Pwy ydym ni

Rydym yn cynnwys cydweithwyr o’r holl sefydliadau cyfrifol yng Nghymru a Sir Henffordd. Mae’r wefan hon yn esbonio pwy ydyn ni, yr hyn rydym yn ei wneud a’r hyn rydym wedi’i gyflawni.

Mae hefyd yn cynnwys canllawiau a dolenni defnyddiol ar gyfer ymarferwyr iechyd proffesiynol a’r cyhoedd.

Newyddion

Mae ein dogfen canllawiau Digwyddiadau Dros Dro wedi'i diweddaru wrth baratoi ar gyfer tymor yr ŵyl eleni. Cafodd y ddogfen ganllawiau ei gynhyrchu ar y cyd â nifer o randdeiliaid gan gynnwys yr Arolygiaeth Dŵr Yfed, Awdurdodau Lleol, Iechyd Cyhoeddus, Cwmnïau Dŵr a Llywodraeth Cymru. Anogir trefnwyr yr ŵyl i ddefnyddio'r ddogfen i sicrhau eu bod yn gallu darparu dŵr iachus i'r rhai sy’n ymweld â’r ŵyl / digwyddiad a staff ar y safle. Mae modd lawrlwytho'r ddogfen ganllawiau isod.

Dogfen canllawiau Digwyddiadau Dros Dro

Grŵp

Llywio

Mae ein Grŵp Llywio yn cwrdd bob chwarter. Mae’n gosod cyfeiriad strategol ac yn datblygu cysylltiadau adeiladol rhwng partneriaid a gyda rhanddeiliaid allweddol.

Ein Grŵp Llywio

Cynhadledd WHP