Mae Partneriaeth Iechyd Dŵr Cymru’n dod ag ymarferwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol ynghyd i weithio ar faterion sy’n ymwneud â dŵr ac iechyd.

Mae ein cwmpas yn cynnwys cyflenwadau dŵr yfed preifat a chyhoeddus.

Ein prif nod yw sicrhau ein bod yn gwybod am faterion sy’n dod i’r amlwg, a chydweithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Rydym yn cynnwys cydweithwyr o’r holl sefydliadau cyfrifol yng Nghymru a Sir Henffordd.

Mae aelodaeth am ddim ac yn agored, trwy wahoddiad, i unrhyw un sy’n gweithio mewn rolau sy’n ymwneud â dŵr ac iechyd. Rydym yn ddiolchgar am gymorth ariannol Dŵr Cymru a chyfraniad gwirfoddol ein holl gydweithwyr.

Mae ein grŵp llywio’n cwrdd bob tri mis. Mae’n gosod ein cyfeiriad strategol ac yn datblygu perthnasoedd adeiladol rhwng partneriaid a rhanddeiliaid allweddol. Mae’r grŵp yn adolygu amcanion y bartneriaeth yn flynyddol ac yn monitro ein cynnydd.

Bob blwyddyn rydym yn trefnu digwyddiad blynyddol, fel arfer ym mis Gorffennaf. Diben y gynhadledd hon yw tynnu sylw at waith y bartneriaeth a chadw mewn cysylltiad â’n holl gydweithwyr.

Mae manylion pob cyfarfod a digwyddiad ar gael yng nghronfa ddat’r gweithle i’r rhai sydd â mynediad (gweler y ddolen yma).

Mae grwpiau gorchwyl a gorffen o gydweithwyr yr aelod-sefydliadau’n cynnal gwaith ymchwil a datblygu ar ran y bartneriaeth. Noddir pob grŵp gan aelod o’r grŵp llywio.

Ceir gwybodaeth am weithgarwch presennol y grwpiau gorchwyl a gorffen o dan Pynciau Allweddol.

Grŵp Llywio

Mae ein grŵp llywio’n cwrdd bob tri mis. Mae’n gosod ein cyfeiriad strategol ac yn datblygu perthnasoedd adeiladol rhwng partneriaid a rhanddeiliaid allweddol.

Canfod mwy