Y Rhaglen Ymchwiliadau Cemegol
Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn gweithio i amddiffyn afonydd a dyfrffyrdd trwy drin y dŵr gwastraff o’n cartrefi a’n busnesau a’i ddychwelyd yn ddiogel i’r amgylchedd.
Un rhan o’r broses yma yw ymchwilio i ba sylweddau cemegol sy’n mynd i’n rhwydwaith o garthffosydd, sut maen nhw’n cyrraedd yno, a pha effaith y maent yn ei chael ar yr amgylchedd.
Yn 2010, lansiwyd rhaglen ymchwil genedlaethol mewn cydweithrediad ag UKWIR, corff a sefydlwyd gan ddiwydiant dŵr y DU ym 1993 i ddarparu fframwaith er mwyn caffael rhaglen ymchwil gyffredin ar faterion ‘un llais’ ar gyfer gweithredwyr dŵr y DU.
Mae’r rhaglen hon, sef y ‘Rhaglen Ymchwiliadau Cemegol’ neu CIP, yn cynnwys cwmnïau dŵr a charthffosiaeth ar draws y DU, rheoleiddwyr amgylcheddol ac arbenigwyr o’r diwydiant sy’n cyfrannu at ddull cenedlaethol o weithredu mewn perthynas â’r gwaith ymchwil yma.
Rydyn ni’n defnyddio pob math o gemegolion a chyfansoddion yn ein bywydau pob dydd sy’n gallu ffeindio’u ffordd i’n system rhwydweithiau gwastraff. Ymhlith pethau eraill, mae’r cemegolion hyn yn cynnwys metelau, cemegolion diwydiannol fel arafyddion tân, mathau o PFAS (Sylweddau Fflworineiddiedig a Pholyfflworineiddiedig), yn ogystal â bioladdwyr, plaladdwyr a sylweddau fferyllol.
Ers 2010, mae’r rhaglen wedi ymchwilio i bresenoldeb cannoedd o gemegolion, sydd wedi cael eu profi mewn labordai i ddeall sut maen nhw’n ymddwyn trwy’r gweithfeydd trin ac i ganfod a oes technoleg yn bodoli i gael gwared arnynt. Mae’r rhaglen hon wedi cynnwys agweddau fel microblastigau a gwrthiant gwrthficrobaidd mewn systemau trin dŵr gwastraff hefyd.
Yn yr un modd â chwmnïau dŵr a charthffosiaeth eraill, mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi darparu data o weithfeydd trin dŵr gwastraff o bob rhan o’n hardal weithredu, samplau o’n system o rwydweithiau carthffosiaeth, cyrsiau dŵr cysylltiedig a’n cynnyrch biosolidau (datblygedig) ar gyfer y rhaglen. Mae’r data yma’n cyfrannu at set data cenedlaethol sy’n cwmpasu gwahanol agweddau ar y gwaith ymchwil, fel y math o driniaeth dŵr gwastraff, ffynonellau posibl y cemegolion, mathau o ddalgylchoedd, a maint y gwaith trin ymysg meini prawf eraill.
Mae’r dull cydweithredol cenedlaethol yma o weithio’n rhoi’r cyfle gorau i’r diwydiant dŵr a’i bartneriaid gasglu cymaint o wybodaeth a dealltwriaeth â phosibl o’r gwaith ymchwil yma, yn ogystal â gwerth am arian ar gyfer ein cwsmeriaid. Mae’r wybodaeth yma’n cael ei rhannu’n agored â rheoleiddwyr, sy’n rhan o’r grwpiau llywio, er mwyn helpu i fwydo cyfeiriad gwaith rheoliadol cenedlaethol.
Ers dechrau’r rhaglen, mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cyfrannu cyllid a data at dros 30 o ymchwiliadau gwahanol, gan gynnwys dros 30 o weithfeydd trin dŵr gwastraff. Mae’r rhan ddiweddaraf o’r CIP a gwblhawyd yn cynnig porth data penodol sydd ar gael trwy wefan UKWIR.
Yn y cyfnod rhwng 2025-2030 bydd y rhaglen yn cyflawni ei 4ydd gyfnod, gan adeiladu ar ddata a chasgliadau rhaglenni ymchwil blaenorol.
I gael rhagor o fanylion am gyfnodau gwaith blaenorol y CIP, ewch i dudalen cyhoeddiadau UKWIR a chwilio am “CIP” i ddarllen y casgliad o adroddiadau a chrynodebau o brosiectau a gyhoeddwyd mewn perthynas â’r ymchwiliadau parhaus yma. Gallwch weld y data a gasglwyd hyd yn hyn ar borth data UKWIR yma.