Dŵr Cymru i gyflawni allyriannau carbon net o sero erbyn 2040


4 Mehefin 2021

Fel un o ddefnyddwyr ynni mwyaf Cymru, mae Dŵr Cymru mewn sefyllfa unigryw i daclo argyfwng yr hinsawdd yn rhan o ras 'Tîm Cymru' Llywodraeth Cymru i gyflawni allyriannau o sero. Dyma ein Prif Weithredwr, Peter Perry'n esbonio pam fod hyn yn bwysig, a sut ry’n ni'n bwriadu cyrraedd y nod.

Heddiw, ochr yn ochr â'n canlyniadau blynyddol ar gyfer 2020-21, rydyn ni'n cyhoeddi ein cynlluniau i gyflawni allyriannau carbon net o sero erbyn 2040. Fel un o ddefnyddwyr ynni mwyaf Cymru, â bil ynni blynyddol o £46 miliwn, rydyn ni'n credu y bydd yr ymrwymiad yma'n chwarae rhan allweddol wrth drechu argyfwng y newid yn yr hinsawdd sydd wedi cael ei ddatgan gan Lywodraeth Cymru, a'i nod i gyflawni allyriannau carbon net o sero erbyn 2050.

Rydyn ni eisoes wedi dechrau gweld effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ar ein sector ac rydyn ni'n mynd i'r afael â goblygiadau tymor hwy hyn. Yng Nghymru rydyn ni'n gweld digwyddiadau o dywydd mwy difrifol fel sychder 2018 a Storm Dennis yn 2020, sy'n dangos yr amrywiadau mwy eithafol yn ein hinsawdd. Mae'r newidiadau hyn yn cael effaith sylweddol ar ein seilwaith dŵr a dŵr gwastraff ac felly rydyn ni am sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth y gallwn ni i leihau ein hallyriannau ein hunain.

Oherwydd natur ein busnes, rydyn ni'n rhan o ddiwydiant sydd wastad wedi gorfod defnyddio ynni’n ddwys er mwyn darparu gwasanaethau hanfodol, ac mae datgarboneiddio’n mynd i fod yn dipyn o sialens i ni. Rydyn ni'n cymryd y mater hwn o ddifri calon gan weithio gyda rhanddeiliaid, cynllunio gydag arbenigwyr, ac rydyn ni wedi gwrando ar ein cwsmeriaid wrth ddatblygu ein map ar gyfer y siwrnai i net o sero erbyn 2040.

Er bod llawer o waith o'n blaenau o hyd, gallwn fod yn falch o'n cynnydd hyd yn hyn. Rydyn ni wedi cymryd camau breision tuag at gyflawni allyriannau net o sero ers 2010, ac erbyn hyn rydyn ni'n cynhyrchu 23% o'r ynni sydd ei hangen arnom ein hunain trwy ynni'r gwynt, hydro, solar a threulio anaerobig uwch (AAD), gyda'r gweddill yn dod 100% o adnoddau ynni adnewyddadwy. Trwy fuddsoddi £21 miliwn pellach dros y pedair blynedd nesaf, byddwn ni 35% yn hunangynhaliol erbyn 2025. Rydyn ni wedi ymrwymo i fod 100% yn hunangynhaliol o ran ynni – neu'n ynni-niwtral – erbyn 2050.

Yn ogystal ag ymrwymo i fod yn garbon-niwtral erbyn 2040, ein nod yw cwtogi 90% ar gyfanswm ein hallyriannau carbon erbyn 2030. Er mwyn trawsnewid ein gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff, rydyn ni wedi neilltuo cyllideb o £68 miliwn – y swm mwyaf erioed – ar gyfer gwaith ymchwil ac arloesi dros y pum mlynedd nesaf. Bydd rhan helaeth o hyn yn ein helpu ni i ganfod a mabwysiadu technolegau carbon isel newydd. Rhwng nawr a 2040, byddwn ni'n arloesi er mwyn harneisio byd natur trwy ein cynllun bioamrywiaeth, adfer tir mawn, trin gwlyptiroedd a rheoli dalgylchoedd.

Mae cynllunio hirdymor yn hollbwysig i fusnes sy'n darparu gwasanaethau sy'n hanfodol i fywyd. Nid mater o bennu targedau ar gyfer allyriannau'r seilwaith neu weithrediadau yn unig yw hyn: ond yn hytrach, mater o newid ein ffordd o feddwl, cynllunio a chyflawni pethau. Yn hynny o beth, mae'r Bwrdd wedi ffurfio pwyllgor newydd, pwyllgor yr Amgylchedd, y Gymdeithas a Llywodraethu i ddarparu trosolwg manwl o'n strategaeth.

Byddwn ni'n cynyddu ein defnydd o ynni adnewyddadwy hefyd er mwyn bod yn fwy hunangynhaliol o ran ynni. Gan adeiladu ar lwyddiant ein parc ynni £36 miliwn yn Wrecsam yn y gogledd, rydyn ni wedi buddsoddi £50 miliwn yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Rhostir Cog ym Mro Morgannwg yn ddiweddar. Bydd hyn yn cynhyrchu digon o ynni glân a gwyrdd o garthffosiaeth i bweru'r gweithfeydd trwy ein cyfleuster Treulio Anaerobig Uwch hollol fodern – gan ei wneud yn safle ynni-niwtral.

Cwmni cymdeithasol-gyfrifol ydyn ni â phwrpas clir a gweledigaeth i ennill ffydd ein cwsmeriaid bob un dydd. Mae'r newid yn yr hinsawdd yn fygythiad gwirioneddol i genedlaethau'r dyfodol; a mater o gymryd cyfrifoldeb dros reoli sialens fwyaf ein hoes yw hyn. Byddwn ni'n canolbwyntio ar y tymor hir ac yn sicrhau ein bod ni'n helpu i amddiffyn ein cwsmeriaid, ein cymunedau a'r amgylchedd lleol, ac yn creu dyfodol gwell ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod.”