Cais am fesurydd dŵr

Information

Rydym yn derbyn nifer uchel o geisiadau ac mae’n cymryd mwy o amser nag yr hoffem i drefnu apwyntiadau. Mae eich cais wedi ei gofnodi ac nid oes angen cysylltu â ni.

Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl wrth i ni brosesu eich cais.

Os ydych chi am gyflwyno cais am fesurydd, gallwch wneud hynny ar lein.

Dŵr Cymru'n edrych nôl ar aeaf mwyn ond stormus


11 Ebrill 2022

Mae Dŵr Cymru wedi cofnodi ei aeaf mwyaf gwydn hyd yn hyn, a hynny diolch i lwyddiant ei waith cynllunio rhagweithiol ar gyfer argyfyngau, a'i ymgyrchoedd i gwsmeriaid. Er y bu gaeaf 2021-22 yn fwy mwyn nag arfer, bu angen i'r cwmni daclo gwahanol fath o anawsterau – ar ffurf stormydd.

Mewn mis digynsail yn Chwefror 2022 cafodd ardal weithredu’r cwmni ei tharo gan dair storm mewn wythnos – Dudley, Eunice a Franklin – a oedd yn cynnwys rhybuddion tywydd coch ac a fyddai'n dod â goblygiadau i bob maes o'r busnes. I baratoi, trodd Dŵr Cymru at fodelu adnoddau a datblygu cynlluniau tywydd coch ar y cyfle cyntaf posibl, gan gynnwys gweithgareddau rhagweithiol fel sicrhau bod ei gronfeydd gwasanaeth yn llawn, sicrhau bod tanceri ar gael, cynyddu adnoddau ar draws y busnes, a newid o bŵer y prif gyflenwad i drydan generadur yn ei orsafoedd pwmpio gwledig rhag ofn bod y gwyntoedd cryfion yn effeithio ar y cyflenwad pŵer.

Dywedodd Jonathan Taylor, Uwch Reolwr Gwella Busnes Dosbarthu Dŵr: “Mae cynnal gwaith dosbarthu dŵr yn heriol ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond mae ychwanegu tywydd gaeafol at y peth yn gallu achosi pob math o broblemau sy'n rhoi straen ar y rhwydwaith ac ar ein hadnoddau.

“Rydyn ni'n falch dros ben o'n hymateb i’r tywydd gaeafol eleni. Bu ein gwytnwch yn dyst i’m cynlluniau parhad busnes cadarn, ein negeseuon cryf i gwsmeriaid a’r gwersi a ddysgwyd o ddigwyddiadau'r gorffennol. Yn sgil rhagolygon y tywydd, a'r rhybudd gan y Swyddfa Dywydd fod stormydd ar eu ffordd, bu angen i ni gynllunio ac ymateb yn gyflym.

“Rydyn ni wedi dysgu tipyn dros y degawd diwethaf. Achosodd Storm fawr y Dwyrain yn 2018 y sialens fwyaf erioed i ni o ran tywydd gaeafol. Byrstiodd nifer fawr o brif bibellau yn sgil y tymheredd isel, glaw mawr ac eira, a chollwyd bron i 2,5000 o gyflenwadau dŵr dros dro gan roi straen mawr ar weithrediadau'r canolfannau cysylltu a'r rhwydwaith. Dysgwyd nifer o wersi allweddol o ran cynllunio at argyfyngau o hynny, sydd wedi arwain at lai o effeithiau ar gwsmeriaid a chadw ein cydweithwyr yn ddiogel rhag digwyddiadau a damweiniau sy'n gysylltiedig â'r tywydd.”

Gwrandewch ar rifyn diweddaraf ein podlediad i glywed mwy gan Jon yma

Pan fo'r tymheredd yn disgyn, mae'r dŵr mewn pibellau a thapiau'n gallu rhewi, gan atal cyflenwadau dŵr a gwneud i bibellau fyrstio. Pibellau a thapiau yn yr awyr agored neu mewn mannau oer iawn sydd fwyaf tebygol o rewi. Dyna pam fod y cwmni'n cyflawni gwaith cynllunio ac ymgyrchu dwys wrth baratoi ar gyfer y gaeaf er mwyn sicrhau bod cydweithwyr a chwsmeriaid fel ei gilydd yn rhagweithiol ac mor barod â phosibl am dywydd oer, gan adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd mewn blynyddoedd blaenorol.

Mae’r cwmni’n atgoffa cwsmeriaid, er bod tywydd gaeafol yn gallu achosi problemau mawr, mae yna bob math o gamau rhagweithiol y gallant eu cymryd mewn digon o bryd i osgoi byrst trychinebus yn eu cartref. Yn ôl y ffigurau diweddaraf gan Go Compare, y safle cymharu prisiau yswiriant, o'r holl bobl a ymgeisiodd am ddyfynbris am yswiriant cartref trwy GoCompare gan ddatgan eu bod wedi hawlio ar bolisi rhwng Ionawr ac Awst 2021, roedd 25% o'r hawliadau hynny am ddŵr yn gollwng.

  • Ffeindiwch eich stoptap - bydd angen i chi allu cyrraedd ato'n gyflym, a gwybod sut i'w gau os bydd y gwaethaf yn digwydd.
  • Os oes pibellau a thapiau gennych yn yr awyr agored, neu mewn lle oer fel llofft neu garej, lapiwch nhw â deunydd inswleiddio neu becyn lagio. Mae stoc gyfyngedig o becynnau lagio ar gael yma.
  • Gall tapiau sy'n diferu gynyddu'r risg o bibellau'n rhewi, felly cofiwch eu trwsio nhw.
  • Mae perygl arbennig mewn adeiladau gwag. Wrth adael eich cartref neu'ch busnes, caewch y stoptap a draeniwch y system fel nad oes unrhyw ddŵr yn y system i rewi.