Cynnig cymorth ariannol gan Ddŵr Cymru. Ei nod yw helpu aelwydydd sy’n gweithio sy’n cael trafferth fforddio’r hanfodion, fel eu bil dŵr.

Beth yw’r cynllun?

Bydd aelwydydd cymwys yn cael cyfnod o dri mis ‘heb dâl’, sef disgownt o tua £100-£120 yn seiliedig ar y bil blynyddol cyfartalog.

Pwy sy’n gymwys?

Aelwydydd ag o leiaf un oedolyn sy’n gweithio:

  • y mae cyfanswm eu hincwm cyfunol yn £50,000 y flwyddyn neu lai,
  • y mae eu biliau domestig yn fwy na’u hincwm,
  • nad ydynt yn gymwys ar gyfer unrhyw un arall o gynlluniau dyledion neu dariffau cymdeithasol Dŵr Cymru.

Sut mae’n gweithio?

Ni all cwsmeriaid wneud cais yn uniongyrchol i Ddŵr Cymru. Rhaid iddynt lenwi asesiad o incwm a gwariant gyda sefydliad fel Asiantaeth Cynghori ar Ddyledion, Awdurdod Lleol neu Gymdeithas Tai.

Am fanylion

Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn gymwys ar gyfer y Gronfa Cymuned, dylech eu cyfeirio at un o’n partneriaid: