Bydd aelwydydd nad oedd yn gymwys i gael cymorth ariannol gan Dŵr Cymru, na llawer o wasanaethau eraill (ynni, y dreth gyngor ac ati) nawr yn gallu cael cymorth drwy ein Cronfa Gymorth 'Cymuned'.

Pan fydd unigolyn neu deulu’n wynebu ergyd ariannol, gall ychydig o gefnogaeth yn gynnar eu hatal rhag mynd i drafferthion ariannol difrifol yn ddiweddarach. Mae’r gefnogaeth hon rhoi ychydig o amser i aelwydydd roi trefn ar bethau.

Bydd y Gronfa yn cynnig cefnogaeth tymor byr i aelwydydd sydd wedi mynd i gyllideb negyddol.

Pwy sy’n gymwys?

Bydd ar gael i aelwydydd sy’n gweithio, nad yw cyfanswm incwm y cartref yn fwy na £50,000 a pan fo biliau’r aelwyd yn fwy na’u hincwm yn ôl asesiad Incwm a Gwariant gan drydydd parti.

Pa gefnogaeth y gallen nhw ei chael?

Mae’n bosibl y byddan nhw’n cael cyfnod ‘heb dalu’ am 3 mis, pryd y bydd taliadau parhaus yn cael eu canslo ac nid oes rhaid iddyn nhw dalu unrhyw beth yn ystod y cyfnod hwnnw ychwaith. Nid yw’r swm yn ad-daladwy. Mae hyn yn cyfateb yn fras i ostyngiad o £100-£120 ar y bil cyfartalog.

Sut gall cartrefi elwa ar y Gronfa Gymorth Cymuned?

Bydd angen i gwsmeriaid gael eu cyfeirio at bartner dibynadwy,fel Asiantaeth Cynghori ar Ddyledion, Awdurdod Lleol neu Gymdeithas Tai a fydd yn cwblhau asesiad incwm a gwariant.

Ni all cwsmeriaid wneud cais yn uniongyrchol i Dŵr Cymru i gael ei dderbyn i’r Gronfa Gymorth Cymuned.

Ni fydd cwsmeriaid sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer tariff cymdeithasol neu gynllun fforddiadwyedd eraill, neu sydd eisoes yn elwa ar fod ar gynllun tariff neu ddyled gymdeithasol, yn gymwys ar gyfer y Gronfa hon. Dim ond unwaith bob 3 blynedd y bydd cwsmeriaid yn gymwys.

Sut fydd y Gronfa Gymorth Cymuned yn gweithio?

Ar ôl i’r cwsmer gael ei dderbyn i’r Gronfa, bydd taliadau parhaus am y 3 mis nesaf yn cael eu canslo ac nid oes disgwyl iddo wneud unrhyw daliadau yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y cyfnod heb dalu’n dechrau o’r dyddiad y mae cwsmer yn cael ei dderbyn i’r gronfa a bydd yn dod i ben wedi i’r cyfnod o 3 mis ddod i ben.

Fel amod o gael eu derbyn i’r Gronfa Gymuned, mae’n rhaid i gwsmeriaid gytuno i drefniant i dalu eu taliadau (cynllun talu) ar ddiwedd eu cyfnod heb dalu. Os oes gan gwsmer sy’n gwneud cais am y Gronfa gynllun talu eisoes ar waith, e.e. Debyd Uniongyrchol, bydd y dyddiadau talu yn cael eu diwygio i ystyried y cyfnod heb dalu.