Fy Nghyfrif
Mae eich gwasanaeth Fy Nghyfrif wedi newid...
Beth sydd wedi newid?
Fe wnaeth ein gwasanaeth BETA Fy Nghyfrif lansio ar 14 Gorffennaf 2020.
Beth mae hyn yn ei olygu?
Os oedd gennych gyfrif gyda’n gwasanaeth blaenorol (cyn 14 Gorffennaf 2020) bydd angen i chi ail-gofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd sydd wedi’i ddiweddaru gan ddefnyddio eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer.
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i:
- Gwsmeriaid Cartref Newydd
- Cwsmeriaid Cartref Presennol
Nid yw’r gwasanaeth hwn ar gael eto i gwsmeriaid Masnachol, mae angen i chi barhau i ddefnyddio’r gwasanaeth ‘Fy Mil’ am nawr.
Byddwch ymhlith y cyntaf i wybod am unrhyw ddigwyddiadau yn eich ardal
Edrychwch a oes unrhyw waith yn parhau neu unrhyw ddigwyddiadau wedi’u hadrodd yn eich ardal, a chofrestrwch i dderbyn rhybuddion a diweddariadau.
Edrychwch nawrYn cyflwyno ein gwasanaeth Fy Nghyfrif ar-lein newydd
Rydym ni wedi gwrando ar eich adborth ac yn datblygu gwasanaeth newydd ar sail y nodweddion yr ydych wedi gofyn amdanyn nhw.
Mae Fy Nghyfrif yn ffordd hawdd o weld eich biliau, balans a thaliadau ar-lein. Y cyfan sydd ei angen i gofrestru yw eich cyfeirnod cwsmer (gallwch weld hwn ar frig eich bil papur diweddaraf), a rhai o’ch manylion i ni eu gwirio er diogelwch.
Rwy’n defnyddio Fy Mil – a gaf i newid i Fy Nghyfrif ar-lein?
Cewch! Cliciwch ar y botwm ‘Mynediad at Fy Nghyfrif ar-lein’ uchod, a chofrestrwch eich manylion i drosglwyddo eich cyfrif i’r gwasanaeth newydd. Bydd angen eich cyfeirnod cwsmer sydd ar frig eich bil diweddaraf.
Ar gyfer ein cwsmeriaid Fy Mil
Efallai eich bod wedi clywed am Fy Mil, ein gwasanaeth ar-lein i weld eich biliau dŵr. Rydym yn uwchraddio cwsmeriaid i’r gwasanaeth Fy Nghyfrif ar-lein gwell, ond gallwch chi ddefnyddio eich hen gyfrif Fy Mil o hyd.
Gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif Fy Mil presennol isod. Gallwch barhau i gael mynediad at eich cyfrif drwy’r modd hwn wrth i ni ddatblygu ein gwasanaethau Fy Nghyfrif ar-lein. Pan fyddwch yn barod i newid, cofrestrwch am Fy Nghyfrif gyda’ch cyfeirnod cwsmer.
Cwestiynau Cyffredin
Nid yn unig y byddwch yn arbed coed a bydd gennych lai o waith papur i'w ffeilio ond bydd hefyd mwy o reolaeth gennych dros eich cyfrif gan y byddwch yn gallu cadw llygad ar eich balans a'r taliadau a wnaed gennych.
Gall. Yr unig beth sydd angen arnoch yw cyfeiriad e-bost, y rhif cyfrif a gofrestrwyd yn erbyn eich cyfeiriad, eich cod post a'ch rhif ffôn i gychwyn y broses gofrestru. Byddwch chi wedyn yn cael eich harwain drwy'r broses hawdd, cam wrth gam.
Yn anffodus, ni allwn wneud y ddau. Ond gallwch lawr lwytho ac argraffu eich biliau yn hawdd o'ch cyfrif Fy Mil,os oes gennych fynediad at argraffydd. I ddarganfod sut i lawrlwytho bil, gwelwch y cwestiwn ‘Ni allaf weld na lawrlwytho fy mil?’.
Gallwch hefyd ddychwelyd at filiau papur unrhyw bryd trwy gwblhau ein ffurflen datgofrestru.
Mae’n flin genny, os na allwch weld eich biliau arlein. Cyn I chi ddarllen twy’r rhesymau, bydd angen neud siwr eich bod wedi cofrestru I’r gwasanaeth Fy Mil cyn I chi logio I fewn. Os nad ydych wedi cofresttu eto gweler y cwestiwn ‘Sut dwi’n cofrestru’.
Neu, dyma rhai o’r rhesymau a camau I ddeall pam mae hyn yn digwydd:
1) Gwnewch yn sicr eich bod wedi mewnbynnu eich manylion mewngofnodi yn gywir. Mae'n digwydd weithiau, mae llawer ohonom yn anghofio ein cyfrineiriau neu cyfeiriad e-bost, yn enwedig gyda mwy nag un i’w gofio. Os nad ydych yn cofio naill ai eich e-bost neu gyfrinair, neu'r ddau, cliciwch ar 'Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair’ neu ‘Rwyf wedi anghofio fy nghyfeiriad e-bost' ac fe awn drwy'r camau gyda’n gilydd i gael rhai newydd.
2) Gwnewch yn sicr bod gennych y fersiwn diweddaraf o’ch porth rhyngrwyd. Mae Fy Mil yn gweithio ar y mwyafrif o byrth rhyngrwyd ond mae fersiynau hŷn yn gallu achosi rhai problemau. Gallwch ddefnyddio gwefannau, megis Google, i gael gwybodaeth ar sut y gallwch uwchraddio i’r fersiwn diweddaraf.
3) Yw eich rhyngrwyd yn gweithio’n iawn? Fel arfer, mae yna olau ar eich llwybrydd neu modem sy'n gadael i chi wybod bod popeth yn gweithio’n iawn. Os nac oes golau, ceisiwch agor porth rhyngrwyd ar eich cyfrifiadur ac ewch i safle arall. Os na allwch agor unrhyw beth, mae'n debyg fod problem gyda'ch rhyngrwyd neu band eang. Ond peidiwch â phoeni, problem fach fydd hi fel arfer, a’r hen dric o droi popeth bant am 10 eiliad ac wedyn nôl ymlaen yw’r unig beth sydd angen ei wneud.
Os nad yw hynny yn gweithio, ceisiwch gysylltu â'ch darparwr rhyngrwyd. Dylent helpu chi i wneud gwiriadau arall i gael popeth yn gweithio eto mor gyflym a phosib.
4) Os ydych chi lan yn hwyr y nos neu’n gweithio oriau anghymdeithasol, yna efallai eich bod yn ceisio cael mynediad i'ch cyfrif Fy Mil yn gynnar yn y bore. Er mwyn sicrhau diweddaru cyfrifon ein holl gwsmeriaid bob dydd, rydym yn diffodd Fy Mil rhwng 1yb a 3yb i wneud hyn. Bydd ar gael fel arfer cyn neu ar ôl yr amseroedd hyn.
5) Weithiau, gall pethau fynd o chwith yn ein pen ni, ac os ydych wedi cyrraedd y cam hwn, mae’n ddrwg gennym na allwch weld eich biliau ar hyn o bryd. Efallai y bydd y mater yn fach neu’n fawr, ond os yw’n effeithio llawer o bobl, bydd neges ar ein tudalen hafan gyda gwybodaeth am y mater. Os nad yw’r neges ar ein tudalen hafan ac na allwch gael ateb o'r cwestiynau cyffredin yma, cysylltwch â ni.
Gallwch, mae'n bosibl dychwelyd i filiau papur unrhyw bryd. Yr unig beth y bydd yn rhaid i chi ei wneud yw cwblhau ein ffurflen dad-gofrestru. Os byddwch yn dad-goftrestru eich cyfrif Fy Mil, ni fyddwch yn gallu gweld eich balans na'ch taliadau
Cewch, unwaith i chi gofrestru gallwch ychwanegu cyfrifon arall i alluogi gweld biliau am fwy nag un eiddo. Logwch i mewn a chliciwch ‘Newid fy manylion’ ar ben y dudalen a dewiswch ‘Ychwanegu cyfrif’. Bydd angen eich cyfrifon cwsmer, cod post, a rhif ffôn am y cyfrifodd i’w ychwanegu (gweler eich biliau am y manylion yma).
Gallwch weld eich biliau mor bell yn ôl â mis Ionawr 2015 a byddant yn aros yn eich cyfrif Fy Mil am chwe blynedd.
Gallwch weld y taliadau a wnaed gennych ers eich bil diwethaf. Os hoffech gadarnhau faint rydych wedi ei dalu cyn hyn, edrychwch ar eich biliau blaenorol.
I ddechrau, peidiwch â phoeni. Mae diogelwch yn bwysig iawn i ni, felly rydym yn defnyddio safonau uchel o fesurau diogelu cwsmeriaid. Rydym yn rhoi'r mesurau hyn ar waith i sicrhau bod eich manylion personol yn ddiogel a ddim mewn perygl.
Ond os oes gennych unrhyw bryderon, amheuon neu os ydych am siarad â ni am ddiogelwch, cysylltwch â ni a byddwn yn fwy na pharod i'ch helpu.
Os ydych chi’n gwsmer ar fesurydd, a’n bod ni wedi cymryd darlleniad mesurydd yn ddiweddar, efallai y byddwn ni’n gallu eich ad-dalu neu adolygu eich taliadau. Os ydych chi wedi cael bil gennym ni yn ddiweddar, cysylltwch a byddwn yn rhoi gwybod i chi beth y gallwn ni ei wneud.
Efallai fod eich cyfrif mewn credyd oherwydd eich bod chi wedi bod yn gwneud taliadau ar gynllun talu a fydd yn talu tuag at eich bil nesaf. Yn yr achos hwn, ni fyddwn yn gallu eich ad-dalu.
Os nad oes gennych chi fesurydd dŵr a’ch bod mewn credyd, byddwn yn ei ostwng yn awtomatig o’ch bil blynyddol nesaf a anfonir bob Chwefror/Mawrth. Os byddai’n well gennych chi gael ad-daliad, cysylltwch â ni a byddwn yn trefnu hynny i chi.