Gwasanaethau canolfan gyswllt ddydd Sadwrn 10 Mai

Bydd ein canolfan gyswllt biliau ar gau ddydd Sadwrn 10 Mai oherwydd gwaith i ddiweddaru systemau. Gallwch weld eich biliau, balans, llythyrau a rheoli eich cyfrif ar unrhyw adeg drwy fewngofnodi ar-lein yma.

Mae ein canolfan gyswllt gweithredol ar agor 24/7 ar gyfer unrhyw achosion brys yn ymwneud â dŵr neu ddŵr gwastraff.

Laura Woods

Sylw i Laura Woods, Ymgynghorydd (Bilio a Chasgliadau) o’r Tîm Cwsmeriaid Busnes


28 Mawrth 2025

Rydyn ni’n roi sylw i unigolion ar draws Dŵr Cymru sy’n gwneud ein timau’n arbennig. Yr wythnos hon, rydyn ni’n siarad â Laura sy’n gweithio yn ein tîm Cwsmeriaid Busnes, i glywed rhagor am ei rôl hi a rôl ei thîm.

Elli di esbonio dy rôl i ni?

Fel rhan o’r maes gwaith gwasanaethau cwsmeriaid busnes sy’n gweithio gyda’n cwsmeriaid busnes yn benodol, fy rôl i yw cysylltu â chwsmeriaid busnes sydd mewn dyled er mwyn eu cael nhw nôl ar y trywydd iawn ac yn talu eto. Mae rhai cwsmeriaid busnes yn gallu wynebu anawsterau ariannol, felly yn yr amgylchiadau hyn rwy’n gweithio gyda nhw i roi cynlluniau talu hwylus ar waith a’u rhoi nhw nôl ar y trywydd iawn.

Rydw i wedi bod yn gweithio dros Dŵr Cymru ers tua dwy flynedd a hanner bellach, ac rydw i wedi datblygu fy ngwybodaeth am faterion eraill, a gyda’r sgiliau hyn rwy’n gallu cynorthwyo meysydd gwaith eraill. Un o’r rhain yw sicrhau bod data cwsmeriaid – ac yn arbennig data am eu hanes talu – yn cael ei gadw’n gywir ar draws ein holl systemau.

Y llall yw gweithio ar ein llinell gymorth i gwsmeriaid lle’r ydw i’n cynorthwyo cydweithwyr gydag ymholiadau mwy cymhleth, oherwydd weithiau dyw ein proses safonol ddim yn gweithio i bawb, ac mae ar gwsmeriaid busnes angen dull mwy penodol o weithio.

Sut wyt ti’n gweithio gyda busnesau o fewn dy rôl?

Rydyn ni’n delio â phob math o gwsmeriaid busnes – o ffermwyr ac unig fasnachwyr i gwmnïau amlwladol mawr. Mae pob cwsmer busnes yn wahanol, er enghraifft, bydd anghenion siop gornel fach yn wahanol i anghenion archfarchnad fawr.

Rhan allweddol o fy rôl i yw cydweithio â gwahanol dimau i ddatrys problemau cymhleth cwsmeriaid. Er enghraifft, os oes gollyngiad gan gwsmer busnes, byddaf i’n cydweithio’n agos â’n tîm gollyngiadau preifat a’n tîm cyswllt â chwsmeriaid er mwyn cynnig diweddariadau rheolaidd i’r cwsmer. Byddaf i’n sicrhau bod y cwsmer yn deall y sefyllfa bob tro, a’r camau rydyn ni’n eu cymryd i’w ddatrys, yn ogystal â sut y mae’r mater yn effeithio ar eu bil.

Rydw i wedi meithrin perthnasau cryf â’r timau eraill yma fel y gallwn gyfuno ein gwybodaeth i ddatrys problemau cwsmeriaid cyn gynted â phosibl.

A elli di roi esiampl i ni am sut rwyt ti wedi helpu cwsmer busnes yn ddiweddar?

Cysylltodd ffermwr â ni’n ddiweddar am ei fod wedi cael bil uchel, oedd yn awgrymu bod dŵr yn gollwng. Fel llawer o ffermwyr, roedd ei gyflenwad dŵr yn gymhleth iawn, ac roedd ganddo bibell gyflenwi hir iawn oedd yn arwain at ein prif bibell ddŵr ni, felly doedd hi ddim yn mynd i fod yn hawdd ei datrys. Roedd e wedi dioddef profedigaeth yn y teulu’n ddiweddar hefyd, ac roedd e’n poeni sut byddai’n gallu fforddio talu’r bil.

Roedd yr ymchwiliad wedi bod yn rhygnu ymlaen gyda’r gwahanol adrannau ers sbel, ac roedd y cwsmer yn rhwystredig. Fe gamais i i mewn a chyflawni adolygiad manwl o’r cyfrif er mwyn deall beth oedd wedi digwydd a deall statws y gollyngiad. Fe gadarnhaon ni fod y gollyngiad wedi cael ei drwsio a phroseswyd lwfans gollyngiadau ar y bil. Roedd y ffermwr yn falch iawn â’r canlyniad ac roedd e’n gwerthfawrogi’r dull rhagweithiol o fynd ati. Dyma oedd y peth iawn i’w wneud i ddarparu cymorth ychwanegol ar gyfer y cwsmer o dan sylw.

Beth wyt ti’n hoffi gwneud y tu allan i’r gwaith?

Mae fy ffrindiau’n fy nisgrifio i fel tipyn o un am fwydydd. Rwy’n mwynhau teithio’n fawr iawn, ac rydw i wastad yn rhoi cynnig ar seigiau lleol - byddaf i’n dod â rhyw gynhwysyn lleol adref wrth deithio bod tro! Byddaf i’n aml yn ceisio ail-greu seigiau gartref, ond mae gen i ormod o ofn coginio ar gyfer pobl eraill felly i fi fy hun y byddaf i’n eu gwneud nhw. Yn fwyaf diweddar, fe es i i Berlin lle gefais i gyfle i flasu currywurst a bwydydd stryd eraill yn y marchnadoedd Nadolig, a chyn hynny fues i yng ngwlad Groeg yn mwynhau’r gyros mwyaf anhygoel!

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi gyda’ch bil busnes, edrychwch ar yr opsiynau sydd ar gael ar ein tudalen gymorth yma.