Cwrdd â’r Prentisiaid: Jessica Tucker
10 Chwefror 2025
Mae hi’n Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2025! Yn Dŵr Cymru, rydyn ni’n hynod falch o’n rhaglen brentisiaethau arobryn.
Mae’r cyfleoedd cyffrous yma ar draws ein timau dŵr, dŵr gwastraff a chynorthwyol mewn amryw o leoliadau ar draws Cymru, ac maen nhw’n caniatáu i bobl ddysgu sgiliau newydd wrth eu gwaith wrth ennill cyflog cystadleuol.
Yn Dŵr Cymru, mae gennym nifer fawr o weithwyr sydd wedi dod i mewn i’r busnes trwy’r llwybr prentisiaethau sy’n gwneud gwaith bendigedig i ni bob dydd. Rydyn ni’n credu’n gryf ei bod hi’n llwybr llwyddiannus i yrfa gwerth chweil gyda sy’n cynnig boddhad mawr.
Ond peidiwch â derbyn ein gair ni.
I ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, fe siaradon ni â Jessica Tucker, Prentis Technegydd Cynnal a Chadw i glywed rhagor am ei siwrnai fel prentis hyd yn hyn.
Beth yw dy rôl bresennol yn Dŵr Cymru?
Prentis technegydd cynnal a chadw ydw i ar hyn o bryd. Rwy’n gweithio yng ngweithfeydd trin dŵr gwastraff Bae Abertawe lle dechreuais i’r brentisiaeth mis Medi diwethaf.
Beth oedd dy brif ddiddordebau yn yr ysgol? Oedd unrhyw gynlluniau gyrfaol gennyt ti? Oeddet ti wedi ystyried prentisiaeth?
Y pynciau oedd yn fy niddori i fwyaf yn yr ysgol oedd celf a pheirianneg. Roeddwn i am ddilyn gyrfa a fyddai’n fy herio i fod yn greadigol. Mae peirianneg yn rhoi cyfleoedd i mi lle mae angen i mi feddwl y tu allan i’r bocs i ddatrys problemau. Doeddwn i ddim wedi ystyried prentisiaeth nes i mi ddod i Ddŵr Cymru am brofiad gwaith.
Sut cefaist ti wybod am gynllun prentisiaethau Dŵr Cymru? Beth wnaeth i ti ymgeisio?
Fe glywais i am y cynllun prentisiaethau pan oeddwn i’n gwneud profiad gwaith gyda Dŵr Cymru. Ar ôl mwynhau dysgu am y prosesau dŵr gwastraff a dŵr glân, a meithrin diddordeb yn y busnes a’i werthoedd, fe benderfynais i y byddai cynllun prentisiaeth yn fwy buddiol i fi na pharhau ag addysg lawn-amser yn ôl y bwriad. Rwy’n cael mynd i’r coleg ac ennill cymhwyster peirianneg o hyd yn ogystal â dysgu proffesiwn wrth weithio.
Sut brofiad oedd y broses ymgeisio a chyflwyno i ti? Sut oeddet ti’n teimlo pan ddysgaist ti dy fod ti wedi cael dy dderbyn yn brentis?
Roeddwn i’n llawn cyffro wrth clywed fy mod i wedi cael lle ar y cynllun prentisiaetha, yn enwedig yn syth ar ôl gadael yr ysgol ar ôl gorffen fy arholiadau TGAU. Roedd y broses ymgeisio’n syml, rhannodd AD wybodaeth â fi ar bob cam yn y broses. Bu’r diwrnod asesu’n addysgiadol iawn; a rhoddodd y cyfle i mi gwrdd â llawer o bobl eraill oedd yn mynd trwy’r un broses â fi yn ogystal â chwrdd â thîm Dŵr Cymru.
Dwed wrthym ni am dy siwrnai gyda Dŵr Cymru. Beth yw dy uchafbwynt hyd yn hyn?
Er nad ydw i wedi bod yn y busnes yn hir iawn, rydw i wedi gwneud llwyth o atgofion gwych yn barod. Un o’r uchafbwyntiau i mi oedd y diwrnod adeiladu tîm i brentisiaid yn Llyn Llandegfedd pan gawson ni’n cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr a thir sych fel taflu bwyeill, caiacio, rhwyf-fyrddio a saethyddiaeth. Rodd y diwrnod adeiladu tîm yn ffordd wych o rwydweithio â fy nghydweithwyr, ac roedd dod i nabod yr holl ddechreuwyr newydd yn hwyl. Ar ôl y diwrnod adeiladu tîm, fe ffeindiais i’r cyrsiau hyfforddi a’r coleg yn fwy cyffyrddus am fod yna ambell i wyneb cyfarwydd, sy’n gwneud gwahaniaeth mawr.
Sut mae’r cymorth i ddatblygu dy yrfa wedi bod.
Rwy’n teimlo’n hyderus wrth ddweud y bydd Dŵr Cymru’n darparu’r arweiniad a’r cymorth sydd eu hangen arnaf i ddatblygu yn fy ngyrfa. Rydw i wedi mynychu gweithdai ar ddatblygu fy ngyrfa a’r gwahanol ffyrdd o wneud hynny, fel llwybr gyrfaol igam-ogam. Maen nhw’n cynnig mentora a saffaris gyrfaol lle gallwch ymweld â rôl arall i weld a yw adran/swydd wahanol at eich dant. Un o’r pethau gorau am fod yn brentis yw eich bod chi’n ennill profiad yn ogystal â chymhwyster, ond mae gennych chi’r cyfle i gyflawni cymwysterau pellach hefyd, ac rwy’n credu bod hynny’n gallu dod â mwy o gyfleoedd yn y dyfodol.
Oes unrhyw gynlluniau gennyt ti am i ba gyfeiriad yr hoffet ti weld dy yrfa’n mynd yn y dyfodol?
Ar yr adeg yma yn fy ngyrfa, rydw i wir yn edrych ymlaen at gwblhau fy nghwrs a dod yn beiriannydd cymwys. Ar ôl cymhwyso, bydd modd trosglwyddo fy sgiliau i sawl rhan o’r busnes. Rydw i am chwarae rhan ymarferol yn un o’r nifer o weithgorau sy’n bodoli ar draws y busnes. Rydw i wedi ymuno â’r Grŵp Amrywiaeth Dŵr Gwastraff yn ddiweddar, a hoffwn i ddenu mwy o fenywod i mewn i rolau peirianneg gyda Dŵr Cymru.