Byrst mewn Pibell Ddŵr - Brychdwn

Wedi’i ddiweddaru: 07:45 16 August 2025

Gallwn gadarnhau bod y gwaith o atgyweirio’r brif bibell ddŵr a oedd wedi byrstio ym Mrychdyn wedi’i gwblhau ddydd Gwener.

Mae’r gwaith o ail-lenwi’r rhwydwaith dŵr yn mynd rhagddo. Bydd hyn yn cymryd amser gan fod angen i ni osgoi achosi unrhyw ffrwydradau eilaidd ar y rhwydwaith helaeth hwn sydd dros 500km o hyd.

Bydd yr anghyfleustra yn parhau dros y 48 awr nesaf wrth i'r rhwydwaith ail-lenwi'n raddol. Dylai’r cyflenwad fod wedi ei adfer ar gyfer y rhan fwyaf o gwsmeriaid yfory, ond ni fydd y cyflenwadau wedi eu hadfer yn llwyr i bawb tan ddydd Sul.

Mae'n ddrwg gennym am hyn. Roedd y gwaith o atgyweirio yn heriol gan fod y brif bibell ddŵr 5m o dan y ddaear a ceblau tanddaearol o’i gwmpas.

Rydym yn parhau i gefnogi ein cwsmeriaid mwyaf bregus, ac hefyd yn darparu dŵr i 2 ysbyty a 20 cartref gofal.

Gall cwsmeriaid gael cyflenwad o boteli dŵr yn ein canolfannau:

  • Pafiliwn Jade Jones, Y Fflint CH6 5ER
  • Maes Parcio a Theithio, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, CH5 2NY
  • Maes Parcio Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NF

Rydym yn gofyn i gwsmeriaid i gymryd y dŵr sydd angen arnyn nhw yn unig.

Os oes gennych unrhyw aelodau teulu, ffrindiau neu gymdogion hŷn neu fregus, rydym yn eich annog i wirio arnynt i sicrhau eu bod â dŵr potel.

Rydym wedi cyhoeddi’r manylion ynglŷn a’r iawndal yma.

Rydym wedi cyhoeddi llythyr agored at ein cwsmeriaid yma.

I gael y newyddion diweddaraf, ewch i Yn Eich Ardal neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Strategaeth Bioamrywiaeth 2022


14 Mehefin 2022

Yma yn Dŵr Cymru, rydyn ni'n angerddol ynghylch diogelu'r amgylchedd nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Heddiw, rydyn ni'n lansio ein strategaeth fioamrywiaeth ar gyfer 2022 sy'n pennu ein huchelgeisiau, ein hamcanion a'n cynllun gweithredu er mwyn cynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth a gwytnwch ecolegol ym mhopeth a wnawn.

Mae'r strategaeth yn ein galluogi ni i barhau i gyflawni ei swyddogaethau craidd wrth gynorthwyo ein rheoleiddiwr – Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng bioamrywiaeth sy'n ein hwynebu.

Fe siaradon ni â Chyfarwyddwr yr Amgylchedd, Tony Harrington, am y strategaeth a beth y mae'n ei olygu...

Yma yn Dŵr Cymru, yn hanesyddol rydyn ni wedi tueddu i ddilyn yr agenda rheoliadol a'r cyllid cysylltiedig, a gwella perfformiad ein hasedau er mwyn bodloni safonau penodol, sy'n aml yn gysylltiedig ag ansawdd dŵr. Trwy wella ansawdd y dŵr, ac mewn llawer o achosion, trawsnewid ansawdd afonydd lleol, aberoedd a dyfroedd arfordirol, rydyn ni wedi gwella bioamrywiaeth ddyfrol ac ecoleg y dyfroedd hyn hefyd. Ond o gymharu â'n buddsoddiadau mewn ansawdd dŵr, ac yn fwy diweddar ein hôl troed carbon, mae nifer y prosiectau penodol i wella bioamrywiaeth, boed ar y tir neu yn y dŵr, wedi bod yn gymharol fach.

Bwriedir i'r ffocws yma newid yn sgil lansiad ein strategaeth fioamrywiaeth, sy'n adeiladu ar ein gwaith dalgylch llwyddiannus sy'n canolbwyntio ar sicrhau gwelliannau o ran ansawdd dŵr ein dalgylchoedd dŵr yfed tir uchel. Trwy wella ac adfer cynefinoedd daear a dyfrol, mae’n cydnabod y gallwn, ac y byddwn ni'n gwneud gwelliannau i ansawdd dŵr, yn cloi carbon i mewn, yn lliniaru’r perygl o lifogydd, ac yn gwella llesiant ein cwsmeriaid am genedlaethau i ddod.

Mae ein strategaeth fioamrywiaeth yn pennu ein huchelgeisiau, amcanion a chynllun gweithredu er mwyn cynnal a gwella bioamrywiaeth a gwytnwch ecolegol ar draws ein hasedau gweithredol a'r tir sydd yn ein gofal, a hynny wrth gyflawni ein swyddogaethau. Bydd y strategaeth yn caniatáu i'r busnes barhau i gyflawni ei swyddogaethau craidd wrth gynorthwyo ein rheoleiddiwr – Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng bioamrywiaeth sy'n ein hwynebu. Trwy hynny, byddwn ni'n helpu i ddiogelu ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac yn bodloni disgwyliadau cwsmeriaid.

Bydd ein hamcanion strategol i gyflawni hyn, y mae ein cynllun bioamrywiaeth yn eu cynnal eisoes, yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

  1. Adfer cynefinoedd a gofalu am y safleoedd a amddiffynnir sydd dan ein gofal.
  2. Gweithio mewn partneriaeth â'n rheoleiddwyr a'n rhanddeiliaid, a hyrwyddo cyfleoedd ymchwil.
  3. Gwella rheolaeth dros rywogaethau goresgynnol anfrodorol (INNS).
  4. Datblygu a chysylltu ein cydweithwyr fel cenhadon, a gweithio er mwyn deall disgwyliadau ein cwsmeriaid yn well.
  5. Cynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth yn ein hasedau gweithredol ac ar y tir sydd yn ein gofal.

Mae ein cenhadaeth bioamrywiaeth – sef cynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth wrth gyflawni ein swyddogaethau er lles cenedlaethau heddiw a rhai'r dyfodol – yn cysylltu'n uniongyrchol â'n dyletswydd o dan Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae hyn yn gofyn hefyd ein bod ni'n cynhyrchu ac yn cyhoeddi cynllun gweithredu corfforaethol ar fioamrywiaeth ac yn adrodd ar gynnydd bob 3 blynedd. Cyhoeddwyd ein cynllun Bioamrywiaeth cyntaf yn 2017 ac fe'i hadnewyddwyd yn 2020. Byddwn ni'n cyhoeddi ein cynllun diweddaru nesaf yn 2023.

Trwy gyflawni'r genhadaeth yma, byddwn ni'n cynnal ac yn bodloni ein gofynion deddfwriaethol sy'n ymwneud â bioamrywiaeth ac ecoleg, ac felly'n helpu i osod ein busnes ar sylfaen gynaliadwy. Nod y strategaeth yw cyflawni gwelliannau mewn perfformiad yn y tymor byr, y tymor canolig (2030), a sicrhau bod ein cynlluniau'n parhau i fod yn gyson ag amcanion tymor hwy ein gweledigaeth ar gyfer 2050 a'r tu hwnt.

Rwy'n gobeithio y bydd hyn, a'r camau eraill rydym yn eu cyflawni fel busnes, yn ehangu'r gwaith partneriaeth rydym yn ei gyflawni ar hyn o bryd, yn arbennig mewn perthynas â'n gwelliannau i fioamrywiaeth. Rwy'n sicr y dylem fod yn gallu cyflawni mwy trwy weithio fel tîm Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at chwarae ein rôl er mwyn gwyrdroi'r argyfwng sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd o ran bioamrywiaeth, a hynny ar gyfer cwsmeriaid heddiw a rhai'r dyfodol.

Tony Harrington

Cyfarwyddwr yr Amgylchedd