Cwestiynau Cyffredin am gwsmeriad domestig
Cwestiynau Cyffredin
Rydym yn gwybod nad yw dŵr yn cyrraedd pob cartref yn yr un modd. Mae'n dibynnu ar leoliad, er enghraifft, yn ystod digwyddiad, gall cartrefi ar dir uwch golli dŵr yn gynt a gweld y dŵr yn dychwelyd yn hwyrach, na'r rhai ar dir is.
Er mwyn deall yr effaith ar bob cartref pan fydd toriadau dŵr, rydym yn defnyddio synwyryddion pwysedd arbennig yn ein pibellau dŵr. Mae'r rhain yn dangos i ni pan fydd pwysedd dŵr yn newid, a thrwy gyfuno hynny â gwybodaeth am leoliad eich eiddo, gallwn gyfrifo yn union pryd y dechreuodd neu y stopiodd y cyflenwad yn eich eiddo.
Gallai hyn olygu y gall cartrefi sydd wedi'u lleoli'n agos at ei gilydd dderbyn symiau gwahanol o iawndal, gan nad ydym yn edrych ar yr ardal ehangach yn unig, gallwn weld yr effaith ar eiddo unigol.
Y dull hwn o gyfrifo yw'r ffordd fwyaf cywir a theg sydd ar gael i ni.
Sut mae'r taliad yn cael ei gyfrifo
Os bydd tarfu ar eich cyflenwad dŵr yn barhaus am fwy na 12 awr yn olynol, mae gennych hawl i'r iawndal canlynol:
- £30 ar ôl i'r cyfnod llawn cyntaf o 12 awr fynd heibio.
- Ar ôl hynny, telir £30 ychwanegol am bob cyfnod o 12 awr llawn arall y mae'r cyflenwad yn parhau i ffwrdd.
Manylion Pwysig:
- Mae'r cloc yn dechrau pan fydd y dŵr yn mynd i ffwrdd.
- Dim ond ar ôl y 12 awr lawn gyntaf y byddwn yn dechrau asesu iawndal.
- Rhaid i unrhyw amser ychwanegol fod yn 12 awr lawn i fod yn gymwys i gael £30 arall. Er enghraifft:
- Os yw'r dŵr i ffwrdd am 23 awr, byddwch chi'n derbyn £30.
- Os yw’r dŵr i ffwrdd am 25 awr, byddwch chi'n derbyn £60.
- Os yw’r dŵr i ffwrdd am 36 awr, byddwch chi'n derbyn £90 (£30 am bob cyfnod llawn o 12 awr).
Fel arfer, bydd cwsmeriaid sy'n talu eu bil dŵr drwy ddebyd uniongyrchol yn cael eu talu drwy gredyd uniongyrchol i'w cyfrif banc.
Bydd cwsmeriaid nad ydynt yn ein talu drwy Ddebyd Uniongyrchol yn cael siec yn y post.
Os yw balans eich cyfrif Dŵr Cymru yn uwch na'r taliad iawndal, byddwn yn cymhwyso'r iawndal i'ch bil dŵr.
Os nad yw cwsmer yn talu Dŵr Cymru am ei wasanaethau ac yn talu cyfryngwr (h.y.. mae cwsmer yn talu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig), bydd Dŵr Cymru yn ad-dalu'r cyfryngwr a fydd yn gyfrifol am ad-dalu'r cwsmer.
Mae gan gwsmeriaid domestig yr hawl i gael £30 am bob 12 awr y buoch heb gyflenwad. Byddwn ni’n talu’r taliad hwn yn awtomatig..
Bydd ein Tîm Gweithrediadau Dŵr yn rhannu rhestr gyflawn o’r eiddo yr effeithiwyd arnynt â ni. Byddwn ni’n edrych ar yr eiddo hynny wedyn i weld a oedd cysylltiad cyflawn gan yr eiddo adeg y digwyddiad. Nid oes angen i gwsmeriaid gysylltu â ni am y byddwn ni’n gwneud hynny’n awtomatig.
Na chewch, dim ond y cwsmer sy’n talu’r bil dŵr fydd yn derbyn iawndal. Bydd gofyn i ddeiliad y cyfrif nad yw’n ddeiliad yn yr eiddo drosglwyddo’r iawndal i chi.
Nid oes modd negodi swm yr iawndal a delir am fod canllawiau’r diwydiant yn llywodraethu faint y gellir ei dalu.
Mae ein Tîm Munudau Cwsmeriaid a Gollwyd yn adolygu taliadau iawndal gan ddadansoddi data o’r cofnodwyr sydd wedi eu gosod ar ein rhwydwaith dŵr, sy’n dangos am ba mor hir y mae’r cwsmeriaid wedi bod heb gyflenwad. Mae’r data pwysedd a gasglwyd o’r ardal yn dangos nifer yr oriau y buoch heb gysylltiad.
Fel cwmni nid-er-elw, rydyn ni’n cael ein monitro’n dynn o ran unrhyw daliadau iawndal a wnawn, a rhaid dangos tystiolaeth o’r holl daliadau a wneir o dan y Safonau Gwasanaeth Gwarantedig yn unol â rheoliadau Ofwat.
Unrhyw un arall sy’n byw ar yr un aelwyd â deiliad y cyfrif (e.e. priod, partner neu blant y deiliad). Un taliad yn unig a wneir i bob aelwyd.
Byddwn ni’n talu deiliad cyfredol y cyfrif h.y. y person a enwir ar y bil ac sy’n derbyn y bil gennym ni.