Tywydd Oer – Neges i'n Cwsmeriaid

Information

15:00 01 December 2023

Rydym profi tymheredd isel mewn nifer o’n cymunedau gyda thywydd rhewllyd ac ia. Mae yna beryg y bydd pibellau dŵr yn rhewi ac yn byrstio.

Byddwn yn gweithio ddydd a nos er mwyn cynnal cyflenwadau dŵr ond rydym angen eich help.

Rydym yn gofyn i gwsmeriaid i ofalu am eu pibellau dŵr drwy sicrhau bod tapiau a phibellau allanol wedi eu gorchuddio a dylech wybod ble mae eich ‘stop tap’ rhag ofn bod yna broblemau. Os ydych yn sylwi bod ein rhwydwaith ni n gollwng dŵr, ffoniwch ni ar 0800 052 0130neu rhowch wybod i ni ar-lein - fel y gallwn ddatrys hyn yn gyflym. 

Er mwyn dysgu mwy am sut i baratoi eich cartref ar gyfer y tymheredd rhewllyd, ewch i’n tudalennau Paratowch am y Gaeaf.

Cadwch yn ddiogel.

Gwybodaeth am Systemau Gwresogi


Mae gwahanol ffyrdd o ofalu am wahanol fathau o systemau gwresogi os bydd nam ar y cyflenwad dŵr. Gwnewch yn siŵr pa fath o system sydd gennych chi a dilynwch y cyngor isod.

Unrhyw fath o system wresogi sydd â thanc storio dŵr oer a silindr dŵr poeth

Os oes gennych system wresogi sy’n defnyddio tanc storio dŵr oer (yn yr atig fel rheol) a bod y cyflenwad dŵr yn cael ei atal, ond bod y tanc storio dŵr oer yn llawn, mae'n ddiogel defnyddio'ch gwres canolog. Ond peidiwch â defnyddio’ch dŵr poeth. Efallai y bydd ychydig o ddŵr poeth ar gael o system sydd â thanc storio dŵr oer ar ôl i’r cyflenwad gael ei atal ond mae perygl y gallai’r tanc storio redeg yn sych. Os bydd hyn yn digwydd bydd yn creu trap awyr yn y system pan ddaw’r dŵr yn ôl, felly peidiwch â chael eich temtio i’w ddefnyddio.

Os yw’ch tanc storio dŵr oer yn wag, peidiwch â defnyddio’ch gwres canolog na’ch dŵr poeth gan y gallai hyn wneud i’ch silindr dŵr poeth sigo.

Boeler cyfunol

Os oes gennych foeler cyfunol (lle mae’ch dŵr poeth yn cael ei gynhesu’n uniongyrchol gan y boeler nwy ac nad oes gennych silindr dŵr poeth) gallwch ddefnyddio'ch gwres canolog, ond mae'n rhaid i chi beidio â defnyddio dŵr poeth o'r tapiau.

Economy 7

Os mai system Economy 7, sydd gennych, diffoddwch y gwresogyddion tanddwr.

System gwres canolog tanwydd solet/olew

Os oes gennych foeler cefn ar eich tân (h.y. os yw’ch tân yn cynhesu dŵr neu reiddiaduron yn eich cartref), peidiwch â chynnau eich tân tra bydd y cyflenwad dŵr wedi'i atal. Pan ddaw’r cyflenwad dŵr yn ôl, cyneuwch dân bach i ddechrau.

Os byddwch yn ansicr o unrhyw beth, cysylltwch â pheiriannydd gwresogi cymwysedig.