Paratoi eich cartref am y gaeaf


Mae hi'n bwysig paratoi eich cartref am fisoedd oer y gaeaf. Dyma ambell i awgrym i’ch helpu chi i chi sicrhau bod eich cartref yn barod am y gaeaf.

Y Tri Lle Oer Mwyaf Problemus:

  • Pibellau dŵr a thapiau yn yr awyr agored
  • Pibellau mewn llefydd nad oes gwres – fel llofftydd, garejys neu gypyrddau cegin.
  • Adeiladau sy’n wag am ychydig ddyddiau, fel busnesau, ysgolion neu gartrefi gwyliau.

Cynigion Craff

Lapiwch eich pibellau a'ch tapiau

Os oes gennych bibellau yn yr awyr agored, neu mewn lle oer fel llofft neu garej, lapiwch nhw â deunydd inswleiddio neu becyn lagio. Mae stoc gyfyngedig o becynnau lagio ar gael yma.

I archebu eich pecyn, cofrestrwch gyda Get Water Fit, atebwch ambell i gwestiwn syml, wedyn pan fyddwch chi i mewn, gallwch archebu eich pecyn am ddim, Mae nifer o gynhyrchion arbed dŵr eraill ar gael hefyd.

Tapiau awyr agored

Peidiwch â gadael pibell ddyfrio ynghlwm wrth dap awyr agored. Os oes gennych dap y tu allan i’ch eiddo, caewch y falf (a all fod y tu fewn i'r adeilad) a draeniwch y tap a'r pibellau. Bydd hyn yn eu hatal rhag cael eu difrodi.

Atal diferu

Mae tapiau sy'n diferu’n gallu cynyddu'r risg fod pibellau'n rhewi. Bydd eu trwsio'n arbed litrau o ddŵr y dydd i chi hefyd, gan arbed ynni ac arian ar eich bil dŵr.

Ffeindiwch eich stoptap

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod ble mae'r stoptap, a’i fod e'n gweithio. Bydd angen i chi gyrraedd ato'n gyflym, a gwybod sut i'w gau os bydd y gwaethaf yn digwydd.

Mesurydd dŵr?

Os yw'ch mesurydd ar y wal y tu allan i'ch cartref, sicrhewch fod y pibellau sy'n mynd i mewn ac allan ohono wedi eu hinswleiddio ac nad oes unrhyw fwlch rhyngddynt. Gwnewch yn siŵr fod cwpwrdd y mesurydd wedi ei bacio â deunydd inswleiddio, a bod y drws yn dynn ar gau.

Oddi cartref?

Mae'r risg o broblemau’n uwch mewn adeiladau gwag. Os ydych chi’n gadael eich cartref neu'ch busnes, diffoddwch eich stoptap a draenio'r system – fel nad oes unrhyw ddŵr yn y system i rewi. Os ydych chi i ffwrdd am gyfnod byr, rydyn ni’n awgrymu cadw eich gwres ar osodiad isel er mwyn cadw eich cartref yn gynnes ac atal y pibellau rhag rhewi.

Cadwch eich cartref yn glyd

Cadwch eich cartref yn gynnes a chlyd trwy ddefnyddio peth atal drafftiau a chau'r llenni gyda'r nos. Cofiwch drefnu bod rhywun yn dod i gynnal a chadw eich bwyler a sicrhau bod eich rheiddiaduron yn gweithio'n iawn hefyd.

Trefnwch fod rhywun yn dod i gynnal a chadw eich bwyler ac i sicrhau bod eich rheiddiaduron yn gweithio'n iawn.

Inswleiddio'r llofft

Bydd inswleiddio'ch llofft – neu ategu unrhyw ddeunydd inswleiddio sydd gennych eisoes – yn eich helpu i wresogi eich cartref yn fwy effeithlon, gan arbed ynni a lleihau eich biliau. Mae inswleiddio waliau ceudod yn gallu helpu i gadw’ch cartref yn gynnes a chwtogi ar eich biliau gwres hefyd.

Cliriwch y gwteri

Cliriwch unrhyw ddail neu falurion o'ch gwteri a'ch draeniau. Bydd hyn yn helpu i atal tagfeydd a llifogydd, ac mae’n gallu atal gollyngiadau a difrod i'ch waliau a'ch to hefyd.

Ac yn olaf, ystyriwch berthnasau, ffrindiau a chymdogion

Helpwch nhw os oes angen help llaw arnynt i baratoi - ac efallai y gallech chi gytuno i gadw llygad ar eich cartrefi eich gilydd os ydych chi'n mynd i fod i ffwrdd.