Oriau agor dros y Nadolig

Information

Noder mai oriau agor ein canolfan gyswllt ar gyfer bilio a'n sgwrs we yw:

Dydd Llun 22 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mawrth 23 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mercher 24 Rhagfyr: 08:00 - 14:00
Dydd Iau 25 Rhagfyr - Dydd Gwener 26 Rhagfyr: Ar gau
Dydd Sadwrn 27 Rhagfyr: 09:00 - 13:00
Dydd Llun 29 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mawrth 30 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mercher 31 Rhagfyr: 08:00 - 14:00
Dydd Iau 1 Ionawr: Ar gau
Dydd Gwener 2 Ionawr: 08:00 - 18:00
Dydd Sadwrn 3 Ionawr: 09:00 - 13:00

Mae ein canolfan gyswllt ar gyfer Gweithrediadau ar agor 24/7 drwy gydol cyfnod y Nadolig ar gyfer unrhyw argyfwng.

Clwb Bowlio Romilly, y Barri yn cael arian gan Dŵr Cymru


17 Awst 2021

Mae Clwb Bowlio Romilly, y Barri wedi cael arian £500 o Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru. Roedd hyn yn rhan o gynllun y cwmni nid-er-elw i fuddsoddi £6.5 miliwn yn yr ardal i uwchraddio’r system dŵr gwastraff ger Parc Gwledig Porthceri a Weycock Cross.

  • Clwb Bowlio Romilly, y Barri yn cael arian o Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru.
  • Defnyddir yr arian i adnewyddu cegin y clwb.
  • Ers 2019, mae’r cwmni wedi buddsoddi dros £6.5 miliwn er mwyn gwella’r rhwydwaith dŵr gwastraff yn ardal y Barri.

Mae Clwb Bowlio Romilly, y Barri wedi cael arian £500 o Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru. Roedd hyn yn rhan o gynllun y cwmni nid-er-elw i fuddsoddi £6.5 miliwn yn yr ardal i uwchraddio’r system dŵr gwastraff ger Parc Gwledig Porthceri a Weycock Cross.

Mae dros 65 o aelodau yn y clwb llwyddiannus sydd wedi’i sefydlu ers blynyddoedd maith. Mae’n lle gwych i bobl gyfarfod, cymdeithasu a chael ymarfer corff. Mae’r rhodd wedi helpu i adnewyddu cegin y clwb sy’n cael ei defnyddio’n rheolaidd.

Dywedodd Paul James, Ysgrifennydd Clwb Bowlio Romilly, y Barri: Rydym wedi cael arian o sawl ffynhonnell i adnewyddu’r gegin, yn eu plith roedd rhodd garedig gan Dŵr Cymru. Rydym yn falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni yn y clwb ac rydym yn ddiolchgar i’r cwmni am eu cefnogaeth.”.

Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru yn gyfle i gymunedau hybu ymdrechion i godi arian at achosion da yn eu hardal nhw. Os ydych yn byw mewn ardal lle mae’r cwmni’n gweithio – a’ch bod yn codi arian at brosiectau er budd y gymuned – gallech gael gwerth hyd at £1,000 gan Dŵr Cymru. Os hoffech ragor o wybodaeth, ewch i dwrcymru.com/Cronfa-Gymunedol  

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol gyda Dŵr Cymru:, “Mae’n bleser gan Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru gefnogi Clwb Bowlio Romilly, y Barri. A ninnau’n gwmni nid-er-elw, ein cwsmeriaid sydd wrth galon ein holl waith ac mae’r Gronfa’n ein galluogi i roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau rydym yn buddsoddi ynddyn nhw.”