Gorffennaf 2024
Rydyn ni’n rhoi sylw i unigolion ar draws Dŵr Cymru sy’n gwneud ein timau’n arbennig. Yr wythnos hon rydyn ni’n siarad â Charlotte, sy’n gweithio yn ein tîm Gwasanaethau Dŵr i glywed rhagor am ei rôl.
Elli di ddweud ychydig bach am dy rôl yn Dŵr Cymru?
Heia, Charlotte Harris ydw i, Rheolwr Prosiect Effeithlonrwydd Dŵr Dŵr Cymru. Mae Dŵr Cymru’n angerddol am helpu ein holl gwsmeriaid i arbed dŵr, ynni ac arian! Fe ymunais i â’r tîm yn ddiweddar â’r nod o ddatblygu’r strategaeth i leihau’r defnydd o ddŵr ar draws ein hardaloedd gweithredu.
Sut wyt ti’n gweithio gyda busnesau o fewn dy rôl?
O fewn fy rôl, mae yna gyfle i hybu’r ddarpariaeth ar gyfer ein cwsmeriaid busnes a chynorthwyo’r gweithwyr sy’n gweithio yn y busnesau hynny.
Rydyn ni’n cynnig cyngor a chymorth i gwsmeriaid er mwyn clustnodi ffyrdd iddyn nhw leihau eu defnydd. Gallai hyn fod trwy osod offer effeithlonrwydd dŵr (awyryddion tapiau, pennau cawod a chasgenni dŵr i enwi ond ychydig) neu gynnig cyngor am ffyrdd o ddefnyddio llai o ddŵr. Rydyn ni’n cynnig cynllun ‘toiledau sy’n gollwng’ hefyd, lle’r ydyn ni’n helpu i glustnodi a thrwsio tai bach sy’n gollwng am ddim i’r cwsmer!
Yn rhan o hyn, mae gennym le penodol ar y we er mwyn i unrhyw un o’n cwsmeriaid busnes gyrchu cyngor ac awgrymiadau am ffyrdd o arbed dŵr a phosteri effeithlonrwydd dŵr. Gallwch gyrchu’r rhain yma.
Beth wyt ti’n hoffi gwneud yn dy amser hamdden?
Yn fy amser hamdden, rwy’n mwynhau treulio amser gyda fy nheulu. Mae gen i ferch 18 mis oed sy’n fy nghadw i’n brysur dros ben! Rydyn ni’n hoffi trefnu diwrnodau allan a chrwydro lleoedd newydd, sy’n arwain fel rheol at hufen iâ neu bryd bwyd braf ar ddiwedd y dydd. Pan fo’r amser gen i, rwy’n mwynhau rhedeg hefyd. Rydw i wedi rhedeg sawl hanner marathon, ond dwi ddim wedi bod yn ddigon dewr i ymrwymo i farathon llawn - eto!