Mae grwpiau gorchwyl a gorffen yn cyflawni gwaith ymchwil a datblygu ar ran y bartneriaeth. Mae’r pynciau ar hyn o bryd yn cynnwys:

Plwm

Noddwr y Grŵp a’r arweinydd

Carol Weatherley

Dŵr Cymru Welsh Water

Carol.weatherley@dwrcymru.com

Aims

Amcanion y grŵp hwn yw:

  • Codi ymwybyddiaeth rhanddeiliaid a’r cyhoedd am beryglon posibl plwm mewn dŵr yfed oherwydd pibellau plwm a sodr plwm.
  • Tynnu sylw at beryglon camddefnyddio sodrau sy’n seiliedig ar blwm mewn systemau dŵr yfed.
  • Datblygu neges gyson am beryglon iechyd cysylltiedig posib a sut gellir lleihau’r tebygolrwydd o ddod i gysylltiad â’r rhain.
  • Datblygu ymateb amlasiantaeth i reoli diffygion plwm er mwyn sicrhau y cymerir ymagwedd gyson a phriodol.
  • Llunio map o Gymru a Sir Henffordd sy’n dangos lleoliad tebygol pibellau plwm er mwyn nodi’r mannau a allai fod â’r nifer uchaf o beryglon.
Generic Document Thumbnail

Taflen Ffeithiau Plwm

PDF, 294.9kB

I gael mwy o wybodaeth, lawrlwythwch ein Taflen Ffeithiau Plwm.

Generic Document Thumbnail

Poster Sodr Plwm

PDF, 515.3kB

I gael mwy o wybodaeth, lawrlwythwch ein Poster Sodr Plwm.

Cyflenwadau Dŵr Preifat

Noddwr y Grŵp a’r arweinydd

Diane Watkin

Powys County Council

Diane.Watkin@powys.gov.uk

Aims

Amcanion y grŵp hwn yw:

  • Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu dealltwriaeth am effaith y Gyfarwyddeb Euratom ar gyflenwadau dŵr preifat, a datblygu fframwaith i gynorthwyo defnyddwyr cyflenwadau dŵr preifat lle bo problemau gyda radon.
  • Llunio dogfen fframwaith i reoli cyflenwadau amgen mewn argyfyngau a sefyllfaoedd nad ydynt yn argyfyngau, a’i chyflwyno i aelodau’r bartneriaeth.
  • Ystyried ac, o bosib, datblygu rhaglen cyfnewid gwybodaeth gydag Arolwg Daearegol Prydain.
  • Nodi, darganfod a mapio gwahaniaethau daearyddol neu sy’n benodol i boblogaethau mewn perthynas â chyflenwadau dŵr ac iechyd preifat yng Nghymru.
  • Er mwyn ymchwilio i’r berthynas rhwng digwyddiad a dosraniad ansawdd dŵr preifat yng Nghymru a dangosyddion iechyd sy’n amgylcheddol sensitif.

Dyfroedd Ymdrochi

Noddwr y Grŵp a’r arweinydd

Sam Naylor

City and Council of Swansea

Sam.Naylor@swansea.gov.uk

Amcanion y grŵp hwn yw:

  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni Strategaeth Dŵr Cymru, y Polisi Adnoddau Naturiol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
  • Archwilio trefniadau i ariannu systemau rhagfynegi a diystyru ychwanegol cadarn ar draethau perthnasol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
  • Cynnal gwaith ychwanegol ar draethau i archwilio’r posibilrwydd o gyflawni statws ‘Da’ er mwyn paratoi ar gyfer adolygu’r gymhareb a dileu’r safon ‘Digonol’.
  • Defnyddio cyllid ‘Acclimatize’ a chydgymorth i gynorthwyo cydweithwyr i ddatblygu cynlluniau rheoli er mwyn osgoi unrhyw ddiffyg mewn ansawdd dŵr ymdrochi.
  • Cyflwyno ymagwedd bartneriaeth well at system rhybuddio am ollyngiadau Dŵr Cymru sy’n gweithredu yng Nghymru.

Ymgynghoriadau

Mae’r bartneriaeth yn ymateb i ymgynghoriadau sy’n ymwneud â dŵr ac iechyd wrth iddynt godi.

Y nod bob amser yw defnyddio ein harbenigedd cyfunol yn adeiladol a chodi ein proffil. Mae Martin yn hidlo ymgynghoriadau newydd ac yn tynnu sylw’r grŵp llywio at rai perthnasol. Yna caiff grwpiau ad hoc eu ffurfio i ddatblygu a chyflwyno ein hymatebion.

Tasgau Anactif

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am Dasgau Anweithredol a Grwpiau Gorffen.

Canfod mwy