Byrst mewn Pibell Ddŵr - Brychdwn

Wedi’i ddiweddaru: 17:00 16 August 2025

Rydym yn parhau i weithio i adfer cyflenwadau dŵr mewn rhannau o Sir y Fflint yn dilyn ein gwaith i drwsio'r brif bibell ddŵr oedd wedi byrstio ym Mrychdyn.

Mae'r broses o ail-lenwi'r rhwydwaith dŵr ar y gweill. Mae hyn yn broses ofalus wedi ei reoli er mwyn osgoi gollyngiadau eilaidd ac i amddiffyn ansawdd y dŵr ar draws rhwydwaith eang yma o dros 500km. Rydym yn disgwyl i gyflenwadau ddychwelyd i'r ardaloedd canlynol dros nos a bore yfory. Amcangyfrifon yw'r amseroedd hyn a gallent newid wrth i ni ail-lenwi'r rhwydwaith.

  • Nos Sadwrn: Disgwylir i gyflenwadau ddychwelyd i'r Fflint, Bagillt, Treffynnon, a rhannau o'r Wyddgrug erbyn tua 9 PM.
  • Yn hwyrach nos Sadwrn: Bydd ail gam yr ail-lenwi yn dod â dŵr yn ôl i Lannau Dyfrdwy, Cei Connah a mwy o ardaloedd o'r Wyddgrug erbyn tua 11 PM.
  • Canol Sul: Bydd y cam olaf yn canolbwyntio ar eiddo cyfagos ym Mrychdyn ac ardal ehangach Sir y Fflint, gyda disgwyl adferiad llawn erbyn amser cinio yfory.

Efallai y bydd rhai eiddo yn cymryd mwy o amser i weld eu cyflenwad dŵr wedi'i adfer yn llawn. Gall hyn ddigwydd am sawl rheswm. Gall cartrefi ar dir uwch brofi pwysedd isel neu gyflenwadau ysbeidiol ar y dechrau oherwydd bod dŵr yn cymryd mwy o amser i gyrraedd ardaloedd uwch. Gall aer sydd wedi'i ddal yn y system hefyd rwystro llif y dŵr, ac mae ein timau'n gweithio i leoli a rhyddhau'r aer hyn. Yn ogystal, gall ail-lenwi'r rhwydwaith ar ôl aflonyddwch mawr weithiau achosi byrst neu ollyngiadau eilaidd, ond mae gennym dimau wrth law i drwsio rhain cyn gynted â phosibl.

Mae'n ddrwg iawn gennym am yr aflonyddwch ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd wrth i ni weithio i adfer cyflenwadau arferol cyn gynted â phosibl yn ddiogel.

Mae poteli dŵr dal ar gael dros nos o:

  • Pafiliwn Jade Jones, Y Fflint CH6 5ER
  • Maes Parcio a Theithio, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, CH5 2NY
  • Maes Parcio Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NF

Gofynnwn i gwsmeriaid gymryd y poteli dŵr sydd ei angen yn unig ac iddynt gysylltu â chymdogion bregus neu hŷn.

Rydym wedi cadarnhau trefniadau iawndal ac wedi cyhoeddi llythyr agored at gwsmeriaid yma.

I gael y newyddion diweddaraf, ewch i Yn Eich Ardal neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cynorthwyo ein cwsmeriaid pa fyddwch mewn angen


10 Hydref 2022

Rhwng 3 a 7 Hydref eleni, bu cydweithwyr yn Dŵr Cymru’n nodi Wythnos Genedlaethol Gwasanaethau Cwsmeriaid y Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Mae ein timau cymorth pwrpasol wedi bod yn rhannu awgrymiadau defnyddiol â chydweithwyr am sut y gallwn ni i gyd wneud rhagor i gynorthwyo ein cwsmeriaid. O ddangos sut y gallwn ni i gyd chwarae ein rhan i glustnodi cwsmeriaid a allai fanteisio ar gymorth ychwanegol, i rannu gwybodaeth am bwy y dylid cysylltu â nhw i gael y cymorth angenrheidiol i gwsmeriaid sydd dan amgylchiadau bregus.

Dywedodd Kim Hopkins, Rheolwr Cymorth Arbenigol i Gwsmeriaid gyda Dŵr Cymru: “R’yn ni’n gwybod bod ar ein cwsmeriaid angen help llaw o bryd i’w gilydd. Dim ots a ydyn nhw’n fregus yn ariannol ac yn cael trafferth fforddio’r hanfodion fel bwyd, biliau’r cyfleustodau a biliau dŵr, neu a ydynt yn fregus mewn ffyrdd eraill, oherwydd anabledd neu salwch tymor hir er enghraifft; rydyn ni yma i helpu, ac mae gennym dîm cyfeillgar wrth law i gynorthwyo cynifer o gwsmeriaid ag y gallwn ni.”

Ar hyn o bryd, mae dros 144,000 o gwsmeriaid yn derbyn cymorth ariannol gan Ddŵr Cymru, ac rydyn ni’n disgwyl i’r nifer yna godi yn sgil yr argyfwng costau byw.

Ychwanegodd Kim: “Nid mater o ‘un ateb i bawb’ mohoni wrth gynorthwyo cwsmeriaid, a dyna pam fod gennym amrywiaeth o gymorth ar gael i’n cwsmeriaid. I’r rheiny sy’n wynebu trafferthion ariannol, mae ein tariffau cymdeithasol yn cynnig ffordd o godi tâl ar ein cwsmeriaid yn seiliedig ar eu sefyllfa unigryw. Atebion tymor hir yw’r rhain ac maen nhw’n helpu i wneud bywyd ychydig bach yn haws trwy leihau costau. Mae gennym ni ein cynlluniau cymorth gyda dyledion hefyd, sy’n benodol ar gyfer ein cwsmeriaid sy’n wynebu trafferthion ariannol. Nod ein Cronfa Cymorth i Gwsmeriaid yw helpu cwsmeriaid sy’n wynebu dyledion dŵr i glirio’u balans, gwneud eu taliadau’n haws eu rheoli, a’u rhyddhau rhag pwysau dyledion yn y tymor hwy.”

Yn ogystal â thrafferthion ariannol, mae gan Ddŵr Cymru gymorth i’w gynnig i gwsmeriaid sy’n fregus mewn ffyrdd eraill hefyd. Mae cofrestr gwasanaethau blaenoriaeth Dŵr Cymru ar gael i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, ac mae dros 127,000 o gwsmeriaid eisoes wedi cofrestru.

“Mae cofrestru ar gyfer gwasanaethau blaenoriaeth Dŵr Cymru’n ffordd wych o sicrhau bod cwsmeriaid bregus yn cael ychydig bach o gymorth ychwanegol gennym. Rydyn ni’n cynnig gohebiaeth mewn fformatau hygyrch, fel print bras neu Braille, ac yn caniatáu i gwsmeriaid enwebu ffrind neu berthynas i siarad â ni neu i dderbyn gohebiaeth ar eu rhan. Gall cwsmeriaid cymwys sefydlu cynllun cyfrineiriau i’w hamddiffyn rhag galwyr ffug, ac wrth gwrs, gallant gael dŵr potel i’r drws os oes toriad yn eu cyflenwad.

“Nod ein gwaith wrth godi proffil y cynlluniau hyn gyda’n cwsmeriaid yn ystod Wythnos Gwasanaethau Cwsmeriaid yw helpu ein timau i glustnodi pobl sy’n cael trafferthion ac nad ydynt yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddynt. Rydyn ni’n gobeithio cael rhagor o atgyfeiriadau am gymorth fel y gallwn helpu cynifer o gwsmeriaid â phosibl.” meddai Kim.

Yn Dŵr Cymru, r’yn ni yma i helpu. Os oes angen help llaw arnoch chi, neu ar rywun rydych chi’n ei nabod, mae ein tîm cymorth arbenigol cyfeillgar yma i helpu. Cysylltwch â ni heddiw.

Am fanylion ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth a’n Cymorth Ariannol.