Oriau agor dros y Nadolig

Information

Noder mai oriau agor ein canolfan gyswllt ar gyfer bilio a'n sgwrs we yw:

Dydd Llun 22 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mawrth 23 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mercher 24 Rhagfyr: 08:00 - 14:00
Dydd Iau 25 Rhagfyr - Dydd Gwener 26 Rhagfyr: Ar gau
Dydd Sadwrn 27 Rhagfyr: 09:00 - 13:00
Dydd Llun 29 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mawrth 30 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mercher 31 Rhagfyr: 08:00 - 14:00
Dydd Iau 1 Ionawr: Ar gau
Dydd Gwener 2 Ionawr: 08:00 - 18:00
Dydd Sadwrn 3 Ionawr: 09:00 - 13:00

Mae ein canolfan gyswllt ar gyfer Gweithrediadau ar agor 24/7 drwy gydol cyfnod y Nadolig ar gyfer unrhyw argyfwng.

Yma i chi: Stori Steven


21 Ionawr 2022

Yma yn Dŵr Cymru, rydyn ni'n deall fod ar lawer o'n cwsmeriaid angen ychydig bach o gymorth ychwanegol o bryd i'w gilydd.

Nawr yn fwy nag erioed, rydyn ni'n ymwybodol iawn fod llawer o bobl yn wynebu sialensiau ariannol a phersonol a all fod yn gwneud bywyd ychydig bach yn anodd. Felly, rydyn ni'n cymryd yr amser i'ch cyflwyno i rai o gydweithwyr Dŵr Cymru sydd yma i helpu.

Mae Steven yn Gynghorydd Cwsmeriaid gyda'n Tîm Swyddfa Model. Mae e'n 47 oed, yn briod â 2 ferch, Katie & Amy, ac un wyres, Lili. Mae'n mwynhau treulio amser gyda'i deulu, cymdeithasu â ffrindiau a theithio o gwmpas y DU ac Ewrop yn ei garafán.  Yn ogystal, mae'n "Angorwr" gyda thîm Gornestau Tynnu Rhaff Clwb Carafanau De Cymru - sef Pencampwyr Prydain ar hyn o bryd!

Sut y gall Steven eich helpu chi

Rwy'n aelod o dîm y ganolfan gysylltu, ac rwy'n treulio'r rhan fwyaf o fy niwrnod gwaith yn cymryd galwadau, yn helpu cwsmeriaid â thagfeydd ac â phroblemau eraill gyda'u cyflenwadau dŵr. Rwy'n cymryd galwadau am filiau hefyd, yn gweithio ar y wesgwrs ac yn delio â gohebiaeth ysgrifenedig.


Testun balchder i Steven

Mae helpu cwsmeriaid bob dydd yn rhoi teimlad o foddhad mawr i mi. Does yna ddim byd gwell na gorffen sifft gan wybod fy mod i a fy nghydweithwyr wedi mynd gam ymhellach i helpu cwsmeriaid sydd mewn angen gyda’n gwasanaethau.

Pam fod Steven eisiau helpu

Rwy'n un da am wrando, yn amyneddgar iawn ac yn mwynhau siarad â'n cwsmeriaid a'u cynorthwyo â'u hymholiadau. Rydw i wedi bod yn gweithio dros Ddŵr Cymru ers Awst 2019, ac mae hi'n gwmni rhagorol i weithio drosti. Dull y cwmni o weithredu bob tro yw rhoi'r cwsmer yn gyntaf, ac mae'n teimlo'n braf bod yn rhan o dîm sydd oll yn gweithio tua'r un nod. Mae aelodau fy nhîm, fy nghydweithwyr a'm rheolwyr oll yn bleser i weithio gyda nhw.

Os oes byth angen cymorth ychwanegol arnoch gan Ddŵr Cymru, peidiwch â diodde'n dawel bach. Os ydych chi'n wynebu trafferthion ariannol, os oes gennych anhwylder meddygol, neu unrhyw bryderon eraill am eich bil dŵr, cofiwch gysylltu – r'yn ni yma i chi.